Defnyddio modelau damcaniaethol cydnabyddedig i roi cymorth therapiwtig i unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau

URN: SFHAI1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2012

Trosolwg

Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi roi cymorth therapiwtig i unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau. Fe’i bwriedir ar gyfer y rhai sy’n cynorthwyo unigolion o fewn fframwaith cytunedig, yn hytrach na chynnig cyngor ac arweiniad ar sail ad hoc. Dylech roi sylw arbennig i ddatblygu’r berthynas therapiwtig yn ystod camau cynharach gweithio gyda’ch gilydd oherwydd fe allai’r defnyddiwr sylweddau fod wedi profi diffyg ystyriaeth gadarnhaol, diffyg empathi ac agwedd feirniadol gan weithwyr proffesiynol yn y gorffennol. Yn yr uned hon, dylid hefyd rhoi sylw i weithgareddau nad ydynt yn waith wyneb yn wyneb, ond sy’n cefnogi’r broses therapiwtig, fel cyswllt, ymchwil a mynychu goruchwyliaeth.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. creu lleoliad therapiwtig lle mae unigolion yn teimlo’n ddigon cyfforddus i fynegi eu gofynion

P2. archwilio disgwyliadau unigolion er mwyn cytuno ar ddulliau o weithio   

P3. esbonio natur y gwasanaeth, gan gynnwys ffiniau, cyfyngiadau a’r hyn y
gellir ei ddisgwyl gan y gwasanaeth

P4. annog unigolion i nodi eu gofynion a gweithio gydag unrhyw densiwn rhwng eu gobeithion, eu disgwyliadau a’r hyn y gall y gwasanaeth ei gynnig 

P5. asesu priodoldeb dechrau’r ymyrraeth therapiwtig bresennol

P6. sicrhau bod y contract therapiwtig yn realistig

P7. archwilio eich agwedd eich hun tuag at gyffuriau ac alcohol, gan fonitro’r effaith y gallai hynny ei chael ar y broses therapiwtig

P8. monitro eich meddyliau, eich teimladau, a’ch ymatebion emosiynol i gleientiaid fel y gallwch eu priodoli’n gywir

P9. monitro ac adolygu’r broses therapiwtig i sicrhau ei bod yn aros yn werthfawr  

P10. defnyddio sylfaen ddamcaniaethol gyson wedi’i llywio gan fodelau damcaniaethol cydnabyddedig, gan addasu’r rhain pan fydd angen

P11. cadarnhau gyda’r unigolyn pan fydd y broses yn dod i ben 

P12. gyda’r unigolyn, archwilio goblygiadau triniaethau eraill sy’n parhau y tu
hwnt i’r ymyrraeth therapiwtig

P13. cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer yr asiantaeth, canllawiau a gofynion moesegol

P14. galluogi unigolion i fynegi eu pryderon yn rhydd trwy ystyriaeth gadarnhaol, gwrando gweithredol ac agwedd anfeirniadol 

P15. annog unigolion i nodi ac archwilio eu hanghenion

P16. cyfleu, egluro ac adolygu eich canfyddiad o deimladau unigolion 

P17. cynorthwyo’r unigolyn i flaenoriaethu ei anghenion

P18. nodi a chytuno ar anghenion na ellir eu bodloni a hwyluso mynediad at ffynonellau cymorth ychwanegol neu amgen

P19. gweithio gydag unigolion ar unrhyw densiwn rhwng eu gobeithion a’u disgwyliadau a realiti cyfyngiadau ar adnoddau

P20. gyda’r unigolyn, nodi ystod addas o opsiynau i fodloni ei anghenion     

P21. sicrhau bod unigolion yn deall y wybodaeth a ddarparwyd

P22. amlinellu canlyniadau, manteision ac anfanteision posibl yr opsiynau yn unol ag amgylchiadau’r unigolyn

P23. gwirio dealltwriaeth yr unigolyn o’r opsiynau a’r dulliau y gellid eu defnyddio

