Defnyddio modelau damcaniaethol cydnabyddedig i roi cymorth therapiwtig i grwpiau o unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau
Trosolwg
Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi roi cymorth therapiwtig i grwpiau o unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau trwy gynllunio, paratoi a gweithredu gweithgareddau grŵp therapiwtig perthnasol gan ddefnyddio modelau damcaniaethol cydnabyddedig. Fe’i bwriedir ar gyfer y rhai sy’n rhoi cymorth therapiwtig i unigolion yn rhan o weithgareddau grŵp. Fe allai gweithgareddau grŵp fod yn benodol i ddefnyddio sylweddau, fel technegau atal ailwaelu, neu fe allent fod yn gyffredinol, fel hyfforddiant rheoli dicter neu sgiliau cymdeithasol. Fe ddylai fod tystiolaeth o sefydlu a rheoli’r broses therapiwtig gan roi ystyriaeth arbennig i’r cymhlethdodau sy’n dod i’r amlwg wrth ddelio â materion sy’n gysylltiedig â sylweddau mewn lleoliad grŵp.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cadarnhau dibenion a nodau’r gweithgaredd grŵp therapiwtig
P2. cynnwys unigolion yn y broses gynllunio ar lefel sy’n briodol i’w galluoedd a’u hamgylchiadau
P3. gwirio bod unigolion yn deall yr opsiynau a’r gweithgareddau y gellid eu defnyddio
P4. archwilio eich agwedd eich hun tuag at sylweddau, gan fonitro’r effaith y gallai hynny ei chael ar y grŵp
P5. bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau, eich sylfaen wybodaeth a’ch lefel sgiliau eich hun
P6. cynllunio gan ddefnyddio sail ddamcaniaethol gyson wedi’i llywio gan
fodelau damcaniaethol cydnabyddedig
P7. rhagweld unrhyw gyfyngiadau neu gyfleoedd posibl yn y grŵp ac ymgorffori’r rhain mewn cynllunio
P8. paratoi deunyddiau sy’n berthnasol ac yn briodol i’r unigolion yn y grŵp
P9. sefydlu meini prawf ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau
P10. trefnu’r amgylchedd mewn ffordd sy’n annog yr holl unigolion yn y grŵp i gymryd rhan yn llawn
P11. trafod disgwyliadau a chytuno ar amcanion gydag aelodau’r grŵp
P12. esbonio natur gwaith grŵp therapiwtig, gan gynnwys buddion, cyfyngiadau posibl a ffiniau
P13. sefydlu contract grŵp sy’n diffinio cyfrinachedd, sy’n realistig ac y mae holl aelodau’r grŵp yn cytuno arno
P14. dangos ystyriaeth gadarnhaol, empathi ac agwedd anfeirniadol tuag at yr holl unigolion yn y grŵp ac annog rhannu cyfrifoldeb yn hyn o beth
P15. defnyddio sail ddamcaniaethol gyson wedi’i llywio gan fodelau damcaniaethol cydnabyddedig
P16. rhoi digon o wybodaeth ac arweiniad i unigolion, ar lefel a chyflymder priodol i gynyddu eu cyfranogiad gymaint â phosibl
P17. darparu amrywiaeth addas o weithgareddau grŵp therapiwtig i gynyddu cyfranogiad gymaint â phosibl
P18. rhoi a hwyluso adborth adeiladol mewn modd, ac ar lefel a chyflymder sy’n gwella dysgu a datblygiad yr unigolion yn y grŵp
P19. rheoli aflonyddwch mewn ffordd sy’n adeiladol, yn gynhwysol ac yn cyd-fynd â ffiniau cytunedig
P20. monitro eich meddyliau, eich teimladau, a’ch ymatebion emosiynol i’r grŵp a’r unigolion yn y grŵp fel y gallwch eu priodoli’n gywir
P21. monitro ac adolygu prosesau a gweithgareddau’r grŵp i sicrhau eu bod yn aros yn werthfawr i’r holl unigolion yn y grŵp
P22. sicrhau bod cofnodion gweithgareddau, cytundebau a chontractau yn gywir, yn ddarllenadwy, yn gyflawn, yn gyfredol ac yn ddiogel
P23. cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer yr asiantaeth, canllawiau a gofynion proffesiynol a moesegol
P24. annog a chynorthwyo unigolion i roi adborth ar y gweithgaredd grŵp therapiwtig
P25. adolygu canlyniadau’r gweithgareddau grŵp
P26. addasu eich cynllun pan fydd adborth yn dangos bod y gweithgaredd a gynlluniwyd yn amhriodol
P27. adolygu effeithiolrwydd dulliau dysgu a datblygu ac amlygu dulliau amgen pan fydd angen
P28 . defnyddio adborth i adnabod pan fydd y broses yn dod i ben
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’r swyddogaethau a gyflawnir
K2. cyfyngiadau a ffiniau eich dyletswyddau, eich cyfrifoldebau a’ch pŵer a pham mae’n bwysig esbonio’r rhain i’r unigolyn
K3. hawliau’r unigolyn a sut dylai’r rhain lywio a dylanwadu ar ffurfio perthynas rhyngoch chi a’r unigolyn
K4. gweithdrefnau a gofynion sefydliadol a chyfreithiol ynglŷn â chofnodi, storio a throsglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion a’r gwaith a wneir gyda nhw
K5. codau ymarfer proffesiynol
K6. codau ymarfer asiantaethau
K7. diffiniad o gyfrinachedd a’i ffiniau
K8. egwyddorion gwrando gweithredol
K9. y model cylch newid
K10. yr holl fodelau sy’n esbonio camddefnyddio sylweddau
K11. egwyddorion cymhelliad
K12. ystod o fodelau damcaniaethol cydnabyddedig
K13. ymwybyddiaeth o ddulliau trawsddiwylliannol
K14. pam mae’n bwysig annog unigolion i fynegi eu safbwyntiau, eu gwerthoedd a’u teimladau
K15. defnydd priodol o oruchwyliaeth
K16. hanfodion dynameg grŵp
K17. sut i wneud i gyfranogwyr deimlo’n gartrefol
K18. egwyddorion adborth da mewn grwpiau
K19. y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael yn yr ardal leol
K20. nodweddion y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal leol
K21. gwybodaeth am ymchwil, a sut a ble i gael ati
K22. sut i ddadansoddi ymchwil
K23. yr ystod o wahanol sylweddau a’u goblygiadau i ddarparu gwasanaethau
K24. polisïau a blaenoriaethau camddefnyddio sylweddau cenedlaethol
K25. yr ystod o wasanaethau camddefnyddio sylweddau a gynigir gan eich sefydliad chi neu sefydliadau eraill
K26. anghenion penodol unigolion sy’n ddefnyddwyr sylweddau, a sut i fodloni’r anghenion hyn
K27. yr ystod o ymddygiadau y gellir eu disgwyl gan ddefnyddwyr sylweddau, a sut i ddelio â’r rhain
K28. y risgiau y gallai camddefnyddio sylweddau eu hachosi i unigolion a sut i leihau’r risgiau hyn gymaint â phosibl
K29. y risgiau y gallai camddefnyddio sylweddau eu hachosi i bobl eraill, a sut i asesu’r risgiau hyn a’u lleihau gymaint â phosibl
K30. jargon/terminoleg camddefnyddio sylweddau a ddefnyddir yn gyffredin K31 hanfodion diagnosis deuol
K32. continwwm defnyddio sylweddau o ddefnydd hamdden i broblemus
K33. continwwm dulliau o weithio gyda chamddefnyddio sylweddau o ymataliad i leihau niwed
K34. hawliau’r unigolion yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles