Cynnal asesiad cynhwysfawr ar gyfer alcohol a sylweddau eraill
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu anghenion unigolion sy’n defnyddio alcohol a sylweddau eraill sydd â gofynion cymhleth a/neu’r bobl hynny y mae arnynt angen rhaglenni gofal sy’n fwy dwys a/neu strwythuredig. Mae’n ymdrin ag asesu sy’n barhaus drwy gydol y cysylltiad â’r gwasanaeth defnyddio sylweddau a’r system gymorth ehangach. Mae’n cynnwys:
1. paratoi ar gyfer asesiad cynhwysfawr o alcohol a sylweddau eraill
2. asesu defnydd yr unigolyn o sylweddau, ei rwydwaith cymorth a phroblemau cysylltiedig
3. asesu risgiau posibl i’r unigolyn
4. asesu dealltwriaeth yr unigolyn o’r gwasanaethau sydd ar gael
Mae’r safon hon yn ymwneud â sylweddau a allai gynnwys alcohol, meddyginiaethau ar bresgripsiwn a dros y cownter, cyffuriau a reolir neu sy’n gyfreithlon ar hyn o bryd, a sylweddau seicoweithredol newydd. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. gwerthuso ceisiadau am asesiad i bennu eu blaenoriaeth yn gyson â meini prawf eich sefydliad
P2. cael gwybodaeth ychwanegol os yw’r wybodaeth gychwynnol yn annigonol i gynnal asesiad effeithiol
P3. cadarnhau unrhyw anghenion penodol sydd gan yr unigolyn y bydd angen eu hystyried yn ystod yr asesiad o’r wybodaeth sydd ar gael
P4. cofnodi trefniadau ar gyfer yr asesiad yn llawn ac yn gywir yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P5. cadarnhau’r trefniadau ar gyfer yr asesiad gyda’r unigolyn
P6. esbonio unrhyw oedi rhwng ceisiadau am asesiad a chynnal yr asesiad yn glir i’r unigolyn
P7. os oes angen i’r unigolyn gwblhau unrhyw ddogfennau, rhoi’r rhain iddo cyn yr asesiad er mwyn iddo eu hystyried
P8. cynnig cymorth priodol i unigolion gwblhau dogfennau, os bydd angen
P9. esbonio natur a hyd yr asesiad i’r unigolyn, y math o wybodaeth a fydd yn cael ei chofnodi a phwy fydd â’r hawl i gael at y wybodaeth hon
P10. cynnal yr asesiad yn unol â meini prawf y cytunwyd arnynt yn lleol a chan ddefnyddio’r dogfennau cywir
P11. cynnwys yr unigolyn yn yr asesiad cyn belled ag y bo’n bosibl yn unol â’i allu
P12. adolygu’r wybodaeth a gafwyd o asesiadau blaenorol a gwblhawyd o fewn eich sefydliad neu gan bobl eraill sy’n ymwneud â gofal yr unigolyn
P13. casglu gwybodaeth gan yr unigolyn, gan archwilio ffactorau hanesyddol yn ogystal â ffactorau a gyflwynir
P14. asesu dealltwriaeth yr unigolyn o’r gwasanaethau sydd ar gael a’i barodrwydd i ymgysylltu â rhaglen driniaeth a/neu gymorth
P15. ymateb i ymddygiad heriol, camdriniol, ymosodol neu gaotig
P16. asesu unrhyw risg i’r unigolyn a allai ddeillio o ddefnyddio sylweddau yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt yn lleol
P17. annog yr unigolyn i ofyn cwestiynau, ceisio cyngor a mynegi unrhyw bryderon
P18. asesu natur problemau defnyddio sylweddau’r unigolyn ac unrhyw broblemau eraill a allai fod ganddo
P19. defnyddio canlyniadau’r asesiad i lywio’r cynllun gofal cydweithredol
P20. sicrhau bod eich asesiad yn ystyried anghenion, cryfderau a safbwyntiau’r unigolyn, risgiau cynhenid, diogelu, a’r ddyletswydd gofal gyfreithiol i’r unigolyn a phobl eraill
P21. cadw cofnodion cywir, darllenadwy a chyflawn o’r asesiad i lywio’r broses o ddatblygu cynllun gofal ac at ddibenion gwerthuso
P22. asesu ac adolygu ar adegau priodol pan fydd yr unigolyn wedi dechrau cynllun gofal
P23. rhoi gwybodaeth gywir a chlir i unigolion am sut i gwyno ynglŷn â’r system asesu ac apelio yn erbyn penderfyniadau
P24. ceisio cymorth gan yr unigolyn priodol cyn gynted â phosibl pan fydd unrhyw broblemau â’r asesiad
P25. trafod asesiadau gydag aelodau eraill o dîm y gwasanaeth defnyddio sylweddau er mwyn sicrhau dull cyson
P26. sicrhau bod eich cofnodion asesu mewn fformat ac yn ddigon manwl i’w harchwilio yn erbyn safonau y cytunwyd arnynt yn lleol
