Ysgrifennu adroddiadau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dangos eich bod yn gallu llunio testun amrywiol i gyflawni amrywiaeth o dasgau cymdeithasol. Gallwch, er enghraifft; lunio amrywiaeth o ohebiaeth busnes, adroddiadau strwythur a chynnyrch, mynegi ffeithiau a barn, neu lunio cyfarwyddiadau gweithredu ar gyfer darnau offer cyfarwydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Ysgrifennu adroddiadau
defnyddio amrywiaeth o fynegiant a chystrawennau i ddarparu gwybodaeth ffeithiol
defnyddio amrywiaeth o fynegiant a chystrawennau i roi cyfarwyddiadau neu gyngor
defnyddio amrywiaeth o fynegiant a chystrawennau i wneud ymholiadau
defnyddio amrywiaeth o fynegiant a chystrawennau i fynegi barn
addasu iaith a chywair fel sy’n briodol i’r cyd-destun a'ch perthynas â’r darllenwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Ysgrifennu adroddiadau *
defnyddio amrywiaeth eang o eirfa gymdeithasol a geirfa sy’n gysylltiedig â gwaith
defnyddio amrywiaeth o ffurfiau cwrtais o annerch, cyfarch a ffarwelio a ffyrdd o ddiolch, gresynu, ymddiheuro a dangos anfodlonrwydd
defnyddio termau technegol a ddefnyddir yn llai cyffredin sy’n berthnasol i’ch maes gwaith
defnyddio data rhifol
defnyddio amrywiaeth o strwythurau gan ddefnyddio’r berfenw (neu wreiddyn arall syml berf), pan fo’n briodol i’r iaith
defnyddio’r amser presennol, gorffennol, dyfodol ac amodol, lle y bo yn briodol i’r iaith
defnyddio cystrawennau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin yn eu ffurfiau cadarnhaol, negyddol, gorchmynnol a gofynnol
defnyddio amrywiaeth o iaith cysylltu e.e. ‘er’, ‘ar yr amod bod...’
defnyddio termau a strwythurau eraill sy’n addasu’r cywair ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a chyd-destunau
defnyddio ffynonellau cyfeirio (e.e. geirfaoedd, geiriaduron) i esbonio a chadarnhau ystyr yn ôl yr angen