Cynyddu ymwybyddiaeth o sylweddau, defnydd ohonynt a’u heffeithiau
Trosolwg
Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi gynyddu ymwybyddiaeth o sylweddau, defnydd o sylweddau ac effeithiau sylweddau. Fe allech gynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc, neu bobl eraill y mae angen iddynt wybod am sylweddau oherwydd eu bod yn defnyddio sylweddau eu hunain, oherwydd bod ganddynt ffrindiau neu deulu sy’n defnyddio sylweddau neu y gallent fod yn eu defnyddio, neu oherwydd eu bod yn gweithio’n ffurfiol neu’n anffurfiol gydag unigolion sy’n defnyddio sylweddau.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. galluogi unigolion i siarad am y canlynol a’u hadnabod:
P1.1. beth maen nhw’n ei wybod a’i ddeall am sylweddau
P1.2. y ffyrdd y mae pobl yn cymryd sylweddau
P1.3. effeithiau gwahanol sylweddau ar fywydau pobl
P1.4. y rhesymau pam mae pobl yn cymryd sylweddau
P1.5. pwy sy’n cymryd gwahanol fathau o sylweddau
P1.6. p’un a oes gwahaniaeth rhwng defnyddio gwahanol sylweddau a pham
P1.7. y gwahanol ddosbarthiadau cyffuriau o dan y fframwaith deddfwriaethol
P1.8. agweddau at ddefnyddio a chamddefnyddio sylweddau
P2. gofyn cwestiynau priodol a threiddgar i unigolion ynghylch:
P2.1. y sylweddau nad ydynt wedi sôn amdanynt
P2.2. y rhesymau pam maen nhw’n credu bod rhai sylweddau’n amgenach nag eraill
P2.3. beth maen nhw’n ei olygu pan fyddan nhw’n defnyddio termau’r stryd ar gyfer gwahanol sylweddau, cyfarpar a dulliau defnyddio
P2.4. ffynhonnell eu gwybodaeth a chywirdeb eu ffynonellau
P3. galluogi unigolion i archwilio:
P3.1. eu teimladau ynglŷn â defnyddio sylweddau
P3.2. eu teimladau a’u gwerthoedd ynglŷn â phobl sy’n defnyddio sylweddau
P3.3. eu teimladau ynglŷn â pham mae pobl yn defnyddio gwahanol sylweddau
P4. cyfleu safbwyntiau unigolion ar ddefnyddio sylweddau yn ôl iddynt i gadarnhau eu bod wedi cael eu deall a’u dehongli’n gywir
P5. herio unigolion sy’n gwahaniaethu yn erbyn defnyddwyr sylweddau
P6. archwilio teimladau cryf unigolion ynglŷn â materion penodol a’r rhesymau dros y teimladau hyn
P7. cydnabod profiad a theimladau unigolion sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddefnydd pobl eraill o sylweddau
P8. rhyngweithio ag unigolion drwy gydol y broses mewn modd sydd:
P8.1. yn briodol i gefndir, diwylliant, amgylchiadau ac anghenion yr unigolion
P8.2. yn annog cyfnewid safbwyntiau’n agored
P8.3. yn lleihau unrhyw gyfyngiadau ar gyfathrebu i’r eithaf P8.4 yn rhydd rhag gwahaniaethu a gormes
P8.5. yn anfarnol
P8.6. yn galluogi unigolion i wneud eu cyfraniad eu hunain
P9. amlygu:
P9.1. bylchau yng ngwybodaeth a dealltwriaeth unigolion ynglŷn â sylweddau, defnydd ohonynt a’u heffeithiau mwyn eu hunain ac er mwyn pobl eraill
P9.3. yr arddulliau dysgu sy’n fwyaf tebygol o helpu gwahanol unigolion i ddysgu am sylweddau a’r defnydd ohonynt
P9.4. y dulliau a fyddai’n galluogi gwahanol unigolion i ddysgu am sylweddau, a’r defnydd ohonynt a’u heffeithiau
P10. galluogi unigolion i ddysgu am:
P10.1. y gwahanol fathau o sylweddau, eu henwau stryd a sut mae’r rhain yn newid dros amser ac mewn gwahanol leoedd
P10.2. y dulliau o ddefnyddio sylweddau
P10.3. y rhesymau pam mae pobl yn defnyddio sylweddau
P10.4. yr effeithiau y mae sylweddau’n eu cael ar fywydau pobl
P10.5. y risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio nifer o wahanol sylweddau
P10.6. yr ystod o wasanaethau sydd ar gael i fynd i’r afael ag anghenion a materion sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau
P11. darparu cyfleoedd dysgu:
P11.1. ar yr adeg y mae eu hangen ar bobl eraill
P11.2. mewn modd sy’n sensitif i’w hanghenion a’u hyder
P12. sicrhau bod cynnwys yr hyn a addysgir yn gywir ac wedi’i seilio ar dystiolaeth gyfredol
P13. bod yn agored i’r ystod o faterion y gallai unigolion ddymuno eu harchwilio mewn perthynas â defnyddio sylweddau a pheidio â gwrthod eu trafod
P14. annog pobl eraill i gysylltu â chi a ffynonellau eraill perthnasol o gymorth, pan fydd angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’r swyddogaethau a gynhelir
K2. y ddeddfwriaeth genedlaethol ac Ewropeaidd sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei wneud
K3. polisi’r llywodraeth ynglŷn â defnyddio sylweddau: atal ac addysg; triniaeth, cwnsela, cymorth ac adsefydlu
K4. sefydliadau allweddol a ffurfiwyd i gyflawni strategaeth y llywodraeth ar gyffuriau ac alcohol ar lawr gwlad
