Casglu a chadw gwybodaeth a data teithio a thwristiaeth
URN: PPLTT15
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo â’r gwaith o gasglu gwybodaeth a
data sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth yn eich sefydliad. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at amrywiaeth o ddibenion e.e. marchnata, gwerthuso perfformiad eich sefydliad, diweddaru systemau gwybodaeth eich sefydliad a chynorthwyo gwahanol sefydliadau allanol â’u hymchwil nhw. Mae’n ofynnol ichi ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o gasglu data a gwybodaeth. Mae hefyd yn ofynnol ichi ddiweddaru system gwybodaeth eich sefydliad.
Argymhellir y safon i staff sy’n darparu gwybodaeth teithio a thwristiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu data a gwybodaeth:
1. fel bod cyfleoedd addas i gasglu data a gwybodaeth defnyddiol yn cael eu hadnabod a’u defnyddio
2. fel bod ffynonellau gwybodaeth dibynadwy sy’n cyflawni’ch amcanion penodol o ran ymchwil yn cael eu hadnabod a’u defnyddio
3. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu casglu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addas er mwyn bodloni gofynion eich sefydliad
4. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu casglu ar yr adegau iawn ac yn ddigon aml i gyflawni’ch amcanion o ran ymchwil
5. fel bod yr holl ddata a gwybodaeth a gesglir yn gywir ac yn gyfredol
6. fel bod yr holl ddata a gwybodaeth yn berthnasol i amcanion busnes
7. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu cofnodi a’u cyflwyno’n gywir ac yn y fformat gofynnol
Cyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw systemau gwybodaeth:
8. fel bod lleoliad addas yn cael ei ddewis ar gyfer storio data, sy'n addas i’w ddiben ac yn cydymffurfio â chanllawiau’ch sefydliad
9. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu storio o dan bennawd pwnc perthnasol i ddefnyddwyr
10. fel bod diweddariadau cywir a phrydlon yn cael eu gwneud i system(au) gwybodaeth eich sefydliad
11. fel bod cofnodion yn y system(au) gwybodaeth wedi’u croesgyfeirio, yn gywir, yn gyfredol ac yn hawdd cael gafael arnynt
12. fel bod data a gwybodaeth sydd wedi dyddio’n cael eu tynnu’n brydlon o system(au) gwybodaeth
13. fel bod eitemau gwybodaeth sydd wedi dyddio neu wedi’u difrodi neu nad oes eu heisiau’n cael eu gwaredu gan ddilyn gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer gwaredu gwastraff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
1. sut i ddefnyddio systemau mewnbynnu a chofnodi electronig
2. sut i gasglu gwybodaeth o alwadau ffôn a sgyrsiau wyneb yn wyneb
3. sut i ddefnyddio geirfa ac ymadroddion amrywiol sy’n addas i’ch diben
4. sut i addasu’r hyn a ddywedwch a faint a ddywedwch i fod yn addas i wahanol sefyllfaoedd
5. sut i ddangos eich bod yn gwrando’n astud ac ymateb yn briodol (e.e. trwy ddefnyddio arwyddion geiriol a/neu weledol)
6. sut i adnabod bwriadau’ch cwsmeriaid
7. sut i symud trafodaeth ymlaen
8. sut i addasu’ch iaith i fod yn addas i’ch pwnc, i’ch diben ac i’r person rydych yn siarad ag ef
9. sut i strwythuro’r hyn a ddywedwch i helpu’r cwsmeriaid i ddilyn cyfeiriad meddwl neu nifer o bwyntiau’n glir
10. sut i ddefnyddio darluniadau geiriol neu weledol i helpu’ch cwsmeriaid i ddeall pwyntiau rydych yn eu gwneud
11. sut i ddod â’r sgwrs â’r cwsmer i ben
12. pwysigrwydd casglu a chofnodi data a gwybodaeth yn gywir
13. yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data
14. eich prif gyfrifoldebau o ran casglu a storio data
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
15. ble i ddod o hyd i ddata a gwybodaeth, sut i gael gafael arnynt a phryd i’w defnyddio
16. dulliau casglu data a gwybodaeth a’u manteision a’u hanfanteision
17. sut i ddefnyddio dyfeisiau cyfrif llaw ac electronig
18. pam mae angen data a gwybodaeth a sut y cânt eu defnyddio
19. sut mae data a gwybodaeth defnyddiol yn effeithio ar lwyddiant busnes
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
20. gofynion a gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer
20.1 cofnodi data a gwybodaeth
20.2 grwpio data a gwybodaeth i wahanol gategorïau
20.3 croesgyfeirio data a gwybodaeth
20.4 gwaredu a/neu archifo gwybodaeth sydd wedi dyddio
20.5 lleoli gwybodaeth i dwristiaid yn eich canolfan
20.6 amseriad ac amlder diweddariadau
21. y person mae’n rhaid ichi gyfeirio unrhyw broblemau o ran trin data a gwybodaeth ato
22. sut i ddefnyddio systemau data a gwybodaeth eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Ffynonellau: cwsmeriaid, cyflenwyr, cydweithwyr, cyfeiriaduron, cronfeydd data, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau electronig eraill, papurau newydd a chylchgronau
Dulliau: dosbarthu holiaduron, cyfrif â llaw, cyfrif electronig, mewnbynnu a chofnodi electronig, siarad â chwsmeriaid dros y ffôn, siarad â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, defnyddio data ‘mawr’/cloddio data
Systemau gwybodaeth: ar gyfer data a gwybodaeth perfformiad busnes, ar gyfer gwybodaeth i dwristiaid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Gofyn am gyngor yn brydlon gan berson gwybodus pan nad ydych yn siŵr sut i drin data a gwybodaeth
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLTT15
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden
Cod SOC
Geiriau Allweddol
casglu, cadw, twristiaeth, gwybodaeth, data