Ymgymryd â gofal am stoma
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â gofal am stoma perfedd/pledren. Gall hyn fod ar gyfer unigolion â stomata newydd neu unigolion sydd wedi cael stoma ers tro ac yn methu gofalu am eu stoma eu hunain.
Pan fydd y stoma newydd ei ffurfio yn y cyfnod yn syth ar ôl llawdriniaeth, rhaid ymgymryd â'r gweithgareddau hyn gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad.
Mae'r safon yn berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, cartref yr unigolyn ei hun neu leoliadau cymunedol eraill, fel meddygfeydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgarwch arfaethedig
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau ar gyfer gofal stoma:
- wedi'u nodi/hamlinellu yng nghynllun gofal yr unigolyn
- yn briodol i'r weithdrefn
- yn addas i'r diben
cyflawni gofal stoma:
- ar amser priodol yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
- gan ddefnyddio technegau priodol
- yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur ac urddas yr unigolyn ac yn lleihau poen a thrawma
gwylio a chefnogi'r unigolyn trwy gydol gofal y stoma
- adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol
- annog unigolion i gyfleu unrhyw bryderon am weithrediad ac anghenion gofalu am eu stoma
- monitro ac adrodd ar batrwm gweithrediad stoma'r unigolyn, ansawdd gwastraff y corff ac unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd
- annog a chynorthwyo unigolion i ddewis a bwyta bwyd a diod a chymryd meddyginiaeth, os caiff ei rhoi ar bresgripsiwn, i gynnal gweithrediad effeithiol stoma
- darparu cymorth gweithredol i unigolion reoli'u stoma'u hunain mewn modd sy'n hybu hunan-barch, yn sicrhau'r preifatrwydd mwyaf ac sy'n gyson â'r cynllun gofal
- darparu cyfarpar gofal stoma ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i anghenion ac amgylchiadau unigolion
- cymryd camau priodol pan fydd y cyfarpar gofal stoma yn ymddangos yn amhriodol neu'n anaddas
- rhoi cyfle i unigolion gael gwared ar eu cyfarpar gofal stoma eu hunain sydd wedi'i ddefnyddio a chynnal eu hylendid personol
- sicrhau bod cyfarpar a llieiniau budr yn cael eu gwaredu yn ddiogel, yn hylan ac mewn ffyrdd sy'n lleihau risg croes-heintio
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pam y dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am y gweithgaredd/neu'r weithdrefn
- sut gall eich credoau personol beri anawsterau i chi gyda rhai gweithdrefnau a sut rydych chi'n rheoli'r gwrthdaro hwn yn ymarferol
- y pryderon posibl sydd gan unigolion yn gysylltiedig ag ymgymryd â gofal am stoma
- pwysigrwydd bod yn sensitif i amgyffrediad yr unigolyn o'r sefyllfa
- y ffactorau a fydd yn effeithio ar lefel y cymorth y mae ei angen, fel oedran, cyflwr meddygol, credoau personol a dewisiadau
- yr adweithiau niweidiol a all ddigwydd yn ystod ac ar ôl gweithgareddau gofalu am stoma a sut i adnabod a delio â'r rhain
- rôl yr ymarferwr arbenigol ar Ofal Stoma a sut y gellir cysylltu â'r ymarferwr
- y gwahanol fathau o stoma
- yr anatomi yn gysylltiedig â safle a swyddogaeth
- colostomïau
- ileostomïau
- cwndidau ilëol
- neffrostomi
- effeithiau diet a symudedd ar weithrediad stoma
- canlyniadau posibl halogi systemau draenio stoma
- y cyfarpar, y deunyddiau a'r teclynnau sydd ar gael ar gyfer gofal stoma
- addasrwydd teclynnau stoma ar gyfer gwahanol fathau o stoma
- pwysigrwydd cynnwys yr unigolyn wrth ofalu am ei stoma
- pwysigrwydd darparu digon o ddeunyddiau gofal stoma i'r unigolyn fel y gall ofalu am y stoma ei hun
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel