Galluogi pobl y mae defnydd rhywun arall o alcohol neu sylweddau eraill yn effeithio arnynt i gael mynediad at wasanaethau

URN: SFHAB7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2012

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â galluogi pobl y mae defnydd rhywun arall o alcohol a sylweddau eraill yn effeithio arnynt i gael mynediad at wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys galluogi pobl y mae defnydd rhywun arall o alcohol neu sylweddau eraill yn effeithio arnynt i archwilio a dewis opsiynau, cynorthwyo pobl y mae defnydd rhywun arall o alcohol neu sylweddau eraill yn effeithio arnynt i roi’r opsiynau a ddewiswyd ar waith, a grymuso pobl y mae defnydd rhywun arall o alcohol neu sylweddau eraill yn effeithio arnynt i adolygu effeithiolrwydd yr opsiynau a ddewiswyd. Mae’r safon hon yn ymwneud â sylweddau a allai gynnwys alcohol, meddyginiaethau ar bresgripsiwn a dros y cownter, cyffuriau a reolir neu sy’n gyfreithlon ar hyn o bryd, a sylweddau seicoweithredol newydd. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. parchu hawl yr unigolyn i gyfrinachedd

P2. creu’r amgylchedd priodol i wneud yr unigolyn mor gyfforddus â phosibl

P3. annog yr unigolyn i adnabod materion sy’n achosi pryder iddo 

P4. rhoi gwybodaeth gyfredol am yr ystod o opsiynau

P5. annog yr unigolyn i archwilio’r ystod o opsiynau sydd ar gael iddo ac sy’n fwyaf priodol i’w anghenion

P6. annog yr unigolyn i archwilio manteision ac anfanteision yr ystod o opsiynau

P7. annog yr unigolyn i ystyried goblygiadau dewis opsiwn                                   

P8. annog yr unigolyn i ddewis opsiwn a datblygu cynllun gweithredu             

P9. rheoli eich teimladau eich hun a ysgogwyd gan yr opsiwn a ddewiswyd mewn
ffordd sy’n cefnogi’r hawl i deimladau o’r fath ar yr un pryd â lleihau unrhyw effeithiau gormodol ar yr unigolyn gymaint â phosibl 

P10. cynorthwyo’r unigolyn i gael at yr opsiwn a ddewiswyd, os oes angen

P11. cynnal cysylltiad â’r unigolyn sy’n cynnig y lefel orau o gymorth heb gyfyngu ar ei ryddid

P12. datblygu ac adolygu’r cynllun gweithredu’n rheolaidd ac annog ac ysgogi’r unigolyn i gadw at y cynllun gweithredu

P13.. annog yr unigolyn i barhau i ganolbwyntio arno ef ei hun a’i gynnydd

P14. annog yr unigolyn i geisio cymorth pellach, os bydd angen

P15. parchu hawl yr unigolyn i newid ei feddwl ynglŷn â mynd â’r mater ymhellach neu ddewis opsiwn gwahanol

P16. sicrhau bod gwasanaethau ar gael i amddiffyn plant a phobl ifanc y mae defnydd rhywun arall o sylweddau’n effeithio arnynt, pan fydd angen

P17. annog yr unigolyn i roi adborth ar gynnydd

P18. annog yr unigolyn i roi adborth ar effeithiolrwydd y cymorth a gafwyd         

P19. nodi unrhyw newidiadau cadarnhaol o bwys yn yr unigolyn

P20. annog a chynorthwyo’r unigolyn i adolygu’r cynllun gweithredu

P21. llunio adroddiadau cywir a chyflawn a storio’ch cofnodion mewn ffordd sy’n cynnal cyfrinachedd yr unigolyn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir

K2. systemau, gweithdrefnau a phrotocolau lleol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc

K3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys cydgymorth a grwpiau/rhwydweithiau cymorth

K4. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn

K5. sut i esbonio deunydd cymhleth er mwyn gwella dealltwriaeth pobl, ar lafar ac yn ysgrifenedig

K6. sut i gefnogi dewis a lles yr unigolyn yn briodol i’w anghenion a’i ddewisiadau

K7. technegau a sgiliau ysgogiadol

K8. sut mae dynameg teulu’n gweithio a gwahanol strwythurau teuluol K9    y gwahanol ffyrdd o ddatrys problemau mewn amgylchedd teuluol

K10. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso

K11. sut mae hunaniaethau diwylliannol, cymunedol, crefyddol ac ethnig yn gallu dylanwadu ar ddynameg teulu

K12. sut mae oedran, rhywedd, cefndir diwylliannol a chymdeithasol, gan gynnwys y sylwedd y dewiswyd ei ddefnyddio, yn gallu effeithio ar y berthynas waith 

K13. sut mae teuluoedd yn gallu effeithio ar ddefnyddio sylweddau, a sut mae defnyddio sylweddau’n gallu effeithio ar deuluoedd, a pham mae angen cymorth ar deuluoedd eu hunain 

K14. yr ystod o ymddygiadau sy’n gallu cyfrannu at ddefnydd unigolyn o alcohol a sylweddau a’i ymwneud â thriniaeth

K15. eich cyfrifoldeb a’ch atebolrwydd am les unigolion

K16 sut mae defnydd pobl eraill o sylweddau yn gallu effeithio ar ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol, corfforol a seicolegol plant, pobl ifanc a phobl eraill arwyddocaol, a sut i ymateb yn briodol

K17. sut i adnabod arwyddion anaf, camdriniaeth neu esgeulustod yn yr unigolyn a sut i godi pryderon gyda’r unigolyn priodol neu’r asiantaeth briodol

K18. materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc mewn teuluoedd y mae defnydd o alcohol a sylweddau’n effeithio arnynt

K19. materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc fel gofalwyr

K20. yr amddiffyniad y gallai fod ei angen ar unigolion y mae defnydd rhywun arall o sylweddau’n effeithio arnynt, a sut i sicrhau bod yr amddiffyniad hwn ar gael

K21. yr ystod o wahanol boblogaethau targed, a’u gwahanol nodweddion ac anghenion

K22. y cyfleoedd hyfforddi a datblygu sydd ar gael yn yr ardal leol i bobl y mae defnydd rhywun arall o sylweddau’n effeithio arnynt

K23. y gwasanaethau cyngor a chymorth ariannol sydd ar gael i unigolion 

K24. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer

K25. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHAB7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau; alcohol; sylweddau; camddefnyddio; cam-drin; comisiynu; cymorth; rhwydwaith; cydgymorth; cymheiriaid