Gwerthu teithiau awyr amlsector

URN: PPLTT27
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r cymhwysedd sy'n ofynnol i werthu teithiau awyr amlsector ar hediadau rheolaidd. Mae hefyd yn cynnwys gwerthu gwasanaethau ychwanegol a ddefnyddir yn gyffredin sy'n gysylltiedig â theithiau awyr.

Argymhellir y safon i unrhyw un sydd mewn cysylltiad â chwsmeriaid ac sy'n gyfrifol am werthu teithiau awyr amlsector.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

**Canfod gofynion ac opsiynau eich cwsmeriaid o ran teithiau awyr:

1.  fel bod gofynion y cwsmeriaid yn cael eu crynhoi'n gywir a'u cadarnhau
**

2.  fel bod yr opsiynau a gynigir yn cyd-fynd orau â'r anghenion a fynegir gan y cwsmeriaid
3.  fel bod unrhyw gyfyngiadau sy'n berthnasol i'ch cwsmeriaid yn cael eu hesbonio'n gywir mewn iaith y byddant yn ei deall
4.  fel bod trefniadau teithiau awyr yn cael eu hyrwyddo i'r cwsmeriaid mewn modd priodol
5.  fel yr achubir ar gyfleoedd i werthu gwasanaethau ychwanegol ar adeg addas
6.  fel bod canlyniadau trafodaethau gyda'r cwsmeriaid yn cael eu cofnodi'n gywir gan ddefnyddio gweithdrefnau'r sefydliad

**Hyrwyddo nodweddion a buddion gwahanol drefniadau teithio awyr:

**

  1. fel bod y cwsmeriaid yn gwybod am brif nodweddion y trefniadau teithio awyr sy'n cyd-fynd â'u hanghenion
  2. fel eich bod yn ennyn rhagor o ddiddordeb oddi wrth y cwsmeriaid
  3. fel eich bod yn dehongli arwyddion o brynu yn gywir ac yn gweithredu arnynt
  4. fel bod y cwsmeriaid yn cael cyfleoedd i drafod ac ymchwilio i nodweddion a buddion yn llawn
  5. fel bod y dulliau o hyrwyddo gwasanaethau teithio'n cydymffurfio'n llawn â pholisïau'r sefydliad
  6. fel bod disgrifiadau o drefniadau teithio awyr yn bodloni codau ymarfer cyfredol y diwydiant a'r gofynion cyfreithiol

**Goresgyn gwrthwynebiadau'r cwsmeriaid ac ateb eu hymholiadau:

**

  1. fel bod gwrthwynebiadau'r cwsmeriaid yn cael eu hegluro
  2. fel bod gwrthwynebiadau'r cwsmeriaid yn cael eu datrys lle bo modd
  3. fel bod datrysiadau eraill posibl yn cyd-fynd ag anghenion y cwsmeriaid
  4. lle na ellir datrys gwrthwynebiadau, fel bod camau dilynol addas yn cael eu cymryd
  5. fel y caiff hyder y cwsmeriaid ei feithrin a'i gynnal

Sicrhau'r gwerthiant:**

*
*

  1. fel bod y cwsmeriaid yn cadarnhau eu bwriad i brynu ac yn cael tawelwch meddwl
  2. fel bod cyfanswm cost yr holl wasanaethau y cytunwyd arnynt yn cael ei gyfrifo'n gywir a'i roi i'r cwsmeriaid
  3. fel bod y gwerthiant yn cael ei gwblhau gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad a chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol
  4. fel yr achubir ar gyfleoedd i hyrwyddo a gwerthu gwasanaethau ychwanegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol

