Cyflenwi cyfarpar chwistrellu a chyfarpar arall perthnasol i unigolion sy’n defnyddio sylweddau a hwyluso gwaredu’n ddiogel
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â chadarnhau’r math o ymddygiad chwistrellu a ddangosir gan unigolion a’i hyd a lled, rhoi cyngor ar leihau niwed, darparu cyfarpar i leihau niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau, darparu cyfarpar chwistrellu a hwyluso gwaredu cyfarpar a ddefnyddiwyd yn ddiogel. Bydd hefyd angen i chi gynnal cofnodion am gyflenwi cyfarpar chwistrellu a chyfarpar arall perthnasol, a’u gwaredu’n ddiogel, er mwyn monitro a gwerthuso’r gwasanaeth. Mae’r safon hon yn ymwneud â sylweddau a allai gynnwys meddyginiaethau ar bresgripsiwn a dros y cownter, cyffuriau a reolir neu sy’n gyfreithlon ar hyn o bryd, a sylweddau seicoweithredol newydd. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cadarnhau p’un a yw’r unigolyn yn chwistrellu a pha mor aml, natur y sylwedd a’r amgylchedd lle y mae’n chwistrellu
P2. cadarnhau p’un a ellir darparu gwasanaeth cyfnewid nodwyddau i’r unigolyn yn unol â’r polisi lleol
P3. cynnal asesiad iechyd sylfaenol gyda’r unigolyn ynglŷn ag effaith ei ddefnydd o sylwedd
P4. rhoi cyngor ar dechnegau a safleoedd chwistrellu diogel neu fwy diogel
P5. rhoi cyngor perthnasol ac amserol ar leihau niwed, perygl haint, iechyd sylfaenol a rhyw mwy diogel
P6. darparu cyngor ac adnoddau ar gyfer storio a gwaredu nodwyddau a chyfarpar arall perthnasol yn ddiogel
P7. atgyfeirio unigolion i wasanaethau eraill yn ôl yr angen a amlygwyd
P8. cysylltu â darparwyr gwasanaethau eraill yn unol â pholisïau a phrotocolau
P9. gwirio bod cyflenwadau digonol o gyfarpar yn cael eu cynnal
P10. gwirio bod unrhyw gyfarpar chwistrellu a chyfarpar arall perthnasol yn cael ei storio’n ddiogel a dan glo
P11. rhoi cyfarpar i unigolion yn unol â’r asesiad o’u hanghenion
P12. dangos sut i drin y cyfarpar a roddir yn ddiogel
P13. cynnal y broses gyfnewid mewn ffordd gynnil a rhoi cyfarpar mewn bag presgripsiwn er mwyn cynnal cyfrinachedd
P14. cynnal arferion cywir ar gyfer delio â chyfarpar sy’n cael ei ddychwelyd
P15. gwirio bod biniau offer miniog yn cael eu rhoi at ei gilydd yn iawn ac nad ydynt byth yn cael eu gorlenwi
P16. cadw at bolisïau a gweithdrefnau cyfnewid nodwyddau a chyfarpar eich sefydliad
P17. delio ag unrhyw ollyngiadau a nodwyddau a chwistrellau a daflwyd gan ddefnyddio’r deunyddiau priodol
P18. cynnal cofnodion cyflenwi a chyfnewid cyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
P19. cynnal cyfrinachedd o ran pob mater sy’n ymwneud ag unigolion sy’n
defnyddio’r cynllun cyfnewid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. canllawiau polisi a deddfwriaeth ynglŷn â chyfnewid nodwyddau, gan gynnwys cyfnewid ar gyfer pobl ifanc iau nag 16 oed
K3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i gludo a storio cyfarpar chwistrellu wedi’i ddefnyddio
K4. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K5. eich cyfrifoldeb a’ch atebolrwydd am les unigolion
K6. systemau, gweithdrefnau a phrotocolau lleol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc
K7. sut i adnabod arwyddion anaf, camdriniaeth neu esgeulustod yn yr unigolyn a sut i godi pryderon gyda’r unigolyn priodol neu’r asiantaeth briodol
K8. sut mae oedran, rhywedd, cefndir diwylliannol a chymdeithasol, gan gynnwys y sylwedd y dewiswyd ei ddefnyddio, yn gallu effeithio ar y berthynas waith
K9. rhwymedigaethau cyfreithiol a pholisïau lleol ynglŷn â darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc
K10. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyflenwi a chyfnewid cyfarpar chwistrellu a chyfarpar arall perthnasol
K11. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn
K12. sut i gynnal asesiad iechyd sylfaenol ac ymateb yn briodol
K13. buddion posibl ymyriadau byr a sut i’w cyflwyno yn yr amgylchedd hwn
K14. gweithdrefnau cwyno ac apelio y gall unigolion eu defnyddio
K15. yr ystod o wasanaethau defnyddio sylweddau a gynigir gan eich sefydliad chi a sefydliadau eraill, gan gynnwys cymorth gan gymheiriaid
K16. yr ystod o gyfarpar chwistrellu a ddefnyddir gan unigolion sy’n chwistrellu sylweddau
K17. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny
K18. y gwahanol ffyrdd y gallai defnyddwyr sylweddau ymddwyn, a sut i’w rheoli
K19. y risgiau a’r goblygiadau sy’n gysylltiedig â dulliau amrywiol o ddefnyddio sylweddau
K20. sut i adnabod a delio â pherygl uniongyrchol i unigolion sydd wedi defnyddio sylweddau
K21. y cyngor ar leihau niwed sy’n briodol i chwistrellu pob math o sylweddau
K22. y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â nodwyddau a chyfarpar arall sydd wedi’u defnyddio
K23. sut i waredu nodwyddau a chyfarpar arall perthnasol yn ddiogel
K24. feirysau posibl a gludir yn y gwaed a llwybrau trosglwyddo
K25. pwysigrwydd profi am feirysau a gludir yn y gwaed ac argaeledd triniaeth
K26. sut i roi cymorth a chyngor iechyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth
K27. sut i roi cyngor ar ryw diogel ac atal cenhedlu i unigolion
K28. beth i’w wneud os bydd anaf nodwydd yn digwydd
K29. yr hyn yr ystyrir ei fod yn gyflenwad digonol o gyfarpar chwistrellu a chyfarpar arall perthnasol ar gyfer y defnyddiwr sylweddau unigol
K30. sut i sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch eich hun
K31. sut i adnabod os nad yw gwasanaethau’n bodloni anghenion unigolyn
K32. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles