Sicrhau bod y camau a gymerwch yn lleihau’r risg i iechyd a diogelwch
URN: PROHSS1W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar:
30 Ebr 2007
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch pawb yn eich gweithle. Mae’n disgrifio’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer sicrhau:
nad yw eich camau gweithredu yn creu unrhyw beryglon o ran iechyd a diogelwch, nad ydych yn anwybyddu risgiau sylweddol yn eich gweithle, ac eich bod yn cymryd camau call i unioni pethau, gan gynnwys: rhoi gwybod am sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus i bobl yn y gweithle a cheisio cyngor.
Mae deall y termau “perygl”, “risg” a “rheoli” yn elfennau hanfodol o’r uned hon.
Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
• Adnabod y peryglon a gwerthuso’r risgiau yn eich gweithle
• Lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch yn eich gweithle
Grŵp Targed
Mae’r safon hon ar gyfer pawb yn y gwaith (boed y rheini'n gyflogedig, yn wirfoddol, yn amser llawn neu'n rhan-amser). Mae’n ymwneud â sylweddoli beth yw'r risgiau sylweddol yn eich gweithle, gwybod sut mae adnabod y risgiau hynny a sut mae delio â hwy.
Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau’r Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth (ENTO) (yr hen NTO Cyflogaeth).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adnabod y peryglon a gwerthuso’r risgiau yn eich gweithle
1. nodi pa gyfarwyddiadau ar gyfer y gweithle sy’n berthnasol i’ch gwaith
2. nodi’r arferion gweithio hynny yn eich swydd a allai eich niweidio chi neu bobl eraill
3. nodi’r agweddau hynny yn eich gweithle a allai eich niweidio chi neu bobl eraill
4. gwirio pa arferion gweithio ac agweddau yn eich gweithle a allai fod yn niweidiol sy’n peri’r risgiau mwyaf i chi neu i bobl eraill
5. delio â’r peryglon yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithle a'r gofynion cyfreithiol
6. enwi a lleoli’n gywir y bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle
7. rhoi gwybod i’r bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle am y peryglon hynny sy’n peri’r risg fwyaf
Lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch yn eich gweithle
8. gwneud eich gwaith yn unol â lefel eich cymhwysedd, cyfarwyddiadau’r gweithle, cyfarwyddiadau cyflenwyr neu wneuthurwyr a’r gofynion cyfreithiol
9. rheoli’r risgiau iechyd a diogelwch hynny o fewn eich gallu a chyfrifoldebau’ch swydd
10. trosglwyddo awgrymiadau ar gyfer lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch i’r bobl gyfrifol
11. sicrhau nad yw eich ymddygiad yn peryglu eich iechyd a’ch diogelwch chi’ch hun nac iechyd a diogelwch pobl eraill yn eich gweithle
12. dilyn cyfarwyddiadau’r gweithle a chyfarwyddiadau’r cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch mewn ffordd ddiogel
13. rhoi gwybod am unrhyw wahaniaethau rhwng cyfarwyddiadau’r gweithle a chyfarwyddiadau’r cyflenwyr neu’r gwneuthurwyr
14. sicrhau bod eich ymarweddiad a’ch ymddygiad personol yn y gwaith: yn diogelu’ch iechyd a’ch diogelwch chi ac eraill, yn bodloni unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol, ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r gweithle
15. sicrhau eich bod yn dilyn arferion gweithio ecogyfeillgar
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
*
*
1. beth yw “peryglon” a “risgiau”
2. eich cyfrifoldebau a’ch dyletswyddau cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle
3. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel sy'n ofynnol gan y gyfraith sy'n ymwneud â rôl eich swydd
4. y peryglon sydd yn eich gweithle a’r arferion gweithio diogel y mae’n rhaid i chi eu dilyn
5. y peryglon iechyd a diogelwch penodol a allai fod yn bresennol yn eich swydd eich hun a’r rhagofalon y mae’n rhaid i chi eu dilyn
6. pwysigrwydd bod yn effro bob amser i’r peryglon a all fod yn bresennol yn y gweithle drwyddo draw
7. pwysigrwydd delio â risgiau, neu roi gwybod amdanynt yn ddi-oed
8. cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch yn eich disgrifiad swydd
9. yr arferion gweithio diogel ar gyfer eich swydd eich hun
10. y bobl gyfrifol y dylech roi gwybod iddynt am faterion iechyd a diogelwch
11. ymhle y mae cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer iechyd a diogelwch a pha bryd y dylid ceisio’r cymorth hwnnw
12. eich cwmpas a’ch cyfrifoldeb o ran rheoli risgiau
13. cyfarwyddiadau’r gweithle ar gyfer rheoli risgiau na allwch chi ddelio â hwy
14. cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i chi eu dilyn gan gyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch mewn ffordd ddiogel
15. pwysigrwydd ymarweddiad personol o ran sicrhau iechyd a diogelwch yn eich gweithle
16. pwysigrwydd ymddygiad personol o ran sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch chi ac iechyd a diogelwch pobl eraill
17. y risgiau i’r amgylchedd a allai fod yn bresennol yn eich gweithle a/neu yn eich swydd chi’ch hun
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Ebr 2012
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ENTO
URN gwreiddiol
HSS1
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Iechyd, Diogelwch, Camau gweithredu, Lleihau, Sylweddol, Risgiau; Arweinyddiaeth ym maes y Celfyddydau; Celfyddydau Cymunedol; Celfyddydau Cyfranogol; Gweinyddu’r Celfyddydau; Ffasgau; gosod; bondoeau; estyll tywydd; domestig; Hapchwarae; lleoliad; Crefft