Galluogi unigolion i gael mynediad at dai a llety
Trosolwg
Ar gyfer yr uned hon, bydd angen i chi weithio gydag unigolion i’w cynorthwyo i ganfod a chynnal tai a llety priodol ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig.
Mae dwy elfen:
- Cynorthwyo unigolion i amlygu a chael mynediad at wasanaethau tai a llety
- Cynorthwyo gwasanaethau tai a llety i fodloni anghenion unigolion
Bydd angen i ddefnyddwyr y cymhwysedd hwn sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynorthwyo unigolion i amlygu a chael mynediad at wasanaethau tai a llety
P1. casglu gwybodaeth berthnasol am:
P1.1. sefyllfa tai a llety presennol yr unigolyn
P1.2. unrhyw amhariad meddyliol, corfforol neu synhwyraidd a allai effeithio ar y tai a’r llety sy’n ofynnol
P1.3. anghenion parhaus yr unigolion am dai a llety
P1.4. anghenion yr unigolion am wasanaethau eraill a chymorth arall
P2. gweithio gydag unigolion i amlygu a deall yr ystod o wasanaethau a allai fodloni eu hanghenion
P3. cynorthwyo unigolion i:
P3.1. ddeall yr ystod o wahanol fathau o gymorth y mae gwasanaethau tai a llety yn eu cynnig
P3.2. asesu eu hanghenion eu hunain am dai a llety
P3.3. deall unrhyw ofynion sydd gan wasanaethau tai a llety
P4. cynorthwyo unigolion i archwilio manteision ac anfanteision y gwasanaethau tai a llety:
P4.1. y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt
P4.2. y gallant gael mynediad atynt
P4.3. sy’n bodloni eu hanghenion
P5. annog unigolion i archwilio:
P5.1. rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at wasanaethau tai a llety a’u defnyddio
P5.2. sut gellir mynd i’r afael â’r rhwystrau mewn ffordd adeiladol
P6. annog unigolion i lunio cynllun realistig a chyflawnadwy ar gyfer cael mynediad at wasanaethau tai a llety, a’u defnyddio, sy’n amlygu:
P6.1. nodau realistig a chyflawnadwy
P6.2. y camau y byddant yn eu cymryd
P6.3. y cymorth y bydd arnynt ei angen
P6.4. pobl y byddant yn ceisio cymorth ganddynt DANOS AK3 Galluogi unigolion i gael mynediad at dai a llety AK3 Galluogi unigolion i gael mynediad at dai a llety
P6.5. graddfeydd amser
P6.6. sut a phryd y byddant yn adolygu eu cynnydd tuag at eu nodau
Cynorthwyo gwasanaethau tai a llety i fodloni anghenion unigolion
P7. cysylltu â gwasanaethau tai a llety cytunedig i drafod:
P7.1. anghenion tai a llety’r unigolyn a materion cysylltiedig
P7.2. y gwasanaethau y gallent eu cynnig i unigolion
P7.3. unrhyw faterion neu ofynion arbennig sy’n berthnasol i’r unigolyn y byddai angen i’r gwasanaethau tai a llety eu hystyried
P8. cynorthwyo staff tai a llety i gyfarfod ag unigolion a deall y ffactorau yng nghefndir yr unigolyn sy’n effeithio ar ei ymddygiad a’i les
P9. herio gweithwyr a gwasanaethau tai a llety pan fyddant yn gwahaniaethu yn erbyn unigolion
P10. cynorthwyo unigolion i baratoi ar gyfer mynd i gyfarfodydd gyda gwasanaethau tai a llety
P11. darparu, a chynorthwyo unigolion i ddarparu, atebion cywir a chyflawn am sut gall gwasanaethau tai a llety weithio orau a bodloni anghenion a dewisiadau’r unigolion
P12. darparu gwybodaeth gywir a chyflawn i staff a gwasanaethau tai a llety am:
P12.1. sut a phryd y dylent gysylltu â chi
P12.2. eich rôl a’ch cyfrifoldebau a’r cymorth y gallwch ei gynnig i’r gwasanaethau tai a llety wrth weithio gyda’r unigolyn
