Dadansoddi, gwerthuso a chyflwyno data teithio a thwristiaeth
URN: PPLTT16
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymhwysedd sy’n ofynnol i ddadansoddi’n effeithiol y data a gaiff eu casglu gan eich sefydliad ac i gyflwyno’r canlyniadau mewn ffordd sy’n addas i’r diben i’ch rheolwr llinell neu bwy bynnag sydd wedi gofyn am y gwaith. Disgwylir ichi dynnu sylw at dueddiadau, dod i gasgliadau a gwneud argymhellion, os yn berthnasol.
Argymhellir y safon hon i staff sy’n dadansoddi data teithio a thwristiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Dadansoddi a gwerthuso data sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth:
**
1. fel bod diben y dadansoddiad yn cael ei gadarnhau gyda’r person perthnasol
2. fel y cytunir â’r person perthnasol ar y meini prawf gofynnol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso
3. fel bod gwybodaeth berthnasol sy’n gynhwysfawr, yn gywir ac yn gyfredol yn cael ei chasglu a’i defnyddio
4. fel bod y wybodaeth mae ei hangen i gyflawni diben eich dadansoddiad yn cael ei chyrchu a’i syntheseiddio’n gywir
5. fel bod eich dadansoddiad a’ch gwerthusiad yn cael eu cyflawni a’u cwblhau yn unol â’r amserlen gytunedig a’i fod yn bodloni’r meini prawf gwerthuso cytunedig
**Cyflwyno canlyniadau’ch dadansoddiad:
**
6. fel bod y data ystadegol wedi’u fformadu mewn ffordd glir a rhesymegol sy’n hawdd ei deall i’r defnyddiwr/defnyddwyr arfaethedig ac yn cydymffurfio ag arddull eich sefydliad
7. fel bod adroddiad clir, cryno a ffeithiol a ategir gan dystiolaeth berthnasol a dilys yn cael ei gynhyrchu
8. fel y tynnir sylw yn glir at unrhyw dueddiadau amlwg a ategir gan y wybodaeth a gasglwyd a chanlyniadau’ch dadansoddiad
9. fel y deuir i gasgliadau perthnasol sydd wedi’u seilio ar y wybodaeth a gasglwyd ac yn cael eu hategu ganddi
10. fel y gwneir argymhellion realistig pan fo angen, ar sail tystiolaeth ategol gywir
11. fel bod y ffordd y cyflwynir eich canlyniadau wedi’i haddasu i gydymffurfio ag anghenion a diddordebau’ch cynulleidfa
12. fel bod eich adroddiad yn cael ei anfon at y person perthnasol yn y fformat gofynnol ac erbyn yr adeg y cytunwyd arni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
1. y diben(ion) y mae angen eich dadansoddiad a’ch adroddiad atynt, y meini prawf gwerthuso a dadansoddi a/neu’r cyfarwyddiadau mae’n ofynnol ichi eu dilyn
2. yr amserlen i’r gwaith gael ei wneud
3. sut i ganfod gwybodaeth a data perthnasol mewn dogfennau bach a dogfennau estynedig
3. sut i gymharu ystadegau ac adnabod barn a thuedd bosibl
4. sut i syntheseiddio’r wybodaeth rydych wedi’i chael er mwyn cyflawni’ch diben
5. sut i ddewis arddull ysgrifennu priodol i fod yn addas i’r lefel ffurfioldeb sy’n ofynnol ac i natur y pwnc
6. sut i drefnu deunydd ysgrifenedig mewn modd cydlynol
7. sut i wneud yr ystyr yn glir trwy ysgrifennu, prawf-ddarllen ac ailddrafftio dogfennau fel bod y sillafu, yr atalnodi a’r gramadeg yn gywir
8. sut i lunio a chyflwyno tueddiadau, casgliadau ac argymhellion ar sail y dystiolaeth sydd wrth law
9. pwysigrwydd adrodd yn ffeithiol
10. goblygiadau’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol o ran gweithredu a phryd a sut i archifo deunyddiau
**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
**
11. ble i ddod o hyd i arbenigedd a/neu wybodaeth arbenigol a sut i gael gafael arnynt (e.e. cydweithwyr, sefydliadau allanol, cyflenwyr)
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
12. ffynonellau gwybodaeth perthnasol a dibynadwy yn eich sefydliad a sut i gael gafael arnynt
13. y person y dylid anfon eich adroddiad ato
14. arddull eich sefydliad ar gyfer cyflwyno adroddiadau
15. sut i ddewis math priodol o gyflwyniad i fod yn addas i’ch diben a’ch cynulleidfa
Cwmpas/ystod
Adroddiad: ysgrifenedig, llafar, electronig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Gofyn am fwy o gymorth gan gydweithwyr neu gyflenwyr sydd ag arbenigedd neu wybodaeth arbenigol er mwyn gwneud eich dadansoddiad yn fwy cywir, pan fo angen
2. Llunio barn ddoeth ar sail data o ffynonellau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLTT16
Galwedigaethau Perthnasol
Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
dadansoddi, gwerthuso, cyflwyno, twristiaeth, teithio, data