Cynnal asesiad sgrinio ac atgyfeirio mewn lleoliad camddefnyddio sylweddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod problemau camddefnyddio sylweddau ac atgyfeirio unigolion i wasanaeth camddefnyddio sylweddau neu wasanaeth arall sy’n briodol i’w hanghenion uniongyrchol. Mae’n cynnwys asesu risg i’r unigolyn a phobl eraill, yn enwedig plant defnyddwyr sylweddau.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. diweddaru eich gwybodaeth yn rheolaidd am yr ystod o sylweddau a allai gael eu camddefnyddio ac arwyddion posibl camddefnyddio sylweddau
P2. aros yn fythol effro i arwyddion posibl camddefnyddio sylweddau gan y bobl rydych yn dod i gysylltiad â nhw
P3. ymchwilio i sefyllfaoedd yn ddigonol i ganiatáu i chi farnu’n rhesymol a yw unigolion yn camddefnyddio sylweddau
P4. cael cymorth arbenigol pan na allwch farnu’n rhesymol a yw unigolion yn camddefnyddio sylweddau
P5. ymateb yn brydlon i unigolion sy’n ymgyflwyno ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau er mwyn cynnal eu cymhelliad ac achub ar y cyfle i ymyrryd
P6. asesu unrhyw risg uniongyrchol i’r unigolyn ac i bobl eraill a allai ddeillio o gamddefnyddio sylweddau a/neu broblemau sy’n cydfodoli
P7. cymryd camau prydlon yn briodol i’ch asesiad o risg yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
P8. cofnodi sefyllfaoedd a chamau a gymerwyd yn unol â gofynion sefydliadol
P9. rhoi gwybodaeth am sefyllfaoedd a chamau a gymerwyd i’r rhai sydd â hawl i’w chael yn unig
P10. cael at wybodaeth gyfredol a chywir am wasanaethau yn eich ardal
P11. ystyried gwasanaethau amgen posibl yn unol ag anghenion yr unigolyn
P12. cyflwyno’r posibilrwydd o atgyfeirio i’r unigolyn mewn ffordd gadarnhaol a thrafod y manteision a’r anfanteision gydag ef
P13. atgyfeirio’r unigolyn i wasanaeth gyda’r lefel ofynnol o frys
P14. gwneud atgyfeiriadau yn unol â phrotocolau lleol a’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer defnyddio gwasanaethau
P15. rhoi gwybod i’r unigolyn am argaeledd, hygyrchedd ac unrhyw gost gwasanaethau cyn cadarnhau’r atgyfeiriad
P16. cynllunio’r trefniadau ar gyfer yr atgyfeiriad gyda’r unigolyn a hwyluso ei gysylltiad â’r gwasanaeth
P17. cytuno ar y wybodaeth sydd i’w throsglwyddo i’r gwasanaeth gyda’r unigolyn
P18. darparu gwybodaeth gyflawn a chywir i’r gwasanaeth am y sefyllfa
P19. cael adborth gan y gwasanaeth yn dilyn yr atgyfeiriad i werthuso a mireinio arferion atgyfeirio
P20. rhoi cymorth parhaus i unigolion nad ydynt eisiau cael eu hatgyfeirio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion a pholisïau sefydliadol sy’n berthnasol i asesiadau risg
K2. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny
K3. pwysigrwydd darparu gwybodaeth lawn a chywir, a sut i wneud hynny
K4. egwyddor cyfrinachedd: pa wybodaeth y ceir ei rhoi i bwy
K5. sut i gyflwyno gwybodaeth i unigolion mewn ffordd gadarnhaol
K6. pwysigrwydd monitro’r sefyllfa mewn perthynas â chamddefnydd unigolyn o sylweddau, a sut i wneud hynny
K7. sut i asesu’r risg i unigolion ac i bobl eraill sy’n deillio o’u camddefnydd o sylweddau a/neu broblemau sy’n cydfodoli
K8. y risgiau i blant defnyddwyr sylweddau, a sut i asesu’r risgiau hyn
K9. pwysigrwydd adolygu asesiadau risg yn rheolaidd
K10. yr ystod o wahanol sylweddau a’u heffeithiau
K11. yr ystod o wahanol arwyddion camddefnyddio sylweddau: corfforol, ymddygiadol a gwybodaeth a ddarparwyd gan yr unigolyn neu o ffynonellau eraill
K12. ffyrdd o gadw’ch gwybodaeth am sylweddau ac arwyddion camddefnyddio sylweddau yn gyfredol
K13. sut i ymchwilio i sefyllfaoedd er mwyn barnu’n rhesymol ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau
K14. arbenigwyr camddefnyddio sylweddau, a’r gweithdrefnau ar gyfer atgyfeirio unigolion iddynt
K15. yr ystod o gamau y gallwch eu cymryd pan y gallai unigolion fod yn camddefnyddio sylweddau, a sut i benderfynu pa gamau sy’n briodol
K16. ffynonellau gwybodaeth am wasanaethau camddefnyddio sylweddau ac ymyriadau triniaeth
K17. y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael at wasanaethau yn eich ardal
K18. sut i gynllunio a hwyluso atgyfeiriadau i wasanaethau camddefnyddio sylweddau
K19. sut i asesu’r lefel ofynnol o frys wrth atgyfeirio unigolion i wasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles pobl