P12.3. sut mae’r tai a llety a’r cymorth cysylltiedig maen nhw’n eu darparu yn cyfrannu at iechyd a lles cyffredinol unigolion ac unrhyw ymyriadau eraill maen nhw’n eu derbyn
P12.4. beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon
P13. cynnal cysylltiad priodol â staff tai a llety
P14. monitro effeithiolrwydd a chysondeb gwasanaethau tai a llety wrth fodloni anghenion unigolion
P15. cymryd y camau priodol pan fydd materion yn cael eu codi am y gwasanaethau tai a llety a ddarperir
P16. gweithio mewn partneriaeth â staff a gwasanaethau tai a llety i roi adborth ar gynnydd unigolion, effeithiolrwydd eu gwaith gydag unigolion a’u teimladau ynglŷn â’u cyfraniad
P17. cofnodi ac adrodd ar brosesau a chanlyniadau’r gwasanaethau tai a llety a ddarparwyd, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. codau ymarfer ac ymddygiad, a safonau ac arweiniad sy’n berthnasol i’ch rolau, eich cyfrifoldebau, eich atebolrwydd a’ch dyletswyddau chi, a rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau pobl eraill wrth gynorthwyo unigolion i gael mynediad at dai a llety
K2. deddfwriaeth leol, genedlaethol ac Ewropeaidd gyfredol a gofynion, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol ar gyfer:
K2.1. diogelu data, gan gynnwys cofnodi, adrodd, storio, diogelwch a rhannu gwybodaeth
K2.2. iechyd a diogelwch
K2.3. asesu a rheoli risgiau
K2.4. amddiffyn unigolion rhag perygl, niwed a chamdriniaeth
K2.5. galluogi unigolion i gael mynediad at dai a llety
K3. mentrau allweddol y llywodraeth sy’n hyrwyddo cyfleoedd unigolion mewn bywyd a chyfleoedd iddynt gael eu cartrefu
K4. gwahanol ffynonellau cyllid sydd ar gael ar gyfer tai a llety i wahanol grwpiau o unigolion (e.e. y rhai sydd wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol)
K5. sut i fonitro, dadansoddi ac asesu goblygiadau deddfwriaeth a’r amgylchedd rheoleiddiol, a newidiadau iddynt; sut i ddehongli a chymhwyso deddfwriaeth berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei wneud
K6. sut i weithio mewn partneriaeth â gwahanol asiantaethau sy’n gallu cynorthwyo unigolion â thai a llety
K7. natur y sector tai a rolau a swyddogaethau’r prif asiantaethau ynddo
K8. dyletswyddau awdurdodau lleol i gartrefu a chynorthwyo gwahanol grwpiau o unigolion
K9. cynlluniau a strategaethau tai lleol a sut gellir dylanwadu ar y rhain er budd unigolion
K10. sut i fwydo gwybodaeth i fforymau cynllunio lleol er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer unigolion
K11. yr asiantaethau y mae angen iddynt ymwneud â datblygu tai a llety ar gyfer unigolion: adrannau tai awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol, darpariaeth breifat
K12. y gwahanol fathau o lety sydd ar gael a’r math o gymorth maen nhw’n ei gynnig i unigolion
K13. pwy sy’n cynnig y gwahanol fathau o lety yn lleol ac yn ehangach
K14. rôl eich sefydliad a’i wasanaethau a sut maen nhw’n gysylltiedig ag
asiantaethau a gwasanaethau eraill yn y sector tai
K15. sut a ble i gael gwybodaeth a chymorth a all lywio eich ymarfer wrth
gynorthwyo unigolion i gael mynediad at dai a llety
K16. sut gallwch gael mynediad at wybodaeth am dai a llety sy’n berthnasol i anghenion a dewisiadau’r unigolion yr ydych yn gweithio gyda nhw, ac adolygu a gwerthuso’r wybodaeth honno
K17. adroddiadau, ymchwiliadau ac ymchwil y llywodraeth sy’n berthnasol i unigolion sy’n chwilio am dai a llety, sy’n ymgeisio am dai a llety ac sy’n cael mynediad at dai a llety