**

1. enwau a lleoliadau cyfandiroedd a gwledydd
2. lleoliad atyniadau twristiaeth o bwys a digwyddiadau arbennig mewnwladol a rhyngwladol
3. y mathau o arian cyfred a graddau trosi a ddefnyddir mewn cyrchfannau o bwys ledled y byd
4. yr ieithoedd swyddogol a ddefnyddir mewn cyrchfannau o bwys ledled y byd
yr hinsawdd mewn cyrchfannau twristiaeth o bwys ledled y byd
5. cylchfeydd amser y byd a’u heffaith ar drefniadau teithio
6. sut i ddarllen a dehongli mapiau byd-eang er mwyn canfod lleoliad meysydd awyr o bwys, cyrchfannau i dwristiaid, prifddinasoedd, dinasoedd mawr a grwpiau o wledydd 
7. sut i ddefnyddio technegau gwerthu i sicrhau gwerthiannau, gan gynnwys meithrin perthynas; ymchwilio i anghenion (gan gynnwys defnyddio technegau cwestiynu agored, caeedig a holi a stilio, a sgiliau gwrando); paru anghenion a dymuniadau; cyflwyno nodweddion a buddion; goresgyn gwrthwynebiadau; cynnig dewisiadau eraill; ennyn ymrwymiad a sicrhau’r gwerthiant
8. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth a roddir i’r cwsmeriaid yn gywir ac yn gyfredol
9. yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data
10. pam ei bod yn bwysig dangos diddordeb yn y cwsmer a defnyddio gwybodaeth bersonol, profiad cydweithwyr a gwaith tîm i ddangos agwedd broffesiynol a chreu argraff gadarnhaol

*Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
*

  1. Cysyniadau cyffredin ym maes tocynnau awyr a sut maent yn effeithio ar yr arlwy a gynigir i’r cwsmer (gan gynnwys teithiau dwyffordd gan ddefnyddio meysydd awyr gwahanol (open-jaw), cwmnïau hedfan rhad, tocynnau unffordd yn lle tocyn dwyffordd (spilt ticketing), cytundebau rhwng cwmnïau hedfan (interline agreements), trefniadau rhannu cod (codeshares), cynghreiriau rhwng cwmnïau hedfan, tocynnau pris net/cyfunedig (consol), prisiau preifat, bargeinion ar lwybrau awyr a thocynnau arbenigol e.e. tocynnau i weithwyr môr (marine / offshore).
12. y prif fathau o gynhyrchion a chyflenwyr teithiau awyr 
​13. lleoliad a nodweddion gwerthu cyrchfannau byd-eang termau a byrfoddau rhentu ceir
14. nodweddion, buddion a chostau lolfeydd VIP
15. prif gyflenwyr lolfeydd VIP ac unrhyw gyfyngiadau ar fynediad iddynt
16. lleoliad safleoedd parcio mewn perthynas â meysydd awyr ymadael o bwys 
yn y Deyrnas Unedig
17. y gwasanaethau a gynigir gan y prif sefydliadau parcio ceir yn y Deyrnas Unedig
18.  ble i gael gwybodaeth am y math o drosglwyddiadau a’u hargaeledd mewn meysydd awyr o bwys ledled y byd 
19. ble i gael gwybodaeth am opsiynau cludiant ymlaen ledled y byd, a sut i’w dehongli
20. graddau swyddogol a chategorïau llety 
y gwahanol fathau o lety gan gynnwys gwestai, hunanddarpar, llety preifat a chanolfannau gwyliau; mathau o ystafelloedd, cyfleusterau a threfniadau prydau bwyd
21. y gwahanol ddulliau o fwcio a thalu am lety’n unig, gan gynnwys goblygiadau bwciadau wedi’u gwarantu
22. y derminoleg a ddefnyddir wrth wneud bwciadau llety’n unig
23. y mathau o yswiriant teithio sydd ar gael gan gynnwys faint sy’n cael ei yswirio, amodau, eithriadau a symiau cyntaf i’w talu gan ddeiliad y polisi
24. y gwahaniaethau rhwng yswiriant busnes ac yswiriant hamdden, a’r cyfyngiadau arnynt, gan gynnwys yswiriant chwaraeon
25. gofynion o ran Pasbort Dinesydd Prydeinig a Phasbort Deiliad Prydeinig ar gyfer ymadawiadau o’r Deyrnas Unedig
26. mathau o fisâu a ble i ddod o hyd i wybodaeth am ofynion mynediad o ran fisâu a phasbortau
27. y gwahanol ofynion mynediad ar gyfer pobl sydd â phasbortau’r Undeb Ewropeaidd ac â phasbortau gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i gyrchfannau o bwys ledled y byd
28. pa wybodaeth i’w rhoi i’r cwsmeriaid i’w galluogi i gael gwybod am y rhagofalon iechyd gorfodol ac argymelledig cyfredol
29. ffynonellau gwybodaeth ynghylch gwasanaethau teithio awyr a sut i’w defnyddio a’u dehongli
30. cynnwys manyleb gwybodaeth gyfredol IATA ar Lefel 1 o leiaf, gan gynnwys gwybodaeth sylfaenol am system BSP
31. mathau o Systemau Dosbarthu Byd-eang (Global Distribution Systems / GDS) a’u swyddogaethau
32. taliadau gwasanaeth – beth ydynt a phryd mae angen eu codi
33. eich rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gynghori’r cwsmeriaid, gan gynnwys: gofynion cyffredinol deddfwriaeth teithiau awyr; trefniadau diogelwch ariannol ATOL (os yn briodol); cyfyngiadau ar atebolrwydd am deithwyr (os yn briodol); amodau bwcio; gofynion o ran pasbortau, fisâu, iechyd ac yswiriant, gan gynnwys y canllawiau rheoliadol cymwys cyfredol ar werthu yswiriant
34. canlyniadau camliwio yn ystod trafodaethau gyda’r cwsmeriaid
35. y rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’i goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i gwsmeriaid
36. prif gyfrifoldebau asiant teithiau o dan godau ymarfer cyfredol y diwydiant
37. sut i ddefnyddio a dehongli ffynonellau cyfeirio i ddarparu gwybodaeth am logi ceir a chostau llogi ceir mewn perthynas â gwahanol grwpiau a modelau
38. sut i ganfod cymhwysedd y cwsmer ar gyfer gwahanol gynhyrchion yswiriant (e.e. ynghylch oedran, beichiogrwydd, hanes meddygol ac ati)
39. sut i gymhwyso gwybodaeth am ofynion o ran fisâu a phasbortau i amgylchiadau unigol
40. sut i gwestiynu’r cwsmeriaid am basbortau a fisâu
41. sut i wirio’r gwahanol amodau bwcio sydd ynghlwm wrth wasanaethau teithio ac unrhyw gyfyngiadau perthnasol
42. sut i esbonio amodau a chyfyngiadau bwcio perthnasol fel bod eich cwsmeriaid yn eu deall
43. sut i gyfrifo taliadau gwasanaeth a chardiau credyd
44. prif amodau rhentu ceir gan gynnwys cymhwysedd (e.e. oedran, ardystiadau)

