Cynorthwyo unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau
Trosolwg
Ar gyfer y safon hon, bydd angen i chi gynorthwyo unigolion sy’n camddefnyddio sylweddau trwy eu galluogi i fabwysiadu arferion diogel, darparu gofal a chymorth yn dilyn cyfnod o ddefnyddio sylweddau a chefnogi ymdrechion unigolion i leihau niwed neu roi’r gorau i ddefnyddio sylweddau. Byddai sylweddau’n cynnwys alcohol, opiadau, rhithbeiriau, amffetaminau, canabis, meddyginiaeth ar bresgripsiwn, toddyddion a sylweddau anweddol eraill; fe allai’r defnydd ohonynt fod yn arbrofol, ar gyfer hamdden neu’n ddibynnol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. sicrhau eich bod yn cyfathrebu ag unigolion ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau a’i risgiau cysylltiedig ar adeg ac mewn modd sy’n debygol o gynyddu tebygolrwydd yr unigolyn o ddeall i’r eithaf
P2. esbonio risgiau’r sylweddau a gymerir a’r dulliau a ddefnyddir i unigolion, ar lefel ac ar gyflymder sy’n briodol iddynt
P3. cynnig arweiniad, cymorth a chyngor i unigolion ar ffyrdd y gall dulliau camddefnyddio sylweddau a’r gweithgareddau y mae’n effeithio arnynt gael eu harfer yn fwy diogel
P4. cynorthwyo unigolion sy’n dymuno defnyddio sylweddau, cyfarpar a deunyddiau eraill i wneud hynny mewn modd sy’n briodol ac yn gyson â’u hawl i ddewis
P5. cynorthwyo ac annog unigolion i waredu deunyddiau a chyfarpar peryglus mewn modd diogel ac mewn man diogel yn syth ar ôl defnyddio
P6. annog a chynorthwyo unigolion i drafod eu hamgylchiadau a’u hanes camddefnyddio sylweddau a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio a darparu cefnogaeth a chymorth priodol
P7. cynorthwyo unigolion i gysylltu â phobl a fydd yn gallu helpu pan fyddant yn gofyn am wybodaeth a chyngor ychwanegol sydd y tu hwnt i’ch rôl
P8. sicrhau bod eich camau gweithredu i gynorthwyo unigolion sydd wedi defnyddio sylweddau yn gyson â’ch rôl gytunedig a pholisïau a gweithdrefnau eich asiantaeth
P9. rhoi gwybod i unigolion eich bod chi ar gael ac yn fodlon helpu
P10. sicrhau eich bod yn rhyngweithio ag unigolion mewn modd sy’n cydnabod anghenion a hawliau pob unigolyn
P11. sicrhau bod eich camau gweithredu i gynorthwyo unigolion yn briodol i’r sylwedd a ddefnyddiwyd, yr effaith y mae’r sylwedd wedi’i chael a chyflwr yr unigolyn
P12. annog unigolion i ddisgrifio unrhyw boen neu anghysur maen nhw’n ei brofi
P13. symud a thrin unigolion mewn ffordd sy’n achosi cyn lleied o anghysur â phosibl, a dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol i’w diogelwch
P14. gofyn am gymorth pellach sy’n angenrheidiol i helpu’r unigolyn yn ddi-oed
P15. gwneud yr amgylchedd mor ddiogel â phosibl a chael gwared ar yr holl sylweddau a deunyddiau peryglus
P16. cynorthwyo a galluogi unigolion i fodloni eu hanghenion a’u gofynion ar ôl i effeithiau’r sylwedd bylu
P17. adrodd gwybodaeth am gyfnodau camddefnyddio sylweddau yn glir ac yn gywir i unigolyn priodol a’i chofnodi yn y fformat sy’n ofynnol
P18. annog unigolion sydd wedi ymrwymo i leihau eu defnydd o sylweddau i
adolygu eu rhesymau dros wneud hynny
P19. amlygu ac archwilio effeithiau dewis yr unigolyn ar ei fywyd beunyddiol ac unrhyw anawsterau y gallai fod yn eu hwynebu mewn modd cefnogol
P20. amlygu strategaethau a dulliau ar gyfer lliniaru anawsterau sy’n wynebu’r unigolyn yn gywir, a thrafod y strategaethau a’r dulliau hynny’n fanwl