K18. damcaniaethau sy’n berthnasol i’r unigolion yr ydych yn gweithio gyda nhw, ynghylch:
K18.1. agweddau ar dwf a datblygiad dynol a sut gall y rhain effeithio ar, a chael eu heffeithio gan, fynediad unigolion at dai a llety
K18.2. buddion ac effeithiau negyddol tai a llety ar hunan-barch, hunanddelwedd a hunaniaeth unigolion
K19. y berthynas rhwng datblygiad corfforol, cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol/ymddygiad
K20. effaith yr amgylchedd cymdeithasol ehangach ar unigolion (e.e. ardal amddifadedd materol, tai o gyflwr gwael, tlodi)
K21. y berthynas rhwng digartrefedd a chyflyrau’r unigolion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K22. y sgiliau ymarferol ac emosiynol y mae angen i unigolion eu datblygu er mwyn iddynt allu byw’n annibynnol
K23. llwybrau atgyfeirio i wahanol rannau o’r sector tai a rhyngddynt
K24. materion rydych yn debygol o’u hwynebu:
K24.1. pan fydd rhaid i unigolion newid eu tai a’u llety, neu pan fu raid iddynt eu newid, oherwydd eu hanghenion a’u hamgylchiadau
K24.2. wrth gynorthwyo unigolion i gael mynediad at dai a llety
K24.3. pan na fydd unigolion yn llwyddo i gael tai a llety
K24.4. pan na fydd unigolion yn gallu ymdopi â’r tai a’r llety maen nhw wedi eu cael
K25. y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth drefnu tai a llety ar gyfer unigolion, gan gynnwys risgiau i’r unigolyn a risgiau y mae’r unigolyn yn eu hachosi i bobl allweddol a phobl eraill
K26. y budd-daliadau sydd ar gael i gynorthwyo â thai a llety
K27. sut i ddefnyddio gwerthusiadau o wahanol opsiynau tai a llety i amlygu’r rhai sydd wedi llwyddo i fodloni anghenion penodol unigolion
K28. sut i adnabod pan fydd arnoch angen cymorth ac arbenigedd pellach a phwy i gysylltu ag ef am gymorth a chyngor
K29. sut i hysbysu ac ymgynghori â phobl eraill ynglŷn â phroblemau a chynigion, a’u hannog i gynnig a herio syniadau
K30. gofynion cyfreithiol a sefydliadol yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu, hawliau, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth wrth gynorthwyo unigolion i gael mynediad at dai a llety
K31. sut i ddarparu cymorth gweithredol a rhoi dewisiadau a phennaf les unigolion wrth wraidd popeth rydych yn ei wneud, ar yr un pryd â’u galluogi i gymryd cyfrifoldeb (cyn belled ag y gallant ac o fewn unrhyw gyfyngiadau a osodir arnynt) a gwneud a chyfleu eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â’u bywydau, gweithredoedd a risgiau wrth gael cyflogaeth
K32. hawliau a chyfrifoldebau unigolion mewn perthynas â ble y gellir eu cartrefu a’u lletya
K33. cyfyng-gyngor rhwng hawliau’r unigolyn a’i gyfrifoldebau i ofalu amdano’i hun a’i amddiffyn ei hun, hawliau a chyfrifoldebau pobl allweddol a’ch rôl a’ch cyfrifoldebau chi wrth gynorthwyo unigolion i gael mynediad at dai a llety
K34. sut i weithio mewn partneriaeth ag unigolion, pobl allweddol a phobl o fewn a’r tu allan i’ch sefydliad i alluogi unigolion i gael mynediad at dai a llety
K35. sut i herio, a chynorthwyo unigolion i herio, unrhyw arferion gwahaniaethol a arsylwir wrth ymwneud ag unigolion:
K35.1. sy’n ceisio tai a llety
K35.2. yn ystod unrhyw broses gyfweld a dethol
K35.3. pan fydd unigolion wedi cael eu cartrefu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
I’w gytuno