Cynnal cofnodion ariannol a pharatoi cyfrifon

URN: SFHBG6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2012

Trosolwg

Mae’r uned hon yn ymwneud â chasglu a chofnodi gwybodaeth er mwyn paratoi cyfrifol a chynnal cofnodion effeithiol. Mae’n ymwneud â nodi’r math o wybodaeth sy’n ofynnol, ei chofnodi, gwneud cyfrifiadau neu addasiadau priodol a chynnal y cofnodion priodol. Mae hefyd yn ymdrin â chyflwyno’r wybodaeth i’ch goruchwyliwr ar ffurf mantolen brawf neu fantolen brawf estynedig. Mae’r uned yn gofyn am drin ymholiadau, gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau a chynnal cyfrinachedd. Mae sicrhau eich bod yn cynnal trywydd cyfrifyddu ysgrifenedig yn rhan annatod o’r uned. Nid yw’r uned hon yn ymdrin â gweithgareddau a wneir gan eich cyfrifydd fel arfer, fel gosod y cyfraddau dibrisiant.

Mae pedair elfen:

1    Cynnal cofnodion sy’n ymwneud â chaffael a gwaredu cyfalaf
2    Cofnodi incwm a gwariant
3    Casglu a choladu gwybodaeth ar gyfer paratoi cyfrifon terfynol
4    Paratoi’r fantolen brawf estynedig

Bydd angen i ddefnyddwyr y cymhwysedd hwn sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal cofnodion sy’n ymwneud â chaffael a gwaredu cyfalaf

P1. cofnodi manylion perthnasol yn ymwneud â gwariant cyfalaf yn gywir yn y cofnodion priodol

P2. sicrhau bod cofnodion y sefydliad yn cytuno â phresenoldeb ffisegol eitemau cyfalaf

P3. nodi a chofnodi’r holl gostau a refeniw caffael a gwaredu yn gywir yn y cofnodion priodol 

P4. cyfrifo a chofnodi taliadau dibrisiant a chofnodion ac addasiadau angenrheidiol eraill yn gywir yn y cofnodion priodol

P5. sicrhau bod y cofnodion yn dangos yr awdurdod ymlaen llaw ar gyfer gwariant cyfalaf a gwaredu yn glir ac yn nodi’r dull cymeradwy o gyllido a gwaredu 

P6. cyfrifo a chofnodi elw a cholled ar waredu yn gywir yn y cofnodion priodol

P7. cadw at bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad sy’n ymwneud â chynnal cofnodion cyfalaf

P8. nodi diffyg cytundeb rhwng eitemau ffisegol a chofnodion, a naill ai datrys y mater neu ei atgyfeirio i’r unigolyn priodol

P9. pan fo’n bosibl, gwneud awgrymiadau i’r unigolyn priodol ar gyfer gwella’r ffordd y mae’r sefydliad yn cynnal ei gofnodion cyfalaf

Cofnodi incwm a gwariant

P10. nodi a chofnodi’r holl incwm a gwariant yn gywir yn y cofnodion priodol

P11. nodi incwm a gwariant cronedig a rhagdaledig perthnasol yn gywir a gwneud addasiadau

P12. cydymffurfio â pholisïau, rheoliadau, gweithdrefnau a graddfeydd amser y sefydliad mewn perthynas â chofnodi incwm a gwariant

P13. nodi data anghyflawn, a naill ai datrys y mater neu ei atgyfeirio i’r unigolyn priodol

Casglu a choladu gwybodaeth ar gyfer paratoi cyfrifon terfynol

P14. paratoi cyfrifon a chysoniadau perthnasol yn gywir fel y gellir paratoi cyfrifon terfynol 

P15. nodi a chofnodi’r holl wybodaeth berthnasol yn gywir

P16. cynnal ymchwiliadau i drafodiadau busnes mewn modd cynnil a chwrtais

P17. cydymffurfio â pholisïau, rheoliadau, gweithdrefnau a graddfeydd amser y sefydliad mewn perthynas â pharatoi cyfrifon terfynol

P18. nodi anghysondebau a nodweddion anarferol, a naill ai eu datrys neu eu hatgyfeirio i’r unigolyn priodol 

