Asesu a gweithredu ar berygl uniongyrchol i unigolion sydd wedi defnyddio alcohol a sylweddau eraill
Trosolwg
Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi asesu perygl uniongyrchol i unigolion sydd wedi defnyddio alcohol a sylweddau eraill, gweithredu ar y perygl uniongyrchol a chynorthwyo’r unigolyn pan fydd y perygl uniongyrchol wedi mynd heibio. Mae’r safon hon yn ymwneud â sylweddau a allai gynnwys alcohol, meddyginiaethau ar bresgripsiwn a dros y cownter, cyffuriau a reolir neu sy’n gyfreithlon ar hyn o bryd, a sylweddau seicoweithredol newydd. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. adnabod unrhyw arwyddion perygl uniongyrchol
P2. gofyn am gymorth ychwanegol, fel y bo angen, yn ddi-oed
P3. sicrhau eich diogelwch personol chi ac unrhyw un arall gerllaw’r unigolyn
P4. rhoi gwybod i’r unigolyn eich bod chi ar gael ac yn fodlon helpu
P5. cael manylion personol gan yr unigolyn neu unrhyw un gerllaw’r unigolyn sydd wedi defnyddio’r sylwedd
P6. cael gwybodaeth am y sylwedd a ddefnyddiwyd gan yr unigolyn neu unrhyw un gerllaw’r unigolyn sydd wedi defnyddio’r sylwedd
P7. annog yr unigolyn i ddisgrifio unrhyw boen neu anghysur y gallai fod yn ei brofi
P8. gweithredu ar y peryglon uniongyrchol yn gyson â pholisïau a gweithdrefnau’r asiantaeth a’ch rôl chi
P9. cymryd camau sy’n briodol i’r sylwedd a ddefnyddiwyd a’r effaith y mae wedi’i chael ar yr unigolyn
P10. os yw’r unigolyn wedi cynhyrfu, cymryd camau i’w dawelu os yw hynny’n ddiogel
P11. cymryd camau ar unwaith i adfywio’r unigolyn, os yw’n ymddangos ei fod mewn cyflwr diddyfnu
P12. rhoi cymorth cyntaf, os yw hynny’n ddiogel
P13. rhyngweithio â’r unigolyn mewn ffordd sy’n cydnabod ei anghenion a’i hawliau
P14. gwneud yr unigolyn mor gyfforddus â phosibl a pheidio â’i symud oni bai bod
hynny’n angenrheidiol i’w ddiogelwch
P15. gwneud yr amgylchedd mor ddiogel â phosibl a chael gwared ar yr holl sylweddau a deunyddiau peryglus
P16. annog yr unigolyn i archwilio goblygiadau / canlyniadau’r digwyddiad
P17. cynorthwyo’r unigolyn i’w alluogi i fodloni ei anghenion
P18. annog yr unigolyn i geisio cymorth pellach
P19. cofnodi’r holl wybodaeth yn gywir a’i hadrodd i’r unigolyn priodol yn y fformat sy’n ofynnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir
K2. yr asiantaethau partner yn yr ardal leol
K3. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn
K4. eich cyfrifoldeb a’ch atebolrwydd am les unigolion
K5. sut i gefnogi dewis a lles yr unigolyn yn briodol i’w anghenion a’i ddewisiadau
K6. sut i dawelu a rhoi sicrwydd i unigolion sydd wedi defnyddio sylweddau, gan sicrhau eu diogelwch a’u lles bob amser
K7. sut i dawelu a rhoi sicrwydd i bobl eraill sydd gerllaw, gan sicrhau eu diogelwch a’u lles bob amser
K8. pryd a sut i symud unigolyn i’w wneud yn gyfforddus
K9. pryd a sut i roi cymorth cyntaf i unigolion, a phwy ddylai wneud hynny
K10. pryd a sut i sicrhau bod y gwasanaethau brys yn cael eu galw
K11. pwysigrwydd casglu gwybodaeth lawn a chywir a sut i wneud hynny
K12. sut i adrodd yn gywir
K13. pwysigrwydd amlygu unrhyw fylchau a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hadrodd yn gywir
K14. sut i adnabod a delio â pherygl uniongyrchol i unigolion sydd wedi defnyddio sylweddau
K15. yr ystod o wahanol sylweddau, a’u heffeithiau a’u risgiau posibl
K16. y camau / opsiynau priodol sydd ar gael pan fydd y perygl uniongyrchol wedi mynd heibio
K17. hawliau unigolion yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw
K18. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso
K19. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer
K20. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB3 Diogelu iechyd a lles