Cynnal asesiadau risg a diogelwch o weithle
URN: PROHSS6
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd a diogelwch galwedigaethol
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
30 Ion 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cynnal asesiadau o risg yn y gweithle. Gallai'r rhain fod yn gyflogwyr, rheolwyr llinell, goruchwylwyr, cynrychiolwyr diogelwch neu’n weithwyr.
Mae’n trin a thrafod y cymwyseddau sydd eu hangen i ganfod peryglon, gwerthuso risgiau a gwneud argymhellion i reoli risgiau ac adolygu canlyniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. diffinio pam a ble y cynhelir asesiadau o risg
2. dewis dulliau priodol o ganfod peryglon a gwerthuso risgiau, gan ddilyn arferion gorau
3. rhoi blaenoriaeth i ardaloedd lle mae peryglon a allai beri niwed difrifol i iechyd yn fwyaf tebygol o ddigwydd gan ddilyn arferion gorau
4. canfod peryglon a allai beri niwed a/neu golled gan ddilyn arferion gorau
5. adolygu canllawiau a safonau mewnol ac allanol gan ddilyn gweithdrefnau gweithredu safonol
6. cadarnhau bod rhagofalon priodol ar waith gan ddilyn arferion gorau
7. asesu lefelau risg a chofnodi canfyddiadau arwyddocaol gan ddilyn arferion gorau
8. ystyried a rhoi blaenoriaeth i fannau lle mae angen rhagor o reolaethau gan ddilyn gweithdrefnau gweithredu safonol
9. cyflwyno canlyniadau asesiadau o risg a gwneud argymhellion sy'n rhesymol ymarferol i'r bobl â chyfrifoldeb
10. adolygu a diwygio asesiadau o risg gan ddilyn gweithdrefnau gweithredu safonol
11. cadw cofnodion priodol a digonol gan ddilyn gweithdrefnau gweithredu safonol
12. cymryd camau priodol i reoli neu i gael gwared â risgiau gan ddilyn arferion gorau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. safonau a gofynion cyfreithiol perthnasol
2. peryglon yn y gweithle sydd fwyaf tebygol o beri niwed neu golled
3. pam ei bod yn bwysig bod yn effro i bresenoldeb peryglon yn y gweithle
4. dulliau o ganfod peryglon a risgiau
5. pwrpas, goblygiadau cyfreithiol a phwysigrwydd cynnal asesiadau o risg
6. technegau ar gyfer cynnal asesiadau o risg
7. risgiau iechyd a diogelwch penodol a allai effeithio ar eich rôl chi a’r rhagofalon i'w rhoi ar waith
8. adnoddau sydd eu hangen ar gyfer asesiadau o risg
9. ffynonellau gwybodaeth ar gyfer asesiadau o risg
10. beth i'w wneud â chanlyniadau asesiadau o risg
11. pam ei bod yn bwysig delio â risgiau a pheryglon perthnasol, neu roi gwybod amdanynt ar unwaith
12. eich terfynau personol, cyfrifoldebau eich swydd a’ch galluoedd
13. ble i fynd am arweiniad a chyngor arbenigol
14. yr ardaloedd gwaith a'r bobl rydych chi'n cynnal asesiadau ar eu cyfer
15. gweithgareddau gwaith pobl yn y gweithle lle rydych chi'n cynnal asesiadau o risg
16. dulliau cyfathrebu effeithiol
17. sut mae pennu mesurau rheoli addas
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Proskills
URN gwreiddiol
PROHSS6
Galwedigaethau Perthnasol
Laith, Gweithwyr Iechyd Galwedigaethol, Hylenwyr galwedigaethol a swyddogion diogelwch (iechyd a diogelwch), Rheolwyr Iechyd a Diogelwch, Swyddogion Iechyd a Diogelwch
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
Iechyd a diogelwch galwedigaethol; iechyd a diogelwch; asesu risg