P19. paratoi’r fantolen brawf yn gywir a, phan fydd angen, agor cyfrif dros dro
a’i gysoni

Paratoi’r fantolen brawf estynedig

P20. cofnodi cyfansymiau o’r cyfriflyfr cyffredinol neu gofnodion eraill yn gywir ar y fantolen brawf estynedig

P21. nodi, olrhain ac atgyfeirio gwallau sylweddol a ddatgelir gan y fantolen brawf i’r awdurdod priodol 

P22. cofnodi addasiadau na ymdriniwyd â nhw yng nghyfrifon y cyfriflyfr ar y fantolen brawf yn gywir

P23. cofnodi prisiad cytunedig o stoc derfynol yn gywir ar y fantolen brawf estynedig 

P24. cydymffurfio â pholisïau, rheoliadau, gweithdrefnau a graddfeydd amser y sefydliad mewn perthynas â pharatoi mantolenni prawf estynedig

P25. nodi anghysondebau, nodweddion anarferol neu ymholiadau, a naill ai eu datrys neu eu hatgyfeirio i’r unigolyn priodol

P26. ymestyn a chyfansymu’r fantolen brawf estynedig yn gywir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. cysyniadau ac egwyddorion cyfrifyddu sylfaenol – cyfateb incwm a gwariant o fewn cyfnod cyfrifyddu, cost hanesyddol, croniadau, cysondeb, doethineb, perthnasedd 

K2. egwyddorion cyfrifyddu cofnodi dwbl

K3. y gwahaniaeth rhwng gwariant cyfalaf a refeniw, a’r hyn sy’n gyfystyr â gwariant cyfalaf

K4. swyddogaeth a ffurf cyfrifon ar gyfer incwm a gwariant

K5. swyddogaeth a ffurf mantolen brawf, cyfrif elw a cholled a mantolen ar gyfer unig fasnachwyr, partneriaethau, cyfrifon gweithgynhyrchu a chyfrifon clwb

K6. egwyddorion sylfaenol prisiad stoc: cost neu werth realeiddiadwy net (NRV); beth sydd wedi’i gynnwys yn y gost

K7. amcanion gwneud darpariaethau ar gyfer dibrisiant a dibenion eraill

K8. swyddogaeth a ffurf cyfrifon terfynol

K9. dulliau dibrisiant: llinol; balans gostyngol

K10. triniaeth gyfrifyddu eitemau cyfalaf a gafodd eu gwerthu, eu sgrapio neu eu tynnu’n ôl o wasanaeth fel arall 

K11. defnyddio cofrestrau offer a chofnodion ategol tebyg K12 defnyddio cyfnodolyn trosglwyddiadau

K13. dulliau cyllido: bargeinion rhan-gyfnewid 

K14. triniaeth gyfrifyddu croniadau a rhagdaliadau         

K15. dulliau o ddadansoddi incwm a gwariant

K16. dulliau o ailstrwythuro cyfrifon o dystiolaeth anghyflawn          

K17. nodi a chywiro gwahanol fathau o wallau

K18. gwneud ac addasu darpariaethau
K19. mathau o wahanol asedau, a’u nodweddion, a materion allweddol sy’n ymwneud â chaffael a gwaredu asedau cyfalaf 

K20. deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol 

K21. prif ofynion datganiadau arferion cyfrifyddu safonol (SSAPau) perthnasol

K22. dulliau o gofnodi gwybodaeth ar gyfer cyfrifon sefydliadol: unig fasnachwyr; partneriaethau; cyfrifon gweithgynhyrchu; cyfrifon clwb

K23. strwythur cyfrifon sefydliadol: unig fasnachwyr; partneriaethau; cyfrifon gweithgynhyrchu; cyfrifon clwb

K24. yr angen i gyflwyno cyfrifon ar y ffurf gywir

K25. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd trafodiadau busnes 

K26. sut mae strwythur sefydliad, ei systemau a’i weithdrefnau gweinyddol a natur ei drafodiadau busnes yn effeithio ar ei systemau cyfrifyddu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

I’w gytuno


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHBG6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Iechyd, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau, Alcohol, Sylweddau, Camddefnyddio, Cam-drin, Comisiynu