Paratoi adroddiadau a ffurflenni
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â pharatoi adroddiadau a ffurflenni o wybodaeth a gafwyd o bob ffynhonnell berthnasol. Mae’n gofyn am gyfrifo cymarebau a dangosyddion perfformiad a chyflwyno’r wybodaeth i reolwyr neu asiantaethau allanol, gan gynnwys y swyddfa Treth ar Werth (TAW), yn unol â’r arferion a’r diffiniadau priodol. Mae’r uned hefyd yn ymwneud â chyfrifoldebau cyfathrebu sy’n cynnwys cael caniatâd cyn anfon adroddiadau, ceisio arweiniad gan y swyddfa TAW a chyflwyno adroddiadau a ffurflenni yn y modd priodol.
Mae tair elfen:
1 Paratoi a chyflwyno adroddiadau cyfnodol ar berfformiad
2 Paratoi adroddiadau a ffurflenni ar gyfer asiantaethau allanol
3 Paratoi ffurflenni TAW
Bydd angen i ddefnyddwyr y cymhwysedd hwn sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a chyflwyno adroddiadau cyfnodol ar berfformiad
P1. cyfuno gwybodaeth sy’n deillio o wahanol unedau o’r sefydliad ar y ffurflen briodol
P2. cysoni gwybodaeth sy’n deillio o wahanol systemau gwybodaeth o fewn y sefydliad yn gywir
P3. defnyddio dull priodol, sy’n caniatáu ar gyfer newidiadau i lefelau prisiau, wrth gymharu canlyniadau dros amser
P4. sicrhau bod trafodion rhwng unedau ar wahân o’r sefydliad yn cael eu cyfrif yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P5. cyfrifo cymarebau a dangosyddion perfformiad yn gywir yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P6. paratoi adroddiadau ar y ffurf briodol a’u cyflwyno i reolwyr o fewn y graddfeydd amser sy’n ofynnol
Paratoi adroddiadau a ffurflenni ar gyfer asiantaethau allanol
P7. nodi, coladu a chyflwyno gwybodaeth berthnasol yn unol â’r arferion a’r diffiniadau a ddefnyddir gan asiantaethau allanol
P8. sicrhau bod eich cyfrifiadau cymarebau a dangosyddion perfformiad yn gywir
P9. ceisio caniatâd gan yr unigolyn priodol ar gyfer anfon adroddiadau a ffurflenni wedi’u cwblhau
P10. cyflwyno adroddiadau a ffurflenni yn unol â gofynion a therfynau amser asiantaethau allanol
Paratoi ffurflenni TAW
P11. cwblhau ffurflenni TAW yn gywir gan ddefnyddio data o’r systemau cofnodi priodol a’u cyflwyno o fewn y terfynau amser statudol
P12. nodi a chyfrifo mewnbynnau ac allbynnau perthnasol yn gywir P13 cyflwyno ffurflenni TAW yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol
P14. ceisio arweiniad gan y swyddfa TAW pan fydd angen, mewn modd proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. defnydd o fewnbynnau ac allbynnau safonol K2 dadansoddiad cyfres amser
K3. defnydd o fynegrifau
K4. y prif fathau o ddangosyddion perfformiad: cynhyrchedd; cost fesul uned; defnydd o adnoddau; proffidioldeb
K5. cymarebau: maint elw gros; maint elw net; adenillion ar y cyfalaf a ddefnyddiwyd
K6. tablu gwybodaeth gyfrifyddu a gwybodaeth feintiol arall
K7. dulliau o gyflwyno gwybodaeth: adroddiadau ysgrifenedig; diagramatig; tablaidd
K8. prif ffynonellau ystadegau perthnasol y llywodraeth
K9. ymwybyddiaeth o fesurau perfformiad ac ansawdd perthnasol
K10. y prif fathau o sefydliadau allanol sy’n gofyn am adroddiadau a ffurflenni: rheoleiddiol; dyfarnu grantiau; casglu gwybodaeth; cymdeithasau masnach
K11. cyfraith ac ymarfer sylfaenol sy’n ymwneud â’r holl faterion yr ymdrinnir â nhw yn y datganiad ystod ac y cyfeirir atynt yn y meini prawf perfformiad. Mae materion penodol yn cynnwys: dosbarthiad mathau o gyflenwi; gofynion cofrestru; ffurf anfonebau TAW; pwyntiau treth
K12. ffynonellau gwybodaeth am TAW: Canllaw Tollau Tramor a Chartref
K13. gweinyddu TAW: gorfodi
K14. cynlluniau arbennig: cyfrifyddu blynyddol; cyfrifyddu ar sail arian parod; rhyddhau drwgddyledion
K15. sut mae strwythur sefydliadol, systemau a gweithdrefnau gweinyddol a natur trafodion busnes sefydliad yn effeithio ar ei systemau cyfrifyddu
K16. diben a strwythur systemau adrodd o fewn y sefydliad
K17. dealltwriaeth gefndir efallai y bydd angen i amrywiaeth o asiantaethau allanol gael adroddiadau a ffurflenni gan sefydliadau a bod rhaid i’r gofynion hyn gael eu hymgorffori mewn systemau a gweithdrefnau gweinyddol a chyfrifyddu
K18. dealltwriaeth gefndir efallai y bydd arferion cofnodi a chyfrifyddu yn amrywio rhwng sefydliadau a gwahanol rannau o sefydliadau
K19. sail y berthynas rhwng y sefydliad a’r swyddfa TAW
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
I’w gytuno