Rheoli rhagnodi cyffuriau a reolir ar gyfer defnyddwyr sylweddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’r broses o ragnodi cyffuriau a reolir i ddefnyddwyr sylweddau yn rhan o’u cynllun triniaeth. Mae’n ymdrin â rhagnodi lleihaol a chynhaliol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. cadw dogfennau rhagnodi mewn man diogel a chynnal trywydd archwilio o bresgripsiynau ar gyfer yr holl gyffuriau a reolir
P2. gwirio bod dibyniaeth wedi cael ei chadarnhau gan ddefnyddio cyfuniad o brofion ac asesiadau clinigol
P3. cysylltu â gwasanaethau eraill a gwirio hanes meddygol yr unigolyn er mwyn sicrhau nad yw clinigydd arall yn rhagnodi cyffuriau a reolir iddo
P4. sicrhau bod cyffuriau a reolir ond yn cael eu rhagnodi i ddefnyddwyr sylweddau yn rhan o gynllun triniaeth ehangach sydd â nodau penodol
P5. sicrhau bod rhagnodi cyffuriau a reolir yn cael ei ystyried yng nghyd-destun ymyriadau seicolegol, cymdeithasol a meddygol eraill a gynlluniwyd
P6. dilyn canllawiau a phrotocolau, pan fyddant ar gael, wrth ddewis y math o feddyginiaeth, dwyster cychwynnol, dos, amlder gweinyddu ac amlder rhoi
P7. sicrhau bod cyffuriau a reolir yn cael eu rhagnodi yn unol â chynllun triniaeth a chyflwr yr unigolyn
P8. ymgynghori â goruchwyliwr clinigol priodol os ydych yn ansicr ynglŷn â’r cyffuriau i’w rhagnodi neu lefel eich cymhwysedd mewn perthynas â’ch rôl yn y broses ragnodi
P9. pan fydd angen, sicrhau y cafwyd trwydded ar gyfer rhagnodi’r cyffuriau a reolir
P10. cwblhau’r dogfennau perthnasol ar gyfer presgripsiynau yn unol â chanllawiau rhagnodi
P11. sicrhau nad oes lle gwag ar y ffurflen lle y gellid ychwanegu eitemau eraill
P12. cytuno ar y drefn weinyddu gyda’r fferyllydd a chysylltu’n rheolaidd ynglŷn â’r unigolyn penodol a’r drefn ragnodi
P13. sicrhau eich bod ar gael i dderbyn galwadau ffôn brys gan y fferyllydd os bydd camgymeriad rhagnodi
P14. cofnodi’r presgripsiwn ar gyfer cyffuriau a reolir ar y cofnod monitro priodol
P15. sicrhau bod cofnodion triniaeth yr unigolyn ar gael i’r rhai hynny sydd â’r awdurdod i’w gweld yn unig
P16. cymryd rhan mewn adolygiadau clinigol rheolaidd o gynnydd yr unigolyn, gan gynnwys cydymffurfio â’r drefn ragnodi
P17. adolygu arferion rhagnodi yng ngoleuni canllawiau a/neu dystiolaeth newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. sut i wneud asesiad clinigol a chynnal profion i gadarnhau dibyniaeth yr unigolyn ar y cyd â’r unigolyn
K3. pwysigrwydd rhagnodi cyffuriau a reolir i ddefnyddwyr sylweddau yn rhan o gynllun triniaeth ehangach a sut mae defnyddio cyffuriau a reolir yn ategu ymyriadau seicolegol, cymdeithasol a meddygol eraill
K4. pwysigrwydd cysylltu’n rheolaidd â gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig, a ffyrdd priodol o gynnal y cysylltiad hwn
K5. canllawiau cenedlaethol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a phrotocolau lleol ar gyfer rhagnodi cyffuriau a reolir
K6. y trefniadau llywodraethu clinigol yn eich sefydliad, sut maen nhw’n gweithredu a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â hyn
K7. mathau o gyffuriau a reolir y gellir eu defnyddio wrth drin dibyniaeth ar gyffuriau, ynghyd â’u nodweddion, eu swyddogaethau, eu heffeithiau, eu harwyddion a’u gwrtharwyddion
K8. dulliau o roi cyffuriau
K9. sut i gyfrifo dos cywir y cyffuriau ac amlder rhoi
K10. sut i gysylltu’r presgripsiwn â chyflwr a chynllun triniaeth yr unigolyn
K11. sut i gael pad presgripsiwn i ragnodi cyffuriau a reolir ar gyfer dibyniaeth ar
gyffuriau a phryd y mae angen trwydded
K12. y dogfennau cywir i’w defnyddio wrth ragnodi cyffuriau a reolir a’r wybodaeth sy’n ofynnol
K13. pwysigrwydd cadw dogfennau rhagnodi mewn man diogel
K14. pwysigrwydd goruchwylio cymryd cyffuriau a reolir
K15. pwysigrwydd cysylltu’n rheolaidd â’r fferyllydd sy’n gweinyddu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal yr unigolyn
K16. sut i gofnodi presgripsiynau’n glir ac yn gywir ar y dogfennau priodol
K17. sut i adolygu arferion rhagnodi yng ngoleuni canllawiau a/neu dystiolaeth newydd
K18. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â
gofynion sefydliadol
K19. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K20. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
K21. pwysigrwydd cynnal adolygiadau clinigol rheolaidd o gynnydd yr unigolyn, a sut i wneud hynny
K22. pwysigrwydd cynnal adolygiadau rheolaidd o ymarfer rhagnodi, a sut i wneud hynny
K23. y goruchwyliwr clinigol priodol i ymgynghori ag ef pan fyddwch yn ansicr ynglŷn â’r cyffuriau i’w rhagnodi neu lefel eich cymhwysedd mewn perthynas â’ch rôl yn y broses ragnodi
K24. yr ystod o wahanol sylweddau a’u heffeithiau
K25. sut i roi cyngor ac arweiniad ynglŷn â storio cyffuriau’n ddiogel a’r angen i ystyried materion diogelu pan fydd gan bobl sy’n derbyn cyffuriau gyfrifoldebau rhiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB7 Ymyriadau a thriniaethau