Gwneud a chofnodi taliadau

URN: SFHBG5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2012

Trosolwg

Mae’r uned hon yn ymwneud â delio â dogfennau gan gyflenwyr a dogfennau archebu a danfon, paratoi taliadau, cofnodi gwariant yn y cofnodion priodol, a gwneud taliadau sy’n ymwneud ag anfonebau, cyflogau, ac arian mân.

Mae tair elfen:

1    Prosesu dogfennau sy’n ymwneud â nwyddau a gwasanaethau a dderbyniwyd
2    Paratoi taliadau awdurdodedig
3    Gwneud a chofnodi taliadau

Bydd angen i ddefnyddwyr y cymhwysedd hwn sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Prosesu dogfennau sy’n ymwneud â nwyddau a gwasanaethau a dderbyniwyd

P1. gwirio anfonebau a nodiadau credyd cyflenwyr yn erbyn nodiadau danfon, dogfennau archebu a thystiolaeth bod nwyddau neu wasanaethau wedi cael eu derbyn

P2. gwirio bod cyfansymiau a balansau wedi’u cyfrifo’n gywir ar anfonebau cyflenwyr

P3. sicrhau bod disgowntiau sydd ar gael yn cael eu nodi a’u didynnu

P4. cofnodi dogfennau’n gywir fel prif gofnodion yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

P5. codio a chofnodi cofnodion yn y cyfriflyfr priodol

P6. sicrhau eich bod naill ai’n datrys anghysondebau a nodwyd neu’n eu hatgyfeirio i’r unigolyn priodol os ydynt y tu allan i’ch awdurdod

P7. cyfathrebu â chyflenwyr ynglŷn â chyfrifon yn gwrtais ac yn effeithiol

Paratoi taliadau awdurdodedig

P8. cyfrifo taliadau’n gywir o ddogfennau perthnasol

P9. sicrhau bod taliadau’n cael eu trefnu a’u hawdurdodi gan yr unigolyn priodol 

P10. atgyfeirio ymholiadau i’r unigolyn priodol

P11. cynnal diogelwch a chyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol

Gwneud a chofnodi taliadau

P12. defnyddio’r dull talu priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

P13. gwneud taliadau yn unol â phrosesau a graddfeydd amser sefydliadol

P14. cofnodi taliadau ar gofnodion cyfrifyddu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

P15. atgyfeirio ymholiadau i’r unigolyn priodol

P16. cynnal diogelwch a chyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. cofnodi dwbl                  

K2. dulliau o godio data

K3. gweithredu systemau cyfrifyddu cyfrifiadurol ac â llaw       

K4. gweithdrefnau cerdyn credyd

K5. y berthynas rhwng system gyfrifyddu a chyfriflyfr

K6. gweithdrefnau arian mân: dulliau imprest a dulliau heblaw am imprest; dadansoddi eitemau gwariant, gan gynnwys taliadau TAW

K7. gweithdrefnau cyfrifyddu cyflogres: cyfrifyddu am gyflog gros, didyniadau statudol ac anstatudol a thaliadau i asiantaethau allanol; diogelwch a rheolaeth; cyfrifiadau cronnol 

K8. dulliau o drin a storio arian o agwedd ddiogelwch

K9. beth yw trywydd archwilio Yr amgylchedd busnes

K10. mathau o drafodiadau busnes a’r dogfennau sy’n gysylltiedig

K11. y gyfraith sylfaenol sy’n ymwneud â’r gyfraith contractau, y ddeddf gwerthu nwyddau a pholisïau cadw dogfennau

K12. egwyddorion cyffredinol TAW 

K13. mathau o ddisgowntiau

K14. taliadau awtomataidd: CHAPS, BACS, Debydau Uniongyrchol; Archebion Sefydlog 

K15. cardiau credyd a debyd

K16. gwahanol systemau archebu: y rhyngrwyd; ffacs; yn ysgrifenedig; dros y ffôn 

K17. dogfennau ar gyfer taliadau

K18. y gyfraith sylfaenol yn ymwneud â diogelu data

K19. gofynion cyfreithiol yn ymwneud â sieciau, gan gynnwys croesi ac arnodi

K20. pwysigrwydd cynnal cofnodion a ffeiliau cywir a chynhwysfawr ar gyfer trywydd archwilio 

K21. pwysigrwydd cael llofnodion ac awdurdodiadau gan yr unigolyn perthnasol

K22. dealltwriaeth berthnasol o systemau cyfrifyddu a systemau a gweithdrefnau gweinyddol y sefydliad

K23. natur trafodiadau busnes y sefydliad

K24. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer awdurdodi a chodio anfonebau prynu a thaliadau

K25. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ffeilio gwybodaeth wreiddiol


Cwmpas/ystod

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

I’w gytuno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

DAN BG5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Iechyd, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau, Alcohol, Sylweddau, Camddefnyddio, Cam-drin, Comisiynu