Gweithio gydag unigolion i annog gostyngiad mewn yfed alcohol ac ymddygiad yfed niweidiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag unigolion i’w hannog i gydnabod ymddygiad yfed a allai beri risg neu fod yn niweidiol i iechyd a lles. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi cymorth ac arweiniad i’w helpu i yfed llai o alcohol. Mae’n mynd i’r afael ag adnabod pwy allai fod yn briodol i dderbyn ymyriadau sy’n helpu pobl i leihau’r niwed neu’r risg i’w hiechyd a achosir gan yfed gormod. Mae’r safon hon ar gyfer ystod eang o weithwyr a allai ddod i gysylltiad â phobl sy’n yfed mwy na’r lefelau a argymhellir yn feddygol, sy’n arddangos ymddygiad mentrus a/neu sy’n profi anawsterau sy’n gysylltiedig â’u defnydd o alcohol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. creu amgylchedd sy’n addas ar gyfer trafodaeth agored, gyfrinachol
P2. amlygu, gan ddefnyddio offer neu dechnegau sgrinio cydnabyddedig, unigolion sydd:
P2.1 yn yfed ar lefelau mentrus ac a allai ymateb i gyngor cryno
P2.2 yn yfwyr dibynnol neu’n yfwyr sydd â phroblemau cymhleth y mae angen eu hatgyfeirio i gael cymorth arbenigol
P3. esbonio pam yr ydych yn pryderu am ymddygiad yfed yr unigolyn
P4. gwirio dealltwriaeth yr unigolyn o effaith ei ymddygiad yfed arno ef ei hun a phobl eraill, a ph’un a yw’n awyddus i newid yr ymddygiad hwn
P5. cychwyn trafodaethau ynglŷn ag ymddygiad yfed mentrus ac ymateb i unigolion sy’n mynegi pryder ynghylch faint maen nhw’n ei yfed
P6. annog yr unigolyn i amlygu buddion posibl newid ei ymddygiad yfed
P7. rhoi gwybodaeth gywir ac adborth ynglŷn â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r defnydd presennol o alcohol
P8. darparu opsiynau ar gyfer strategaethau amgen i newid ymddygiad yfed, gan gynnwys cymorth arbenigol i’r rhai sydd â dibyniaeth sefydledig ar alcohol a/neu broblemau difrifol sy’n gysylltiedig ag alcohol
P9. cynorthwyo’r unigolyn i:
P9.1 gosod nodau yfed
P9.2 amlygu a goresgyn rhwystrau rhag newid ei ymddygiad yfed
P10. cynorthwyo’r unigolyn i adnabod sut gallai ei ymddygiad yfed gael effaith
negyddol ar bobl eraill
P11. darparu adnoddau neu daflenni gwybodaeth ategol perthnasol a chyfeirio at wasanaethau arbenigol lleol os yw’r unigolyn yn dymuno ceisio cymorth pellach
P12. cynnig apwyntiad dilynol i adolygu ymddygiad yfed
P13. cadw cofnod cywir o’ch canlyniadau sgrinio, ymyrraeth a’r wybodaeth a’r cyngor a roddoch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn
K3. systemau, gweithdrefnau a phrotocolau lleol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc
K4. eich cyfrifoldeb a’ch atebolrwydd am les unigolion
K5. sut i gefnogi dewis a lles yr unigolyn yn briodol i’w anghenion a’i ddewisiadau
K6. sut mae alcohol, fel cyffur, yn effeithio ar y corff a’r meddwl, a sut mae hyn yn gallu effeithio ar ymddygiad
K7. nodweddion dibyniaeth
K8. goblygiadau cyfreithiol defnyddio alcohol mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys deddfwriaeth traffig ffyrdd a materion yn ymwneud â chydsyniad pobl sy’n feddw
K9. yr effaith y gall alcohol ei chael ar iechyd a lles unigolyn, gan gynnwys:
K9.1. y risgiau uniongyrchol sy’n gallu deillio o fod yn feddw
K9.2. y risgiau iechyd a chymdeithasol posibl sy’n gysylltiedig ag yfed mentrus tymor hwy
K9.3. y risg i les emosiynol a chorfforol pobl eraill, gan gynnwys teuluoedd
K9.4. y risg i’r ffetws heb ei eni ar gyfer menywod beichiog
K9.5. y risg i’r rhai sy’n defnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn, cyffuriau a reolir a sylweddau eraill
K10. y system unedau a ddefnyddir i fesur cynnwys alcohol a’r hyn yr ystyrir ei fod yn yfed risg is, peryglus, niweidiol a dibynnol, fel y’i diffinnir gan ganllawiau meddygol cyfredol
K11. y newidiadau y gellir eu gwneud i ymddygiad yfed i wella iechyd, lles a diogelwch personol
K12. hyd a lled a therfyn eich rôl a’ch arbenigedd chi mewn perthynas ag ymyriadau alcohol
K14. sut i ddefnyddio offeryn sgrinio priodol a dehongli ei ganlyniadau
K15. sut i gyflwyno opsiynau i wahanol unigolion a’u harchwilio gyda nhw
K16. sut i gyflwyno gwybodaeth a chyngor yn llawn, yn gywir, yn gryno ac mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion pobl
K17. sut mae oedran, rhywedd, cefndir diwylliannol a chymdeithasol yn gallu effeithio ar y berthynas waith
K18. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
K19. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K20. y model cylch newid a sut i helpu unigolion i wneud ac adolygu penderfyniadau a sefydlu blaenoriaethau
K21. sut i adnabod y ffordd y mae alcohol yn cyfrannu at sefyllfaoedd mentrus
K22. pwysigrwydd ymyriadau byr i alluogi unigolion nad ydynt yn ddibynnol ar
alcohol i newid eu hymddygiad yfed er mwyn gwella eu hiechyd
K23. y gwasanaethau sydd ar gael i drin unigolion sydd â phroblemau alcohol
K24. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles