Ymgymryd â hylendid personol i unigolion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i ofalu amdanynt eu hunain

URN: SFHCHS11
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â hylendid personol i'r unigolion hynny sy'n methu  gofalu amdanynt eu hunain.  Mae hyn yn cynnwys gofal y croen, y geg, y trwyn, y llygaid a'r clustiau.

Gall hyn ddigwydd mewn sefyllfaoedd gofal dwys mewn ysbyty a sefyllfaoedd dibyniaeth uchel, ond byddai'n berthnasol hefyd mewn cartrefi gofal/preswyl, hosbisau ac yng nghartref yr unigolyn ei hun.

Ar adegau, gall fod angen i chi ymgymryd â'r gweithgareddau hyn o dan amodau aseptig a bydd angen i chi ddilyn canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. lle y bo'n berthnasol i'r sefyllfa, defnyddio techneg aseptig gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
  9. gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  10. rhoi gwybodaeth berthnasol, cymorth a sicrwydd i'r unigolyn mewn modd sy'n sensitif i'w anghenion a'i bryderon
  11. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  12. paratoi i ymgymryd â'r gweithgaredd hylendid personol
  13. cadarnhau bod yr holl gyfarpar a defnyddiau ar gyfer hylendid personol:

    • fel y'u nodwyd/hamlinellwyd yng nghynllun gofal yr unigolyn
    • yn briodol i'r weithdrefn
    • yn addas i'r diben 
  14. ymgymryd â'r hylendid personol:

    • ar amser priodol yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
    • gan ddefnyddio technegau priodol
    • yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
    • mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur, preifatrwydd ac urddas yr unigolyn ac yn lleihau poen a thrawma 
  15. gwylio a chefnogi'r unigolyn trwy gydol yr hylendid personol

  16. adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol
  17. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth ymgymryd â hylendid personol a chanlyniadau posibl ymarfer gwael 
  13. pam y dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am y gweithgaredd neu'r weithdrefn
  14. pam y dylid paratoi adnoddau cyn i chi ddechrau'r gweithgaredd
  15. pam y gall eich credoau personol beri anawsterau i chi gyda rhai gweithdrefnau a sut rydych chi'n rheoli'r gwrthdaro hwn yn ymarferol
  16. y pryderon posibl sydd gan unigolion yn gysylltiedig â rhai gweithgareddau hylendid personol
  17. yr adweithiau niweidiol a all ddigwydd yn ystod ac ar ôl gweithgareddau hylendid personol a sut i adnabod a delio â'r rhain
  18. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i lanhau'r croen, y trwyn, y geg, y llygaid a'r clustiau
  19. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer y weithdrefn
  20. pwysigrwydd ymgymryd â gweithgareddau hylendid personol ar ran unigolion
  21. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Hylendid, personol, cymorth, methu