P27. cofnodi ac adrodd ar newidiadau a wnaed ac unrhyw effaith y gallai hyn ei chael ar yr unigolyn o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. systemau, gweithdrefnau a phrotocolau lleol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc
K3. sut i gael gwybodaeth gan unigolion ac asiantaethau eraill yn unol â phrotocolau
K4. sut i drosglwyddo gwybodaeth a gafwyd yn ystod asesiad i asiantaeth arall yn unol â phrotocolau lleol
K5. sut i werthuso ceisiadau am asesiad yn ôl eu blaenoriaeth yn unol â meini prawf eich sefydliad
K6. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn
K7. sut i gynnwys unigolyn yn yr asesiad o’i anghenion a’i opsiynau
K8. sut i asesu a rheoli anghenion cymhleth a chydafiachedd
K9. sut i asesu cryfderau a strategaethau ymdopi’r unigolyn
K10. sut i asesu dealltwriaeth unigolyn o’r gwasanaethau sydd ar gael a’i barodrwydd i ymgysylltu â rhaglen driniaeth
K11. sut i ddefnyddio technegau cyfweld ysgogiadol i asesu cymhelliad yr unigolyn
K12. sut i asesu unigolion sydd dan ddylanwad alcohol neu sylweddau eraill a’r camau i’w cymryd os na ellir cynnal yr asesiad
K13. pwy sy’n gallu rhoi cymorth pan fydd unrhyw broblemau â’r asesiad
K14. pwysigrwydd cadw at feini prawf a dogfennau y cytunwyd arnynt yn lleol wrth
gynnal asesiadau
K15. sut i gofnodi canlyniadau asesiadau a defnyddio’r asesiad i lywio’r broses o ddatblygu cynllun gofal cynhwysfawr
K16. sut i adolygu asesiadau ar adegau priodol pan fydd unigolyn wedi dechrau cynllun gofal
K17. eich cyfrifoldeb a’ch atebolrwydd am les unigolion
K18. sut i adnabod arwyddion anaf, camdriniaeth neu esgeulustod yn yr unigolyn a sut i godi pryderon gyda’r unigolyn priodol neu’r asiantaeth briodol
K19. sut i gefnogi dewis a lles yr unigolyn yn briodol i’w anghenion a’i ddewisiadau
K20. sut mae defnydd pobl eraill o sylweddau yn gallu effeithio ar ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol, corfforol a seicolegol plant, pobl ifanc a phobl eraill arwyddocaol, a sut i ymateb yn briodol
K21. sut i ystyried oedran ac aeddfedrwydd plentyn neu berson ifanc wrth ystyried effaith defnydd pobl eraill o sylweddau arno
K22. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K23. sut i gynorthwyo unigolion i gwblhau dogfennau
K24. pwysigrwydd monitro’r sefyllfa o ran defnydd unigolyn o sylweddau, a sut i wneud hynny
K25. sut i asesu’r risg i unigolion, plant, teuluoedd a phobl eraill sy’n deillio o’u defnydd o sylweddau a/neu broblemau sy’n cydfodoli a’r camau priodol i’w cymryd
K26. pwysigrwydd adolygu asesiadau risg yn rheolaidd
K27. arwyddion a goblygiadau ystod o broblemau sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau
K28. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
K29. sut mae oedran, rhywedd, cefndir diwylliannol a chymdeithasol, gan gynnwys y sylwedd y dewiswyd ei ddefnyddio, yn gallu effeithio ar y berthynas waith
K30. ffyrdd o gadw eich gwybodaeth am sylweddau ac arwyddion defnyddio sylweddau yn gyfredol
K31. sut i ddeall yr iaith a ddefnyddir gan ddefnyddwyr sylweddau yn eich ardal
K32. ffynonellau gwybodaeth am wasanaethau iechyd a lles sy’n darparu
gwasanaeth ymyriadau triniaeth ar gyfer defnyddwyr sylweddau
K33. yr ystod o ymyriadau triniaeth a gwasanaethau asesu sydd ar gael yn eich ardal a’r broses ar gyfer atgyfeirio unigolion i’r gwasanaethau hyn
K34. y meini prawf cymhwysedd a’r protocolau ar gyfer defnyddio gwasanaethau yn eich ardal
K35. blaenoriaethau triniaeth a chyfyngiadau adnoddau cenedlaethol, lleol a sefydliadol
K36. sut i ymateb i unigolion nad ydynt eisiau cael eu hatgyfeirio i wasanaethau eraill
K37. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles pobl