Galluogi unigolion i gymryd eu meddyginiaeth fel y’i rhagnodwyd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu unigolion i ddeall effeithiau a buddion y feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt a phwysigrwydd cydymffurfio â’u rhaglen driniaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer yr holl ymarferwyr y mae’n ofynnol iddynt gynghori unigolion ynglŷn â’u meddyginiaeth a phwysigrwydd cymryd eu meddyginiaeth fel y’i rhagnodwyd.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cadarnhau’r feddyginiaeth, y dos, yr amlder gweinyddu, y dull a’r amlder rhoi, a hyd y driniaeth
P2. gwirio bod unigolion yn deall pam a sut y dylid cymryd eu meddyginiaeth
P3. esbonio effeithiau a buddion tebygol defnyddio’r feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt
P4. esbonio canlyniadau peidio â chymryd y feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt
P5. nodi unrhyw resymau pam nad yw unigolion eisiau cymryd y feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt
P6. ceisio tawelu meddwl unigolion a rhesymoli unrhyw ofnau a allai fod ganddynt
P7. sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o unrhyw sgil-effeithiau posibl a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chymryd mwy na’r dos a ragnodwyd
P8. esbonio unrhyw ganlyniadau a allai ddeillio o gyfuno meddyginiaeth a ragnodwyd â sylweddau eraill (e.e. cyffuriau anghyfreithlon, cyffuriau dros y cownter, alcohol)
P9. esbonio i unigolion bwysigrwydd cadw meddyginiaethau mewn man diogel ac allan o gyrraedd plant
P10. lle y bo’n briodol, cynghori unigolion bod gyrru dan ddylanwad rhai mathau o gyffuriau yn erbyn y gyfraith
P11. addasu eich arddull gyfathrebu a faint o wybodaeth a ddarperir yn ôl anghenion a galluoedd yr unigolyn (e.e. Saesneg fel ail iaith, gallu gwybyddol, amhariad ar y clyw neu’r golwg)
P12. lle bo’n briodol, rhoi gwybodaeth ategol i unigolion y gallant fynd â hi gyda nhw a’i darllen yn ddiweddarach
P13. sicrhau bod y wybodaeth a/neu’r cyngor a gynigir yn gywir, yn berthnasol ac yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol a phrotocolau lleol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i wahanol bobl (e.e. Saesneg fel ail iaith, gallu gwybyddol, amhariad ar y clyw neu’r golwg)
K2. sut i wirio dealltwriaeth unigolion
K3. sut i nodi unrhyw resymau pam nad yw unigolion eisiau cymryd y feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt
K4. sut i asesu pryderon unigolion, tawelu eu meddwl a rhesymoli unrhyw ofnau a allai fod ganddynt
K5. effeithiau a buddion defnyddio’r feddyginiaeth a ragnodwyd K6 canlyniadau peidio â chymryd y feddyginiaeth a ragnodwyd
K7. sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chymryd mwy na’r dos a ragnodwyd
K8. canlyniadau posibl cyfuno meddyginiaeth a ragnodwyd â sylweddau eraill (e.e. cyffuriau anghyfreithlon, cyffuriau dros y cownter, alcohol)
K9. egwyddor cyfrinachedd o dan ddeddfwriaeth diogelu data: pa wybodaeth y ceir ei rhoi i bwy
K10. sut i sicrhau bod y wybodaeth a/neu’r cyngor a gynigir yn gywir, yn berthnasol ac yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol a phrotocolau lleol
K11 y cyfyngiadau cyfreithiol ar yrru dan ddylanwad rhai mathau o gyffuriau a’ch rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o’r rhain
K12/ gofynion a pholisïau sefydliadol sy’n berthnasol i’r swyddogaethau a gyflawnir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Datblygwyd y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon gan Sgiliau Iechyd. Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles