Profi ar gyfer defnyddio alcohol a sylweddau eraill
Trosolwg
Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi brofi unigolion i weld a ydynt wedi bod yn defnyddio alcohol a sylweddau eraill. Mae’r safon hon yn ymwneud â sylweddau a allai gynnwys alcohol, meddyginiaethau ar bresgripsiwn a dros y cownter, cyffuriau a reolir neu sy’n gyfreithlon ar hyn o bryd, a sylweddau seicoweithredol newydd. Mae hyn yn cynnwys paratoi i brofi am ddefnyddio sylweddau, cymryd samplau i’w profi, cyfleu a chofnodi canlyniadau profion. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. adnabod yn gywir yr unigolion hynny sydd i’w profi am ddefnyddio sylweddau
P2. trefnu profion yn unol â gofynion
P3. cadarnhau bod yr amgylchedd lle bydd y profion yn cael eu cynnal, a’r gweithdrefnau sydd i’w defnyddio, yn cydymffurfio â pholisïau iechyd, diogelwch a diogeled
P4. gwneud trefniadau i brofion gael eu tystio, pan fydd angen
P5. cadarnhau bod y rhai sy’n ymwneud â chynnal profion yn gymwys ac yn llwyr ddeall eu rolau a’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn
P6. cadarnhau bod yr holl gyfarpar sy’n angenrheidiol ar gyfer profion ar gael
P7. cadarnhau bod unigolion sy’n cael eu profi yn deall diben y profion, eu hawliau, a chanlyniadau peidio ag ildio i’r gweithdrefnau profi
P8. cael unrhyw gydsyniad sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithdrefnau profi gan unigolion, neu gan eu gofalwyr neu warcheidwaid pan fydd angen
P9. esbonio’n glir ac yn fanwl gywir i unigolion beth mae’n ofynnol iddynt ei wneud i ddarparu eu samplau
P10. rhoi cyfleoedd i unigolion ddisgrifio eu defnydd o sylweddau ac esbonio canlyniadau positif anghywir posibl cyn iddynt gael eu profi
P11. cymryd samplau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
P12. sicrhau bod y samplau’n ddilys ac nad ydynt wedi cael eu halogi
P13. atgyfeirio i’r bobl berthnasol yn brydlon os ydych yn amau nad yw samplau’n ddilys neu eu bod wedi’u halogi
P14. profi samplau, neu eu hatgyfeirio ar gyfer profi, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau clinigol a sefydliadol
P15. dilyn cyfarwyddiadau’r cyflenwr/gweithgynhyrchwr ar gyfer defnyddio cyfarpar, lle y bo’n briodol
P16. gwaredu samplau’n ddiogel, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau clinigol a sefydliadol
P17. cyfleu canlyniadau’r profion i unigolion, a’u gofalwyr neu warcheidwaid pan fydd angen, a sicrhau eu bod yn deall y canlyniadau
P18. parchu hawliau unigolion a’r safonau cyfrinachedd sy’n ofynnol
P19. cadw cofnodion llawn a chywir o brofion a chanlyniadau a gwneud
adroddiadau yn unol â pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. polisïau iechyd, diogelwch a diogeled a sut i sicrhau bod yr amgylchedd a’r gweithdrefnau profi yn bodloni’r rhain
K3. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn
K4. hawliau’r unigolyn, y system a’r broses brofi, a goblygiadau posibl canlyniadau positif a negatif
K5. sut i atgyfeirio, ac i bwy, os ydych yn amau nad yw samplau’n ddilys neu eu bod wedi’u halogi
K6. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K7. diben profi a chanlyniadau peidio â chydymffurfio i unigolion
K8. pwysigrwydd amlygu’n gywir yr unigolion hynny sydd i’w profi am ddefnyddio
sylweddau a sut i wneud hynny
K9. gweithdrefnau clinigol a sefydliadol ar gyfer profi am ddefnyddio alcohol neu sylweddau eraill
K10. yr ystod o brofiad sydd ar gael a pha fath o brofion a ddefnyddir gan eich sefydliad
K11. pan fydd angen i’r broses o roi sampl gael ei thystio a sut i wneud trefniadau priodol
K12. pwysigrwydd cael cydsyniad ar gyfer profi am sylweddau, sut i wneud hynny a phryd y bydd angen i ofalwyr a/neu warcheidwaid gymryd rhan
K13. cyfyngiadau profi ac achosion posibl darlleniadau anghywir yn y mathau o brofion a gynhelir
K14. y cyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer profi am ddefnyddio sylweddau a sut i’w ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r cyflenwr/gweithgynhyrchwr a gweithdrefnau sefydliadol
K15. sut i waredu samplau a chyfarpar samplu’n ddiogel
K16. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
K17. hawliau’r unigolyn pan fydd yn cael ei brofi am ddefnyddio sylweddau
K18. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB6 Asesu a chynllunio triniaeth