Cwblhau trafodion cyfnewid arian tramor
URN: PPLTT17
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Ion 2015
Trosolwg
Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymhwysedd sy’n ofynnol i gynnal a chyflawni gwasanaethau cyfnewid arian tramor o ddydd i ddydd mewn amgylchedd teithio neu dwristiaeth. Sylweddolir na fydd y safon hon yn gymwys i bob ymgeisydd na phob sefyllfa gwaith
Argymhellir y safon hon i staff sy’n ymwneud â chyfnewid arian tramor
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Cynnal cyflenwadau ar gyfer cyfnewid arian tramor, er mwyn sicrhau:
**
1. yr anfonir archebion ar gyfer cyfnewid arian tramor at eich cyflenwyr mewn da bryd i ddiwallu’r angen a ragwelir a gweithdrefnau’ch sefydliad
2. bod yr archebion ar gyfer cyfnewid arian tramor yn cadw at derfynau’r gangen, fel y’u cytunwyd gan eich sefydliad
3. y cedwir y math a’r maint o stociau ar gyfer cyfnewid arian tramor er mwyn diwallu anghenion eich cwsmeriaid pan fyddant yn gofyn amdanynt
4. bod y gweddill stoc gofynnol yn cael ei gynnal yn eich til bob dydd
5. y cydymffurfir â gofynion eich sefydliad o ran archwilio tiliau
6. y caiff yr arian cyfred ei gadw’n ddiogel bob amser, gan ddilyn gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
7. bod cofnodion derbyn stociau’r arian cyfred yn gywir ac yn gyfredol
**Gwerthu a phrynu cynhyrchion cyfnewid arian tramor i a chan gwsmeriaid, er mwyn sicrhau:
**
8. bod cyfraddau cyfnewid cywir a chyfredol ar gyfer prynu a gwerthu arian cyfred yn cael eu harddangos yn ôl y gofyn
9. bod yr arian cyfred mwyaf manteisiol i’ch cwsmeriaid yn cael ei argymell, pan fo’n berthnasol
10. y caiff y cwsmeriaid eu cynghori ar y cyfuniad gorau o arian a chardiau arian cyfred i ddiwallu eu hanghenion unigol
11. y caiff pob trafodyn ei gyfrifo’n gywir gan ddefnyddio’r gyfradd cyfnewid gywir
12. y cyflawnir yr holl drafodion gan gydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol
13. y caiff y trafodyn ac unrhyw gostau eu hesbonio’n glir i’ch cwsmeriaid mewn ffordd y byddant yn ei deall
14. y caiff cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth gynhyrchion cyfnewid arian tramor eu hesbonio’n glir, pan fo’n berthnasol
15. y caiff camau prydlon eu hadnabod a’u cymryd i ddatrys unrhyw drafodion amheus mewn ffordd sy’n llawn tact, gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a gweithdrefnau’ch sefydliad
16. bod eich holl gofnodion trafodol yn gywir ac yn gyfredol a bod eich til yn mantoli ar ddiwedd y dydd
17. y caiff gweithdrefnau eu dilyn i gynnal diogelwch yr arian cyfred, dogfennau, cwsmeriaid a chi eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
**
1. sut i gymryd taliad o gardiau credyd, cardiau debyd a sieciau banc, gan gynnwys gwiriadau dilysu
2. prif ofynion y rheoliadau cyfredol sy’n effeithio ar wasanaethau cyfnewid arian tramor a gwyngalchu arian
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
3. ble i ddod o hyd i wybodaeth am fathau o arian cyfred ledled y byd ac yng ngwledydd parth yr Ewro
4. terfynau a chyfyngiadau ar arian cyfred
5. ble i ddod o hyd i gyfraddau cyfnewid arian tramor a pha gomisiwn a godir