P24. amlygu unrhyw broblemau posibl â’r ffordd o weithredu a ddewiswyd

P25. cadarnhau’r ffordd o weithredu a ddewiswyd a gwirio bod yr unigolyn yn deall ac yn cytuno 

P26. cofnodi’r ffordd o weithredu yn unol â gofynion yr asiantaeth

P27. gyda’r unigolyn, archwilio a dewis y dulliau sy’n fwyaf tebygol o fod yn effeithiol

P28. cytuno ar y dulliau sydd i’w mabwysiadu gyda’r unigolyn

P29. nodi unrhyw ofynion na ellir eu bodloni a chadarnhau camau gweithredu amgen ar gyfer delio â nhw


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’r swyddogaethau a gyflawnir

K2. cyfyngiadau a ffiniau eich dyletswyddau, eich cyfrifoldebau a’ch pŵer a pham mae’n bwysig esbonio’r rhain i’r unigolyn

K3. yr egwyddorion sy’n ymwneud â goruchwylio ac arfarnu

K4. hawliau’r unigolyn a sut dylai’r rhain lywio a dylanwadu ar ffurfio perthynas rhyngoch chi a’r unigolyn

K5. pwysigrwydd annog unigolion i fynegi eu safbwyntiau, eu gwerthoedd a’u teimladau

K6. gweithdrefnau a gofynion sefydliadol a chyfreithiol ynglŷn â chofnodi, storio a throsglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion a’r gwaith a wneir gyda nhw

K7. codau ymarfer proffesiynol               

K8. egwyddorion gwrando gweithredol  

K9. y model cylch newid

K10. yr holl fodelau sy’n esbonio camddefnyddio sylweddau 

K11. egwyddorion cymhelliad a dibyniaeth

K12. y materion sylfaenol a allai arwain at gamddefnyddio sylweddau 

K13. ystod o fodelau damcaniaethol cydnabyddedig

K14. dulliau cymorth posibl ar gyfer yr unigolyn

K15. y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael yn yr ardal leol 

K16. nodweddion y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal leol 

K17. codau ymarfer asiantaethau

K18. gwybodaeth am ymchwil, a sut a ble i gael ati         

K19. sut i ddadansoddi ymchwil

K20. yr ystod o wahanol sylweddau a’u goblygiadau i ddarparu gwasanaethau

K21. polisïau a blaenoriaethau camddefnyddio sylweddau cenedlaethol

K22. yr ystod o wasanaethau camddefnyddio sylweddau a gynigir gan eich sefydliad chi neu sefydliadau eraill

K23. anghenion penodol unigolion sy’n ddefnyddwyr sylweddau, a sut i fodloni’r anghenion hyn

K24. yr ystod o ymddygiadau y gellir eu disgwyl gan ddefnyddwyr sylweddau, a sut i ddelio â’r rhain

K25. y risgiau y gallai camddefnyddio sylweddau eu hachosi i unigolion a sut i leihau’r risgiau hyn gymaint â phosibl 

K26. y risgiau y gallai camddefnyddio sylweddau eu hachosi i bobl eraill, a sut i asesu’r risgiau hyn a’u lleihau gymaint â phosibl

K27.  jargon/terminoleg camddefnyddio sylweddau a ddefnyddir yn gyffredin

K28. hanfodion iechyd meddwl, diagnosis deuol a gwasanaethau perthnasol

K29. continwwm defnyddio sylweddau o ddefnydd hamdden i broblemus 

K30. continwwm dulliau o weithio gyda chamddefnyddio sylweddau o 
ymataliad i leihau niwed

K31. materion diwylliannol a chrefyddol a allai effeithio ar weithio gyda chamddefnyddio sylweddau 

K32. hawliau’r unigolion yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

DANAI1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Iechyd, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau, Alcohol, Sylweddau, Camddefnyddio, Cam-drin, Comisiynu