Paratoi presgripsiynau ar gyfer cyffuriau a reolir i ddefnyddwyr sylweddau

URN: SFHAH11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi presgripsiynau ar gyfer cyffuriau a reolir i ddefnyddwyr sylweddau dan gyfarwyddyd ymarferydd meddygol cofrestredig ac i’w llofnodi ganddo. Nid yw’r safon hon ar gyfer gweinyddu meddyginiaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. cadw dogfennau rhagnodi mewn man diogel a chynnal trywydd archwilio o bresgripsiynau ar gyfer yr holl gyffuriau a reolir

P2. paratoi presgripsiynau ar gyfer cyffuriau a reolir yn unol â chyfarwyddiadau’r clinigydd

P3. cysylltu â gwasanaethau eraill a gwirio hanes meddygol yr unigolyn er mwyn sicrhau nad yw clinigydd arall yn rhagnodi cyffuriau a reolir iddo

P4. cwblhau’r dogfennau perthnasol ar gyfer presgripsiynau yn unol â chanllawiau rhagnodi

P5. sicrhau nad oes lle gwag ar y ffurflen lle gellid ychwanegu eitemau eraill

P6. ymgynghori â’r clinigydd os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd ar y presgripsiwn 

P7. sicrhau bod y clinigydd yn llofnodi’r presgripsiwn ac yn rhoi’r dyddiad arno

P8. cytuno ar y drefn weinyddu gyda’r fferyllydd a chysylltu’n rheolaidd ynglŷn â’r unigolyn penodol a’r drefn ragnodi

P9. sicrhau eich bod ar gael i dderbyn galwadau ffôn brys gan y fferyllydd os bydd camgymeriad rhagnodi

P10. cofnodi’r presgripsiwn ar gyfer cyffuriau a reolir ar y cofnod monitro priodol

P11. sicrhau bod cofnodion triniaeth yr unigolyn ar gael i’r rhai hynny sydd â’r awdurdod i’w gweld yn unig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. pwysigrwydd cysylltu’n rheolaidd â gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig, a ffyrdd priodol o gynnal y cysylltiad hwn
K3. canllawiau cenedlaethol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a phrotocolau lleol ar gyfer rhagnodi cyffuriau a reolir
K4. y dogfennau cywir i’w defnyddio wrth ragnodi cyffuriau a reolir a’r wybodaeth sy’n ofynnol
K5. pwysigrwydd cadw dogfennau rhagnodi mewn man diogel                 K6    pwysigrwydd cysylltu’n rheolaidd â’r fferyllydd sy’n gweinyddu
K7. sut i gofnodi presgripsiynau’n glir ac yn gywir ar y dogfennau priodol
K8. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K9. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
K10. yr ystod o wahanol sylweddau a’u heffeithiau
K11. pwysigrwydd rhagnodi cyffuriau a reolir i ddefnyddwyr sylweddau yn rhan o gynllun triniaeth ehangach a sut mae defnyddio cyffuriau a reolir yn ategu ymyriadau seicolegol, cymdeithasol a meddygol eraill
K12. sut i roi cyngor ac arweiniad ynglŷn â storio cyffuriau’n ddiogel a’r angen i ystyried materion diogelu pan fydd gan bobl sy’n derbyn cyffuriau gyfrifoldebau rhiant
K13. y trefniadau llywodraethu clinigol yn eich sefydliad, sut maen nhw’n gweithredu a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â hyn
K14. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Elfen: HWB10 Cynhyrchion i fodloni anghenion iechyd a lles


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHAH11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau; alcohol; sylweddau; camddefnyddio; cam-drin; comisiynu; rhagnodi; meddyginiaeth