6. ble i ddod o hyd i wybodaeth am derfynau a/neu gyfyngiadau arian cyfred a pha ddewisiadau eraill priodol sydd ar gael, os o gwbl
7. diben a swyddogaeth asiantau trosglwyddo arian a phryd i ddefnyddio eu gwasanaethau
8. y mathau o gyfraddau cyfnewid arian tramor a phryd a sut i’w defnyddio
9. pa ddogfennaeth mae angen ei chwblhau i gofnodi newidiadau yn y cyfraddau cyfnewid
10. y rheolau sy’n gysylltiedig â gwirio cyfrifiadau
11. pa mor aml mae’n rhaid monitro’r cyfraddau
12. pryd mae’n rhaid ail-gyfrifo’r cyfraddau lleol
13. sut i gynghori cwsmeriaid ar y cyfuniad gorau o arian a chardiau arian cyfred wrth deithio yn Ewrop, yng ngogledd America a’r Caribî, y Dwyrain Pell ac Awstralasia
14. sut i esbonio trafodion arian cyfred a’u costau i gwsmeriaid
15. sut a ble i ddod o hyd i wybodaeth am gyfraddau cyfnewid arian
16. sut i gyfrifo cyfanswm ffioedd trafodyn gan ddefnyddio cyfraddau cyfnewid arian a chyfraddau comisiwn
17. pwysigrwydd cynnig cyfraddau sy’n cymryd i ystyriaeth yr amodau lleol (e.e. y gystadleuaeth leol, lefelau stoc)
18. pwysigrwydd arddangos a defnyddio’r cyfraddau cyfnewid arian cywir
19. pwysigrwydd defnyddio cyfraddau cystadleuol a monitro’r cystadleuwyr
20. arwyddocâd y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau prynu a’r cyfraddau gwerthu
21. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gywir am gyfnewid arian tramor i gwsmeriaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
22. arian cyfred y gwledydd mae eich sefydliad yn anfon nifer fawr o gwsmeriaid iddynt
23. o ble mae eich cangen yn prynu arian cyfred tramor a chardiau arian cyfred
24. gofynion tymhorol am fathau penodol o arian cyfred
25. ble i ddod o hyd i wybodaeth am archebion a sut i gyfrifo anghenion a ragwelir
26. y symiau gorau o stoc y mae angen eu cadw i ddiwallu’r galwadau a ragwelir
27. polisi’r cwmni ar reoli stoc gan gynnwys sut i ddelio â stoc na ellir ei hailwerthu, a diogelwch
28. terfynau gweithredu eich sefydliad o ran cadw stoc, a therfynau’r arian parod a gedwir yn y tiliau
29. lleiafswm cronfeydd parod y tiliau
30. pwy y dylid rhoi gwybod iddo am drafodion prynu neu werthu mawr ac arwyddocâd trosglwyddo gwybodaeth am drafodion o’r fath
31. gweithdrefnau’r sefydliad o ran derbyn stoc
32. y gweithdrefnau diogelwch ar gyfer trin a storio stoc
33. cofnodion stoc a gwerthiannau’ch sefydliad a sut i’w cwblhau
34. sut i gofnodi trafodion gwerthu a phrynu
35. pwysigrwydd rhagweld anghenion yn gywir a chynnal stociau
36. polisi’r cwmni ar bennu cyfraddau cyfnewid lleol
37. ble i gael yr awdurdod i gynnig cyfraddau ffafriol
38. anghenion archwilio ar gyfer gwirio eich til eich hun
39. canlyniadau cadw lefelau stoc sy’n rhy uchel neu’n rhy isel
40. pwysigrwydd storio ac anfon stociau arian tramor yn ddiogel
41. terfynau’ch awdurdod personol i newid cyfraddau
Cwmpas/ystod
Galw a ragwelir: defnyddio’n syth, stoc wrth gefn, archebion ymlaen llaw
Arian tramor: arian cyfred tramor, cardiau arian cyfred
Cyfradd cyfnewid: prynu, gwerthu
Cwmpas Perfformiad
1. Gweithio’n drefnus ac yn gywir
2. Bod yn effro i risgiau diogelwch
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLTT17
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cwblhau, cyfnewid arian tramor, trafodion