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

**​45. y ddarpariaeth yswiriant ceir a gynigir gan y cyflenwyr llogi ceir a ddefnyddir gan eich sefydliad, gan gynnwys ildiadau hawl difrod gwrthdrawiad, yswiriant damwain personol ac ychwanegiadau

46. ble i weld taliadau parcio ceir a sut i gyfrifo costau
​47. ble i gael gwybodaeth ynghylch a yw trosglwyddiadau wedi’u cynnwys ym mhris tocynnau hedfan neu lety sydd wedi’i fwcio
48. gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch gwerthu gwasanaethau teithiau awyr a phwysigrwydd eu dilyn
49. gofynion eich sefydliad ynghylch cwmnïau a ffefrir
50. sut i brynu trosglwyddiad pan nad yw wedi’i gynnwys 


Cwmpas/ystod

Camau dilynol: gofyn i gydweithiwr am gymorth, cyfeirio'r mater at gydweithiwr uwch, ymddiheuro am beidio â gallu bwrw ymlaen â phethau ymhellach

Gwasanaethau ychwanegol: llogi ceir, lolfeydd VIP, parcio ceir, trosglwyddiadau o / i feysydd awyr, llety, yswiriant, cludiant arall

Technegau cwestiynu: cwestiynu agored, cwestiynu caeedig, holi a stilio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1.  Cyfarch y cwsmeriaid mewn ffordd brydlon, gyfeillgar a hyderus
2.  Cael gwybod beth yw anghenion a chyllideb eich cwsmeriaid trwy ddefnyddio technegau cwestiynu addas a sgiliau gwrando effeithiol
3.  Canfod a chynnig opsiynau addas sy'n cyd-fynd orau ag anghenion eich cwsmeriaid mewn ffordd gymwynasgar, gyfeillgar a chadarnhaol
4.  Canfod trefniadau teithiau awyr sy'n cyd-fynd ag anghenion eich cwsmeriaid
5.  Cwestiynu a thrafod yn effeithiol


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT27

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwerthu, amlsector, awyr, teithio