Trefnu amserlenni teithio

URN: PPLTT20
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Gyda'r galw cynyddol gan gwsmeriaid am ddewis a threfniadau teithio personol, boed ar deithiau busnes neu deithiau hamdden, mae cyfleoedd yn cynyddu i asiantaethau deilwra elfennau i ddiwallu anghenion unigolion. Er y gall cwsmeriaid brynu cynhyrchion teithio unigol drostynt eu hunain (yn aml ar lein) yn aml mae'n well defnyddio gwasanaethau asiant profiadol i ddethol elfennau oddi wrth amrywiaeth o gyflenwyr a'u trefnu mewn pecyn sydd wedi'i gynllunio'n dda. Un rhan bwysig o'r broses honno sy'n cynnig gwerth gwirioneddol am arian i gwsmeriaid yw paratoi amserlen deithio i deithwyr, gan nodi amserau a disgrifio'r holl gamau.

Argymhellir y safon hon i'r rheiny sy'n paratoi amserlenni teithio i gwsmeriaid sydd eisiau pecynnau teithio a thwristiaeth wedi'u teilwra.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

**Trefnu amserlenni teithio:

**

1. fel bod cysylltiad â’r cwsmer yn cael ei sefydlu a’i gynnal
2. fel y canfyddir beth yw dymuniadau, anghenion a dewisiadau’r cwsmeriaid
3. fel bod gwybodaeth berthnasol am y cwsmeriaid yn cael ei chofnodi’n gyflym, yn gywir ac yn y fformat gofynnol ac yn bodloni gofynion y sefydliad a’r gofynion gweithredol a chyfreithiol
4. fel bod elfennau’n cael eu canfod o amrywiaeth o gyflenwyr addas 
5. fel bod y cwsmeriaid yn ymwybodol o amrywiaeth o elfennau a threfniadau addas
6. fel bod amserlenni teithio realistig yn cael eu llunio ar sail y wybodaeth sydd ar gael
7. fel bod amserlenni a awgrymir a phrisiau’n cael eu cyflwyno’n glir ac yn gywir i’r cwsmeriaid eu hystyried
8. fel bod pris, argaeledd a manylion yr amserlen deithio derfynol y cytunir arni yn cael eu cadarnhau gyda’r cwsmeriaid er mwyn sicrhau’r gwerthiant
9. fel bod manylion y trefniadau’n cael eu prosesu a’u storio’n unol â’r gweithdrefnau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol

  1. amrywiaeth o ffyrdd o gyfathrebu â’r cwsmeriaid er mwyn canfod eu hanghenion a’u dymuniadau
2. nodweddion allweddol perthynas gadarnhaol â chwsmeriaid a’r ffactorau sy’n effeithio arni
3. pam mae angen addasu ffyrdd o gyfathrebu â’r cwsmeriaid er mwyn cyd-fynd â’u hanghenion a’u dewisiadau

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant

**

4. daearyddiaeth teithio addas i ddiwallu anghenion y cwsmeriaid a meithrin hyder​ 
5. y rheolau a’r rheoliadau cyfredol sy’n rheoli gwerthu elfennau teithiau ar wahân, a beth yw pecyn
6. nodweddion amserlen deithio lwyddiannus
7. sut i adnabod cyflenwyr addas cynhyrchion teithio a thwristiaeth i fod yn addas i anghenion cwsmeriaid gwahanol
8. buddion a chyfyngiadau fformatau amserlenni teithio gwahanol

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

**

9. y gweithdrefnau a ddefnyddir i weld a yw elfennau ar gael a beth yw eu prisiau
10. gofynion y sefydliad ar gyfer casglu, cofnodi a storio gwybodaeth cwsmeriaid
11. ffynonellau cyngor arbenigol yn y sefydliad 


Cwmpas/ystod

Cysylltu â chwsmeriaid: wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy ddulliau electronig

Dymuniadau, anghenion a dewisiadau’r cwsmeriaid: amseru, teithio, llety; gwasanaethau ychwanegol

Cofnodi: â llaw, yn electronig

Gwybodaeth cwsmeriaid: manylion cyswllt cwsmeriaid, ymholiadau am gynhyrchion, diddordebau perthnasol

Elfennau: teithio, trosglwyddo, llety; gan un cyflenwr, gan nifer o gyflenwyr

Prosesu a storio: â llaw, yn electronig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Dangos dealltwriaeth glir o gwsmeriaid gwahanol a’u hanghenion gwirioneddol a chanfyddedig 
2.  Meithrin cyfathrebu a pherthnasoedd cynhyrchiol â’r cwsmeriaid
3.  Hybu delwedd gadarnhaol ohonoch chi ac o’ch cwmni i’r cwsmeriaid
4.  Defnyddio gwybodaeth am ac ymwybyddiaeth o ddaearyddiaeth teithio a mathau o elfennau i feithrin hyder y cwsmeriaid
5.  Meithrin a chynnal perthnasoedd da â chyflenwyr elfennau teithio a thwristiaeth
6.  Defnyddio ffyrdd sy’n gost effeithiol ac yn effeithlon o ran amser i gasglu gwybodaeth am elfennau’r amserlen deithio arfaethedig o ffynonellau printiedig, electronig ac ar-lein
7.  Casglu, cofnodi a diweddaru gwybodaeth yn effeithiol
8.  Monitro dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth i’w bwydo i mewn i broffiliau cwsmeriaid
9.  Gofyn am gyngor a gwybodaeth gan gydweithwyr yn ôl yr angen
10. Myfyrio’n rheolaidd ar eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill a defnyddio hyn i lywio gweithredu yn y dyfodol​


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT20

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trefnu, teithio, amserlenni teithio