Sicrhau bod y camau rydych chi'n eu cymryd yn lleihau’r risg i iechyd a diogelwch

URN: PROHSS1
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd a diogelwch galwedigaethol
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 30 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer pawb sy’n gweithio (boed hynny am dâl, yn ddi-dâl, yn amser llawn neu’n rhan amser). Mae’n ymwneud â deall bod risgiau arwyddocaol yn y gwaith, gwybod sut mae eu hadnabod a sut mae delio â nhw. 
 
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch pawb yn y gwaith. Mae’n disgrifio'r cymwyseddau sydd eu hangen i sicrhau’r canlynol:

1. nad yw'r pethau rydych chi’n eu gwneud yn creu unrhyw beryglon i iechyd a diogelwch
2. nad ydych chi’n anwybyddu risgiau arwyddocaol yn y gwaith  
3. eich bod yn cymryd camau call i gywiro pethau, gan gynnwys: rhoi gwybod am sefyllfaoedd sy'n creu perygl i bobl yn y gwaith a gofyn am gyngor 

Mae deall y termau “perygl”, “risg” a “rheoli” yn hanfodol bwysig i'r safon hon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwybod pa gyfarwyddiadau yn y gweithle sy'n berthnasol i’ch swydd chi 
2. gwybod pa weithgareddau gwaith yn eich swydd chi a allai beri niwed i chi neu i bobl eraill 
3. gwybod pa agweddau ar eich gwaith a allai beri niwed i chi neu i bobl eraill
4. gwirio pa arferion gweithio a allai fod yn niweidiol a'r agweddau ar eich gwaith sy'n creu’r risg fwyaf i chi neu i eraill 
5. delio â pheryglon yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithle a gofynion cyfreithiol 
6. enwi a lleoli pobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gwaith  
7. rheoli’r risgiau hynny i iechyd a diogelwch sydd o fewn cyfrifoldebau eich swydd ac o fewn eich gallu i'w rheoli
8. gwneud eich gwaith yn unol â lefel eich cymhwysedd, cyfarwyddiadau'r gweithle, cyfarwyddiadau cyflenwyr neu wneuthurwyr a gofynion cyfreithiol
9. pasio awgrymiadau ar gyfer lleihau risgiau i iechyd a diogelwch ymlaen i'r bobl sydd â chyfrifoldeb
10. sicrhau nad yw eich ymddygiad yn peryglu eich iechyd a'ch diogelwch chi nac iechyd a diogelwch pobl eraill yn y gwaith 
11. defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyfarwyddiadau'r cyflenwr neu'r gwneuthurwr 
12. rhoi gwybod am unrhyw wahaniaethau rhwng cyfarwyddiadau'r gweithle a chyfarwyddiadau'r cyflenwr neu'r gwneuthurwr gan ddilyn gweithdrefnau defnyddio safonol
13. sicrhau bod eich ymddangosiad a’ch ymddygiad personol chi yn y gwaith: 

  • yn gwarchod eich iechyd a’ch diogelwch chi a phobl eraill,
  • yn bodloni unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol
  • yn cyd-fynd â chyfarwyddiadau'r gweithle


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. beth yw “peryglon” a “risgiau”
2. eich cyfrifoldebau a'ch dyletswyddau cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle
3. eich cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith sy'n berthnasol i rôl eich swydd
4. peryglon sy’n bodoli yn y gwaith a’r arferion gweithio diogel y mae’n rhaid i chi eu dilyn
5. peryglon iechyd a diogelwch penodol a allai fodoli yn eich swydd chi a’r rhagofalon y mae’n rhaid ichi eu rhoi ar waith
6. pam ei bod yn bwysig bod yn effro i bresenoldeb peryglon yn y gweithle cyfan
7. pam ei bod yn bwysig delio â risgiau, neu roi gwybod amdanynt, yn ddi-oed
8. cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n rhan o’ch disgrifiad swydd
9. arferion gweithio diogel sy'n berthnasol i'ch swydd chi
10. y bobl â chyfrifoldeb y dylech roi gwybod iddynt am faterion iechyd a diogelwch
11. ble a pha bryd y dylech chi fynd i gael cymorth iechyd a diogelwch ychwanegol
12. eich gallu a’ch cyfrifoldeb o ran rheoli risgiau
13. cyfarwyddiadau'r gweithle o ran rheoli risgiau nad ydych chi’n gallu delio â nhw
14. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae’n rhaid ichi eu dilyn o ran defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
15. pam fod ymddangosiad personol yn bwysig o safbwynt cynnal iechyd a diogelwch yn y gwaith
16. pam fod ymddygiad personol yn bwysig o safbwynt cynnal iechyd a diogelwch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Proskills

URN gwreiddiol

PROHSS1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Iechyd Galwedigaethol, Hylenwyr galwedigaethol a swyddogion diogelwch (iechyd a diogelwch), Rheolwyr Iechyd a Diogelwch

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

Iechyd a diogelwch galwedigaethol; lleihau risg