Cynnal rhwydwaith cymdeithasol proffesiynol
URN: PPLTT54
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Ion 2015
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chychwyn a chymedroli rhwydwaith cymdeithasol fel ffordd o hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth i gwsmeriaid ac er mwyn casglu gwybodaeth.
Mae sylwadau sy’n cael eu postio gan gwsmeriaid ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn gallu effeithio ar y sefydliad bron ar unwaith ac felly mae angen eu monitro’n ofalus ac ymdrin â nhw’n brydlon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cymryd i ystyriaeth y pwyntiau mynediad a’r dyfeisiau y bydd y cwsmeriaid yn
eu defnyddio i gyrchu’r rhwydwaith cymdeithasol
2. defnyddio’r rhwydwaith cymdeithasol i hyrwyddo’r holl farchnadoedd mae’r
busnes yn gweithredu ynddynt
3. sicrhau bod y rhwydwaith cymdeithasol yn gweithredu mewn ffordd sy’n gyson
â gwerthoedd brand y busnes
4. hyrwyddo buddion y rhwydwaith cymdeithasol i’ch cydweithwyr
5. annog eich cydweithwyr i awgrymu syniadau ar gyfer pynciau trafod
6. dewis pynciau trafod ar-lein sy’n debygol o helpu’r busnes i gyflawni ei
amcanion ac i gyrraedd ei dargedau
7. cychwyn a chyfrannu at drafodaethau ar-lein ar adegau pan fydd gwneud
hynny’n cefnogi amcanion a thargedau’r busnes yn y ffordd orau
8. sicrhau bod yr holl gynnwys yr ydych yn ei gyfrannu at y rhwydwaith yn unol â
pholisi’ch sefydliad ar rwydweithio cymdeithasol, yn ffeithiol gywir, yn gyfredol, yn
cydymffurfio â’r gyfraith a, lle bo angen, wedi’i awdurdodi gan gydweithwyr
9. rhoi gwybod i gydweithwyr am sylwadau cwsmeriaid os ydynt yn berthnasol i
gyfrifoldebau’r cydweithwyr hynny
10. cael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a datblygiadau technolegol
ynghylch rhwydweithio cymdeithasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad chi ynghylch cynnal rhwydwaith cymdeithasol fel rhan o waith teithio a thwristiaeth, a’u heffaith ar eich gwaith
2. polisi’ch sefydliad ar rwydweithio cymdeithasol
3. y pwyntiau mynediad a’r dyfeisiau sydd ar gael ar hyn o bryd i’r cwsmeriaid a goblygiadau pob un ohonynt ar gyfer rhwydwaith cymdeithasol
4. pa rannau o fusnes eich sefydliad a allai gael budd o neu gyfrannu at lwyddiant y rhwydwaith cymdeithasol
5. gwerthoedd brand y busnes
6. confensiynau rhwydweithio cymdeithasol a gaiff eu derbyn ar hyn o bryd a sut maent yn datblygu
7. sut y disgwylir i ddefnyddio rhwydweithio cymdeithasol helpu busnes eich sefydliad i gyflawni ei amcanion a chyrraedd ei dargedau
8. y rheolau mae’r rhwydwaith/rhwydweithiau’n gweithredu o danynt
9. eich rôl fel cymedrolwr wrth sicrhau bod y trafodaethau’n cydymffurfio â’r rheolau
10. sut i wybod pryd i ymyrryd mewn trafodaethau
11. ble i ddod o hyd i wybodaeth gywir, gyfredol am y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir gan y busnes
12. pa gydweithwyr all awdurdodi cynnwys ar gyfer y rhwydwaith cymdeithasol
13. ffynonellau gwybodaeth gyfredol am dueddiadau a datblygiadau technolegol ynghylch rhwydweithio cymdeithasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pwyntiau mynediad a dyfeisiau – Gall y rhain gynnwys, er enghraifft:
1 monitorau cyfrifiaduron
2 ffonau symudol
3 ciosgau
4 sgriniau teledu
Gwerthoedd brand – Y gwerthoedd a’r priodweddau craidd sy’n diffinio’r busnes o safbwynt y cwsmer
Cydweithwyr – Pobl sy’n gweithio yn unrhyw un o’r canlynol:
1 eich tîm chi
2 yr un rhan o’r busnes
3 rhannau eraill o’r busnes
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLMCR07
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Rhyngrwyd; rheoli; cymedroli; cymedrolwr; fforymau; sgwrs; rhwydweithiau; rhwydweithio cymdeithasol