K5. gwahanol ymatebion llywodraethau i gyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon, y rhesymau dros hyn a’i effaith ar y driniaeth sydd ar gael i wahanol grwpiau
K6. polisi a gweithdrefnau’r asiantaeth ynglŷn â chyfrinachedd gwybodaeth a datgelu gwybodaeth i drydydd parti, a’r amgylchiadau penodol pryd y gellir gwneud datgeliad
K7. datblygiad corfforol, cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol unigolion a’r ffyrdd y gellir effeithio ar ddatblygiad o’r fath; natur llencyndod a sut mae’n effeithio ar ymddygiad a theimladau
K8. y gwahanol sylweddau sydd ar gael a’u heffeithiau ar y corff – symbylyddion, tawelyddion a rhithbeiriau, gan gynnwys cyffuriau ar bresgripsiwn a chyffuriau dros y cownter
K9. enwau stryd ar gyfer sylweddau, sut mae’r rhain yn newid dros amser ac mewn gwahanol leoliadau, yr angen i wirio dealltwriaeth gyda defnyddwyr o ran y derminoleg a ddefnyddir
K10. peryglon defnyddio sylweddau: swm, amlder, purdeb y sylweddau, defnyddio amryw gyffuriau
K11. materion yn ymwneud ag ansawdd sylweddau anghyfreithlon; amhurdebau, difwynwyr a gwanedyddion a’r gwahaniaeth rhyngddynt; awydd delwyr i gynnal ansawdd y sylweddau maen nhw’n eu gwerthu
K12. dulliau o ddefnyddio sylweddau a’r gwahanol risgiau sy’n gysylltiedig â’r gwahanol ddulliau
K13. y gydberthynas rhwng cefndir unigolion ac effaith sylweddau arnynt: profiad a disgwyliadau, cyflwr meddyliol a seicolegol, problemau iechyd corfforol, lefelu egni ar adeg defnydd, pwysau’r corff
K14. y rhesymau pam mae unigolion yn defnyddio sylweddau: mwynhad, amgylchedd, chwilfrydedd, dull amddiffyn, gwrthryfela, hyrwyddo ac argaeledd, cost o gymharu â sylweddau eraill
K15. effaith rhywedd ar ddefnyddio sylweddau a’r gwahanol ganfyddiadau sy’n ymwneud â’r gwahanol ryweddau a’u defnydd o sylweddau
K16. cyffredinrwydd defnyddio sylweddau, oedran defnydd a’r berthynas â’r math o sylwedd, y berthynas rhwng defnyddio sylweddau ac anfantais economaidd a/neu amddifadedd emosiynol
K17. y gwahaniaeth rhwng cyffredinrwydd sylweddau mewn gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol yn dibynnu ar gyfreithlondeb a natur y gwahanol sylweddau
K18. y berthynas rhwng y mannau lle y defnyddir sylweddau a chysylltiad hyn â gweithgareddau’r unigolion sy’n defnyddio sylweddau: mannau anghysbell a diffyg mynediad at gymorth pan fydd angen, goblygiadau’r lleoliad i ddefnyddio sylweddau, risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio peiriannau ac offer, llai o swildod, gorwneud
K19. tystiolaeth o’r cydgysylltiad rhwng gwahanol sylweddol dros amser
K20. dulliau o atal/lleihau effaith sylweddau a ddefnyddir gan unigolion
K21. canfyddiadau pobl nad ydynt yn defnyddio sylweddau ynglŷn â phobl sy’n defnyddio sylweddau
K22. effeithiau posibl defnyddio sylweddau ar bobl eraill
K23. y gwahaniaeth rhwng cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon, y rhesymau dros y gwahanol ddosbarthiadau o dan y gyfraith a lluniad cymdeithasol y gyfraith mewn perthynas â defnyddio sylweddau
K24. natur dibyniaeth ar sylweddau
K25. y gwahanol wasanaethau sydd ar gael i fynd i’r afael â defnyddio sylweddau: ataliol, triniaeth a chymorth
K26. y berthynas rhwng troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio sylweddau: y ffactorau risg sy’n arwain at droseddu a defnyddio sylweddau
K27. rôl yr asiantaeth a’i gwasanaethau a sut maen nhw’n ymwneud ag asiantaethau a gwasanaethau eraill yn y sector
K28. sut i fonitro, dadansoddi a gwerthuso goblygiadau newidiadau yn yr asiantaeth yr ydych yn gweithio iddi
K29. eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi, a phwy y dylid gofyn iddo am gymorth a chyngor os ydych yn ansicr
K30. sut i gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol i’ch gwaith eich hun
K31. yr opsiynau rydych yn eu hystyried yn eich gwaith eich hun a’r prosesau rhesymu sydd i’w defnyddio
K32. sut i werthuso’ch cymhwysedd eich hun, penderfynu pryd y mae angen cymorth ac arbenigedd pellach a’r camau y gellid eu cymryd i wella’ch cymhwysedd; sut i werthuso effeithiolrwydd eich camau gweithredu a dysgu o brofiad
K33. sut i roi gwybod i bobl eraill am broblemau a chynigion, ac ymgynghori â nhw yn eu cylch, ac annog pobl eraill i gynnig syniadau a her
K34. yr angen i ddatblygu eich cymhwysedd a’ch sgiliau eich hun yn unol â newidiadau i dystiolaeth, gwybodaeth ac ymarfer
K35. hawliau unigolion yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB1 Hybu iechyd a lles ac atal effeithiau niweidiol ar iechyd a lles