P21. cyfathrebu ag unigolion mewn modd, ac ar lefel a chyflymder, sy’n briodol iddynt
P22. cynnig cymorth i unigolion mewn modd sy’n parchu eu hawliau a’u dewis unigol, ac sy’n briodol i’w hanghenion ac yn realistig o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael
P23. rhoi cymorth priodol i gysylltu â phobl a fydd yn gallu helpu unigolion sy’n gofyn am gyngor a chymorth sydd y tu hwnt i’ch rôl
P24. cynorthwyo unigolion i adolygu eu cynnydd wrth leihau eu defnydd o sylweddau, asesu eu cyflawniadau’n realistig ac amlygu cyfleoedd ar gyfer gwella
P25. cofnodi canlyniadau trafodaethau ynglŷn â chynnydd ac unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau yn gywir ac yn llawn, a throsglwyddo’r rhain i unigolyn priodol yn brydlon
P26. cydnabod a rheoli eich teimladau eich hun ynglŷn â chynnydd yr unigolyn, neu ei ddiffyg cynnydd, mewn ffordd sy’n lleihau eu heffaith ar y cymorth a ddarperir i’r eithaf
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1. defnydd cyfreithlon ac anghyfreithlon o sylweddau, gan gynnwys defnydd anghyfreithlon o gyffuriau ar bresgripsiwn, polisi’r asiantaeth a sut mae hyn yn effeithio ar rôl y gweithiwr
K2. deddfwriaeth yn ymwneud â chyflenwi a defnyddio sylweddau, ac i grwpiau penodol o unigolion, a sut mae hyn yn effeithio ar eich rôl a’ch cyfrifoldebau
K3. deddfwriaeth a pholisïau a chanllawiau’r asiantaeth ar storio a defnyddio sylweddau a’ch rôl mewn perthynas â’r rhain
K4. adnoddau o fewn a’r tu allan i’r asiantaeth i gynorthwyo’r defnyddiwr sylweddau i reoli risgiau defnyddio neu eu lleihau i’r eithaf
K5. y gwahanol asiantaethau cyngor/therapi arbenigol a rhwydweithiau cymorth cenedlaethol/lleol sy’n ymwneud â chynorthwyo defnyddwyr sylweddau
K6. adnoddau sydd ar gael o fewn a’r tu allan i’r asiantaeth i gynorthwyo’r defnyddiwr sylweddau i roi’r gorau i ddefnyddio neu leihau defnydd, gan gynnwys y gwahanol asiantaethau cyngor/therapi arbenigol a rhwydweithiau cymorth cenedlaethol/lleol sy’n ymwneud â chynorthwyo defnyddwyr sylweddau
K7. eich rôl a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â’r unigolyn a sut dylai’r rhain effeithio ar unrhyw berthynas rhyngoch chi a’r unigolyn
K8. y gwahanol fathau o sylweddau y gallai unigolion eu defnyddio, sut maen nhw’n cael eu defnyddio a’u heffeithiau tebygol
K9. y ffyrdd y gallai unigolion gyfuno sylweddau a’r gwahanol effeithiau a allai ddeillio o hyn
K10. y risgiau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn y tymor byr a’r tymor hir
K11. gwahanol fathau o lanweithdra a’r cysylltiadau rhwng mathau o lanweithdra a strategaethau lleihau niwed
K12. yr ystod o weithgareddau y gallai camddefnyddio sylweddau effeithio arnynt a strategaethau lleihau niwed y gellir eu mabwysiadu mewn perthynas â’r rhain
K13. strategaethau lleihau niwed, a sut a pham y gallai’r rhain amrywio o un unigolyn i’r llall
K14. yr ystod o arferion rhyw mwy diogel a sut gellir annog unigolion i ddefnyddio’r rhain
K15, deunyddiau a chyfarpar peryglus, natur y perygl maen nhw’n ei greu a dulliau diogel o’u gwaredu
K16. dangosyddion camddefnyddio’r gwahanol fathau o sylweddau y gallai unigolion eu defnyddio a’u heffeithiau tebygol
K17. y risgiau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn y tymor byr a’r tymor hir
