Helpu unigolion i fynd i’r afael â’u camddefnydd o sylweddau trwy gynllun gweithredu

URN: SFHAI2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2012

Trosolwg

Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi gynorthwyo unigolion sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau i ddatblygu cynlluniau gweithredu, fel rhan o’r broses therapiwtig ac nid fel gweithgarwch ar wahân.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. cynnwys yr unigolyn yn y cynllunio gweithredu

P2. cytuno ar rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n ymwneud â’r cynllun gweithredu 

P3. cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol yn y cynllun gweithredu

P4. sicrhau bod y nodau yn y cynllun gweithredu yn benodol, yn gyflawnadwy ac wedi’u cytuno gyda’r unigolyn

P5. sicrhau bod cynnwys y cynllun gweithredu yn ystyried amgylchiadau presennol yr unigolyn

P6. sicrhau bod y cynllun gweithredu yn nodi’r dulliau, y raddfa amser a’r cyfrifoldebau ar gyfer bodloni gofynion unigolion yn glir

P7. adolygu cynnwys a chanlyniadau disgwyliedig y cynllun gweithredu gydag unigolion

P8. cytuno ar y broses ar gyfer adolygu cynnydd y cynllun gweithredu

P9. cofnodi’r cynllun gweithredu yn unol â gofynion yr asiantaeth ac arfer da cydnabyddedig

P10. sicrhau bod yr unigolyn yn cael cynnig copi o’r cynllun gweithredu ac unrhyw wybodaeth ychwanegol berthnasol mewn ffordd sy’n fwyaf tebygol o wella dealltwriaeth

P11. cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, canllawiau a gofynion moesegol perthnasol

P12. rhoi cyfleoedd addas i unigolion adolygu’r cynllun gweithredu ar amlder sy’n cyd-fynd â pholisïau sefydliadol 

P13 casglu’r holl wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â chynnydd yr unigolyn 

P14. adolygu canlyniadau’r cynllun gweithredu gyda’r unigolyn

P15. nodi’n glir y canlyniadau a gyflawnwyd a’r rhai na chyflawnwyd

P16. amlygu’r camau nesaf yn y cynllun gweithredu, a chytuno arnynt gyda’r unigolyn, pan na fodlonwyd amcanion

P17. defnyddio amcanion a fodlonwyd a ffiniau’r berthynas therapiwtig i gynorthwyo’r broses ddiweddu

P18. ystyried amgylchiadau’r unigolyn wrth benderfynu pryd i ddiweddu’r ymyrraeth

P19. cydnabod ac archwilio’r goblygiadau pan fydd triniaeth yn parhau y tu hwnt i’r ymyrraeth

P20. cefnogi ymdeimlad yr unigolyn o ymreolaeth yn ystod y broses ddiweddu 

P21. rhoi gwybod i unigolion am ffynonellau cymorth pellach

P22. cysylltu ag unrhyw asiantaethau a fydd yn rhoi cymorth pellach

P23. cofnodi manylion yn unol â gofynion yr asiantaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. gweithdrefnau a gofynion cyfreithiol ynglŷn â chofnodi, storio a throsglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion a’r gwaith a wneir gyda nhw

K2. codau ymarfer proffesiynol

K3. gofynion cyfrinachedd

K4. gweithdrefnau a gofynion sefydliadol ynglŷn â chofnodi, storio a throsglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion a’r gwaith a wneir gyda nhw

K5. codau ymarfer asiantaethau

K6. nodweddion asiantaethau cynorthwyol eraill yn yr ardal

K7. cyfyngiadau a ffiniau eich dyletswyddau, eich cyfrifoldebau a’ch pŵer a pham mae’n bwysig esbonio’r rhain i’r unigolyn

K8. egwyddorion gwrando gweithredol 

K9. egwyddorion amcanion da 

K10. y model cylch newid

K11. yr holl fodelau sy’n esbonio camddefnyddio sylweddau 

K12. egwyddorion cymhelliad

K13. ystod o fodelau damcaniaethol cydnabyddedig, gan gynnwys modelau trawsddiwylliannol 

K14. egwyddorion adborth da

K15. sut i ddod â’r broses therapiwtig i ben 

K16. defnydd priodol o oruchwyliaeth

K17. y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael yn yr ardal leol 

K18. nodweddion y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal leol 

K19. yr asiantaethau cynorthwyol eraill sydd ar gael yn yr ardal leol

K20. gwybodaeth am ymchwil, a sut a ble i gael ati 

K21. sut i ddadansoddi ymchwil

K22. yr ystod o wahanol sylweddau a’u goblygiadau i ddarparu gwasanaethau

K23. polisïau a blaenoriaethau camddefnyddio sylweddau cenedlaethol

K24. yr ystod o wasanaethau camddefnyddio sylweddau a gynigir gan eich sefydliad chi neu sefydliadau eraill

K25. anghenion penodol unigolion sy’n ddefnyddwyr sylweddau, a sut i fodloni’r anghenion hyn

K26. yr ystod o ymddygiadau y gellir eu disgwyl gan ddefnyddwyr sylweddau, a sut i ddelio â’r rhain

K27.  y risgiau y gallai camddefnyddio sylweddau eu hachosi i unigolion a sut i leihau’r risgiau hyn gymaint â phosibl

K28. y risgiau y gallai camddefnyddio sylweddau eu hachosi i bobl eraill, a sut i asesu’r risgiau hyn a’u lleihau gymaint â phosibl

K29.jargon/terminoleg camddefnyddio sylweddau a ddefnyddir yn gyffredin

K30. hanfodion diagnosis deuol

K31. continwwm defnyddio sylweddau o ddefnydd hamdden i broblemus

K32. continwwm dulliau o weithio gyda chamddefnyddio sylweddau o ymataliad i leihau niwed

K33. cyfle cyfartal ac amrywiaeth

K34. pam mae’n bwysig annog unigolion i fynegi eu safbwyntiau, eu gwerthoedd a’u teimladau

K35. hawliau’r unigolyn a sut dylai’r rhain lywio a dylanwadu ar ffurfio perthynas rhyngoch chi a’r unigolyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Elfen: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles pobl


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHAI2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau, Alcohol, Sylweddau, Camddefnyddio, Cam-drin, Comisiynu