Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb am wella eich perfformiad yn y gwaith a gweithio'n dda gyda'ch cydweithwyr er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i effeithiolrwydd cyffredinol eich gweithle a'ch busnes.
Argymhellir y safon hon i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaethau teithio a thwristiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwella eich perfformiad personol yn y gwaith, er mwyn sicrhau:
- y caiff eich cryfderau a'ch gwendidau eu hadnabod yn gywir a'u trafod gyda'r person perthnasol
- y caiff eich cyfraniad chi i lwyddiant y busnes ei adnabod yn gywir a'i drafod gyda'r person perthnasol
- pan nad yw cyfarwyddiadau tasg yn glir, eich bod yn ceisio rhagor o wybodaeth oddi wrth y bobl berthnasol
- bod yr adborth sydd ar gael oddi wrth y bobl berthnasol yn cael ei ddefnyddio i nodi sut y gellir gwella eich perfformiad
- y gofynnir am gyfleoedd i ddysgu oddi wrth gydweithwyr, ac y manteisir arnynt pan fyddant ar gael
- bod y datblygiadau a'r tueddiadau yn y busnes a'r diwydiant gwasanaethau teithio a thwristiaeth ehangach yn cael eu hadolygu'n rheolaidd
- y cytunir ar dargedau gwaith realistig gyda'r person perthnasol ac yr adolygir cynnydd yn rheolaidd
- y caiff eich cynllun datblygu personol ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm, er mwyn sicrhau:
9. y cytunir ar ffyrdd o gydweithio i gyflawni amcanion
10. y gofynnir yn gwrtais am gymorth a gwybodaeth angenrheidiol oddi wrth gydweithwyr
11. y rhoddir ymateb parod a chwrtais i geisiadau am gymorth oddi wrth gydweithwyr
12. y rhagwelir anghenion pobl eraill ac y cynigir cymorth yn brydlon o fewn eich gallu
13. y defnyddir eich amser yn effeithiol trwy gydol eich diwrnod gwaith
14. y rhoddir gwybod i'r person perthnasol yn brydlon ac yn gywir am broblemau sy'n debygol o effeithio ar wasanaethau teithio a thwristiaeth
15. bod unrhyw gamddealltwriaeth rhyngoch chi a'ch cydweithwyr yn cael ei ddatrys yn brydlon
16. bod unrhyw gyswllt rhyngoch chi a'ch cydweithwyr yn gyfeillgar ac yn dangos parodrwydd i helpu a pharch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
14. rôl a chyfrifoldebau eich swydd a sut mae hyn yn ymwneud â rôl aelodau eraill y tîm
15. terfynau eich awdurdod chi ac awdurdod pobl eraill o ran rhoi cymorth safonau'r ymddygiad a ddisgwylir gennych wrth weithio yn y gweithle
16. gweithdrefnau apeliadau ac achwyniadau eich sefydliad
17. eich targedau a'ch amserlenni o ran cynhyrchiant a sut maent yn effeithio ar lwyddiant y busnes
18. eich targedau a'ch amserlenni o ran datblygiad personol a sut maent yn effeithio ar lwyddiant y busnes
19. pwy all eich helpu i ganfod ac achub ar gyfleoedd ar gyfer eich datblygiad/hyfforddiant
20. i bwy y dylid rhoi gwybod pan gewch anawsterau wrth weithio gyda phobl eraill
21. sut i gael gwybodaeth am eich swydd, cyfrifoldebau'ch gwaith a'r safonau a ddisgwylir gennych
22. sut i gael y wybodaeth berthnasol am feysydd cyfrifoldeb pobl eraill
23. pam ei bod yn bwysig gweithio'n unol â chyfrifoldebau'ch swydd a beth allai ddigwydd os na wnewch hynny
24. pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus a sut mae'n effeithio ar eich swydd
Cwmpas/ystod
Cyfleoedd i ddysgu: oddi wrth gydweithwyr a phobl berthnasol eraill, trwy gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu, cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau yn y gweithle
Targedau: meintiau elw, cynhyrchiant, datblygiad personol, gwerthiannau
Cymorth: un i un, mewn grŵp
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Llwyddiant busnes: ariannol, boddhad cwsmeriaid, gweledigaeth a gwerthoedd
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Byddwch yn effro i gyfleoedd i ddysgu ac ymarfer sgiliau a gwybodaeth
Gofynnwch i'ch cydweithwyr a'ch rheolwyr am adborth ar eich perfformiad
Defnyddiwch amser yn effeithiol
Cymerwch berchnogaeth o'ch targedau
Cadwch eich gwybodaeth broffesiynol yn gyfredol
Dangoswch benderfyniad personol i gyflawni gweledigaeth ac amcanion y busnes