K18. dangosyddion poen, anghysur a bod effeithiau’r sylwedd yn achosi bygythiad sylweddol i les unigolyn, a’r camau y dylid eu cymryd mewn perthynas â phob un
K19. ôl-effeithiau amrywiol camddefnyddio sylweddau ac anghenion posibl yr unigolyn ar ôl defnyddio sylwedd
K20. sut gallai safbwyntiau ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau amrywio
K21. eich rôl chi yn yr amgylchedd a ffiniau a chyfyngiadau’r rôl honno
K22. yr effaith y gallai eich teimladau ei chael ar y cymorth y gellir ei gynnig yn
effeithiol i’r unigolyn
K23. ffactorau sy’n annog unigolion i ddefnyddio sylweddau a sut gallai’r rhain gydgysylltu neu gyfuno
K24. y rhesymau pam mae unigolion yn penderfynu lleihau defnydd o sylweddau neu roi’r gorau i’w defnyddio
K25. yr effeithiau amrywiol y gallai lleihau defnydd o sylweddau neu roi’r gorau i’w defnyddio eu cael ar berthnasoedd, ffordd o fyw, gweithgareddau hamdden, iechyd corfforol ac emosiynol
K26. y math o anawsterau sy’n debygol o godi wrth geisio rhoi’r gorau i ddefnyddio sylweddau neu leihau defnydd ohonynt, a strategaethau a dulliau ar gyfer eu lliniaru
K27. sut gallai eich credoau a’ch teimladau eich hun ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau effeithio ar eich ymddygiad a pham mae’n bwysig gweithio gydag unigolion mewn modd cefnogol ac anfarnol, hyd yn oed pan fydd eich credoau’n gwrthdaro â gweithredoedd yr unigolyn
K28. dulliau o symud a thrin unigolion sy’n debygol o fod yn fwyaf diogel i chi a’r unigolyn, a pham y dylid symud unigolion dim ond pan fydd angen
K29. cymorth brys ar gyfer sefyllfaoedd pan fydd y sylwedd yn achosi argyfwng iechyd
K30. dulliau o gynorthwyo unigolion ar adegau pan fyddant wedi camddefnyddio sylweddau
K31. sut i gynorthwyo unigolion i wneud asesiadau realistig o’u cynnydd a sut gallwch gynnig safbwyntiau mewn modd cefnogol
K32. ffyrdd o gynorthwyo unigolion sy’n ceisio lleihau eu defnydd o sylweddau neu roi’r gorau i’w defnyddio
K33. pwysigrwydd cydnabod a delio â’ch teimladau eich hun mewn perthynas â’r camddefnydd sylweddau sydd dan sylw
K34. pam y dylai’r iaith a ddefnyddir fod yn gyson â ffordd y mae’r unigolyn yn mynegi ei hun, a strategaethau y gellir eu defnyddio i gynyddu’r posibilrwydd o glywed a deall gwybodaeth i’r eithaf
K35. pam dylid cynorthwyo’r unigolyn i drafod ei amgylchiadau a’i hanes camddefnyddio sylweddau
K36. pam dylid cynorthwyo’r unigolyn i gysylltu ag eraill i gael cyngor a chymorth pellach, a pha fath o gymorth y gellid ei roi
K37. dulliau o roi gwybod i’r unigolyn eich bod yn bresennol ac ar gael heb ysgogi ymateb ymosodol
K38. pam dylid cynorthwyo’r unigolyn i ddisgrifio unrhyw boen neu anghysur y mae’n ei brofi
K39. pwysigrwydd cynorthwyo unigolion i fodloni eu hanghenion a’u gofynion eu hunain ar ôl i effeithiau’r sylwedd bylu, a ffyrdd o wneud hyn pam dylid adrodd a chofnodi gwybodaeth
K41. pam mae’n bwysig adolygu gydag unigolion eu rhesymau dros benderfynu lleihau defnydd o sylweddau neu roi’r gorau i’w defnyddio, ac effeithiau ysgogiadol hyn
K42. pwysigrwydd cydnabod hawliau unigolion i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u defnydd o sylweddau
K43. hawliau unigolion i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u hiechyd, gan gynnwys eu hawl i anwybyddu cyngor
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):
Elfen: HWB4 Galluogi er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles