Adnabod defnydd problemus o alcohol neu sylweddau eraill ac atgyfeirio unigolion i wasanaethau

URN: SFHAA1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyffuriau ac Alcohol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod arwyddion a allai ddangos bod rhywun – cyflogai, cydweithiwr, cwsmer, myfyriwr neu unrhyw un arall rydych yn dod i gysylltiad ag ef yn eich rôl – yn defnyddio alcohol neu sylweddau eraill i raddau problemus. Mae’r safon hon yn ymwneud â sylweddau a allai gynnwys alcohol, meddyginiaethau ar bresgripsiwn a dros y cownter, cyffuriau a reolir neu sy’n gyfreithlon ar hyn o bryd, a sylweddau seicoweithredol newydd. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1. diweddaru eich gwybodaeth yn rheolaidd am yr ystod o sylweddau a allai gael eu defnyddio ac arwyddion posibl defnyddio sylweddau

P2. adnabod arwyddion posibl defnyddio sylweddau gan y bobl rydych yn dod i gysylltiad â nhw

P3. trafod eich pryderon am arwyddion defnyddio sylweddau gydag unigolion mewn modd sensitif

P4. asesu sefyllfaoedd yn ddigonol i ganiatáu i chi farnu’n rhesymol a yw unigolion yn defnyddio sylweddau i raddau problemus 

P5. cael cymorth pan na allwch farnu’n rhesymol a yw unigolion yn defnyddio sylweddau i raddau problemus 

P6. asesu’r risg i’r unigolyn ac eraill a allai ddeillio o ddefnyddio sylweddau a chymryd camau sy’n briodol i’ch asesiad o risg

P7. diweddaru eich gwybodaeth yn rheolaidd am arbenigwyr priodol ar gyfer yr ystod o sylweddau a’r gweithdrefnau i’w dilyn wrth atgyfeirio unigolion

P8. atgyfeirio unigolion i wasanaethau yn unol â gofynion sefydliadol 

P9. parchu hawliau unigolion a gofynion cyfrinachedd

P10. rhoi gwybodaeth gyflawn a chywir i wasanaethau am y sefyllfa yn unol â gofynion sefydliadol

P11. monitro’r sefyllfa ac adolygu’n rheolaidd eich asesiad o’r risg i’r unigolyn ac eraill a allai ddeillio o ddefnyddio sylweddau

P12. cymryd camau priodol yng ngoleuni newidiadau i’r sefyllfa a lefel y risg       

P13. cymryd camau yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

P14. cofnodi sefyllfaoedd a chamau a gymerwyd yn unol â gofynion sefydliadol  

P15. rhoi gwybodaeth am sefyllfaoedd a chamau a gymerwyd i’r rhai sydd â hawl   i’w chael yn unig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl a’r gweithgareddau a gynhelir 

K2. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion, cryfderau a galluoedd yr unigolyn

K3. eich cyfrifoldeb a’ch atebolrwydd am les unigolion

K4. egwyddor cyfrinachedd a’r goblygiadau i’ch ymarfer

K5. pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion sefydliadol

K6. pwysigrwydd darparu gwybodaeth lawn a chywir, a sut i wneud hynny

K7. sut i adnabod arwyddion anaf, camdriniaeth neu esgeulustod a sut i godi pryderon gyda’r unigolyn priodol neu’r asiantaeth briodol

K8. sut i gefnogi dewis a lles yr unigolyn yn briodol i’w anghenion a’i ddewisiadau

K9. egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrthwahaniaethol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso

K10. sut mae oedran, rhywedd, cefndir diwylliannol a chymdeithasol, gan gynnwys y sylwedd y dewiswyd ei ddefnyddio, yn gallu effeithio ar y berthynas waith

K11. pwysigrwydd monitro’r sefyllfa o ran defnydd unigolyn o sylweddau, a sut i wneud hynny

K12. sut i asesu’r risg i unigolion ac eraill sy’n deillio o’u defnydd o sylweddau 

K13. pwysigrwydd adolygu asesiadau risg yn rheolaidd

K14. yr ystod o wahanol sylweddau ac effeithiau corfforol, seicolegol ac ymddygiadol eu defnyddio

K15. arwyddion amrywiol defnyddio sylweddau, gan gynnwys corfforol, ymddygiadol a gwybodaeth a ddarparwyd gan yr unigolyn neu ffynonellau eraill 

K16. ffactorau eraill sy’n cynhyrchu arwyddion a allai gael eu dehongli fel y rhai a achosir gan ddefnyddio sylweddau 

K17. ffyrdd o gadw’ch gwybodaeth am sylweddau ac arwyddion defnyddio sylweddau yn gyfredol

K18. sut i ymchwilio i sefyllfaoedd er mwyn barnu’n rhesymol ynglŷn â defnyddio sylweddau

K19. ffynonellau gwybodaeth a chymorth ynglŷn â defnyddio sylweddau, gan gynnwys cymorth gan gymheiriaid

K20. yr ystod o wasanaethau defnyddio sylweddau sydd ar gael, a’r gweithdrefnau ar gyfer atgyfeirio unigolion iddynt 

K21. yr ystod o gamau gweithredu y gallwch eu cymryd pan allai unigolion fod yn defnyddio sylweddau, a sut i benderfynu pa gam sy’n briodol 

K22. hawliau unigolion yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r elfen ganlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau’r GIG (Hydref 2004):

Elfen: HWB2 Asesu a chynllunio gofal i fodloni anghenion iechyd a lles pobl


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHAA1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyffuriau; alcohol; sylweddau; camddefnyddio; cam-drin; comisiynu