Cynnal asesiad i nodi a blaenoriaethu anghenion mewn lleoliad camddefnyddio sylweddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud at atgyfeirio unigolion sydd ag anghenion llai cymhleth yn syth i wasanaethau camddefnyddio sylweddau llai strwythuredig (fel gwasanaethau cyngor galw heibio). Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod pan fydd gan unigolyn anghenion mwy cymhleth sy’n golygu bod angen ei atgyfeirio ar gyfer asesiad camddefnyddio sylweddau cynhwysfawr. Mae’n cynnwys:
1. asesu problem camddefnyddio sylweddau’r unigolyn a’i ddealltwriaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael
2. asesu’r angen am atgyfeiriad i wasanaethau camddefnyddio sylweddau neu ar gyfer asesiad camddefnyddio sylweddau cynhwysfawr
3. gwneud atgyfeiriad i wasanaeth camddefnyddio sylweddau neu ar gyfer asesiad camddefnyddio sylweddau cynhwysfawr
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. asesu’r unigolyn yn brydlon er mwyn cynnal ei gymhelliad ac achub ar y cyfle i’w ymgysylltu â thriniaeth
P2. cynnal yr asesiad yn unol â meini prawf y cytunwyd arnynt yn lleol a chan ddefnyddio dogfennau safonedig
P3. cael gwybodaeth gan yr unigolyn ac, os yw’n briodol, gan yr asiantaeth atgyfeirio, yn unol â phrotocolau
P4. ystyried ffactorau hanesyddol, os datgelwyd nhw gan yr unigolyn, yn ogystal â ffactorau a gyflwynir
P5. asesu dealltwriaeth yr unigolyn o’r gwasanaethau sydd ar gael a’i barodrwydd i ymgysylltu â rhaglen driniaeth
P6. delio ag ymddygiad heriol, camdriniol, ymosodol neu gaotig
P7/ asesu unrhyw risg i’r unigolyn a allai ddeillio o gamddefnyddio sylweddau a/neu broblemau sy’n cydfodoli
P8. annog yr unigolyn i ofyn cwestiynau, ceisio cyngor a mynegi unrhyw bryderon
P9. ceisio cymorth gan yr unigolyn priodol cyn gynted â phosibl pan fydd unrhyw broblemau â’r asesiad
P10. cofnodi manylion cywir, darllenadwy a chyflawn am yr asesiad, yr hyn y cytunwyd arno gyda’r unigolyn a’r camau gweithredu canlyniadol sydd i’w cymryd
P11. cael at wybodaeth gyfredol a chywir am wasanaethau yn eich ardal
P12. cyflwyno’r ymyriadau posibl i’r unigolyn mewn ffordd gadarnhaol ac adolygu’r manteision a’r anfanteision gydag ef
P13. cyflwyno’r ymyriadau posibl i’r unigolyn mewn modd, ac ar lefel a chyflymder, sy’n briodol iddo
P14. cytuno ar ffordd briodol o weithredu gyda’r unigolyn yn unol â dwysedd yr ymyrraeth sy’n ofynnol
P15. rhoi cymorth priodol i’r unigolyn wirio unrhyw wybodaeth am yr ymyrraeth y cytunwyd arni cyn ei chwblhau
P16. cofnodi manylion cywir, darllenadwy a chyflawn am yr asesiad, yr hyn y cytunwyd arno gyda’r unigolyn a’r camau gweithredu canlyniadol sydd i’w cymryd
P17. sicrhau bod canlyniadau’r asesiad a’r hyn y cytunwyd arno yn cyflawni’r cydbwysedd gorau rhwng buddiannau’r unigolyn, unrhyw risgiau cynhenid a’r ddyletswydd gofal gyfreithiol
P18. cyfiawnhau’r ymyrraeth a ddewiswyd yn ôl meini prawf y cytunwyd arnynt yn lleol
P19. trafod asesiadau gydag aelodau eraill o dîm y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau er mwyn sicrhau dull cyson
P20. rhoi cymorth parhaus i unigolion nad ydynt eisiau cael eu hatgyfeirio
P21. gwneud atgyfeiriadau yn unol â phrotocolau lleol a’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer defnyddio gwasanaethau
P22. atgyfeirio’r unigolyn i’r gwasanaeth priodol gyda’r lefel ofynnol o frys
P23. rhannu gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr asesiad â’r gwasanaethau yr atgyfeirir yr unigolyn iddynt yn unol â phrotocolau cytunedig
P24. cynllunio’r trefniadau ar gyfer yr atgyfeiriad gyda’r unigolyn a hwyluso ei gysylltiad â’r gwasanaeth
P25. cytuno ar y wybodaeth sydd i’w throsglwyddo i’r gwasanaeth gyda’r unigolyn
P26. cael adborth gan y gwasanaeth yn dilyn yr atgyfeiriad i werthuso a mireinio arferion atgyfeirio
P27. cofnodi manylion yr asesiad a’r atgyfeiriad at ddibenion adrodd a gwerthuso
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’r swyddogaethau a gynhelir
K2. sut i gael gwybodaeth gan unigolion ac asiantaethau eraill yn unol â’r protocol
K3. sut i drosglwyddo gwybodaeth a gafwyd yn ystod asesiad i asiantaeth arall yn unol â phrotocolau lleol
K4. sut i gynnwys unigolyn yn yr asesiad o’i anghenion
K5. sut i asesu dealltwriaeth unigolyn o’r gwasanaethau sydd ar gael a’i barodrwydd i ymgysylltu â rhaglen driniaeth
K6 sut i asesu’r lefel ofynnol o frys wrth atgyfeirio unigolion i wasanaethau
K7. sut i ddelio ag ymddygiad heriol, camdriniol, ymosodol neu gaotig
K8. sut i asesu unigolion sydd dan ddylanwad alcohol neu sylweddau
K9. pwy sy’n gallu rhoi cymorth pan fydd unrhyw broblemau â’r asesiad
K10. sut i gyflawni cysondeb mewn asesiadau gyda gweithwyr eraill yn eich sefydliad
K11. pwysigrwydd cadw at feini prawf a dogfennau y cytunwyd arnynt yn lleol wrth gynnal asesiadau
K12. sut i gynnwys oedolion sydd â chyfrifoldeb rhiant wrth asesu ac atgyfeirio plant a phobl ifanc
K13. sut i ystyried oedran ac aeddfedrwydd plentyn neu berson ifanc wrth ei gynnwys mewn asesiad
K14. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny
K15. egwyddor cyfrinachedd: pa wybodaeth y ceir ei rhoi i bwy
K16. sut i gyflwyno gwybodaeth mewn modd, ac ar lefel a chyflymder, sy’n
briodol i’r unigolyn
K17. pwysigrwydd monitro’r sefyllfa mewn perthynas â chamddefnydd unigolyn o sylweddau, a sut i wneud hynny
K18. sut i asesu’r risg i unigolion ac i bobl eraill sy’n deillio o’u camddefnydd o sylweddau a/neu broblemau sy’n cydfodoli
K19. pwysigrwydd adolygu asesiadau risg yn rheolaidd
K20. yr ystod o wahanol sylweddau a’u heffeithiau
K21. yr ystod o wahanol arwyddion camddefnyddio sylweddau: corfforol, ymddygiadol a gwybodaeth a ddarparwyd gan yr unigolyn neu o ffynonellau eraill
K22. ffyrdd o gadw’ch gwybodaeth am sylweddau ac arwyddion camddefnyddio sylweddau yn gyfredol
K23. sut i ddeall y jargon a ddefnyddir gan gamddefnyddwyr sylweddau yn eich ardal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles pobl