Ymchwilio i wybodaeth am deithio a chyrchfannau

URN: PPLTT08
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar yr ymchwil mae ei hangen i gynnal darlun cywir o gyrchfannau teithio a thwristiaeth presennol a phosibl ac i ddeall pam mae cwsmeriaid yn dewis teithio iddynt.

Mae nodweddion fel cyfleusterau, datblygiadau lleol, cysylltiadau trafnidiaeth ac atyniadau'n newid dros amser ac mae'n bwysig bod disgrifiadau o gyrchfannau'n gyfredol, pa un a yw'r wybodaeth honno'n cael ei rhoi i gwsmeriaid posibl neu i sefydliadau eraill (fel asiantaethau teithio).

Argymhellir y safon hon i'r bobl hynny sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth am deithio a chyrchfannau'n gyfredol ac yn gywir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Ymchwilio i wybodaeth am gyrchfannau a chynhyrchion teithio:

  1. fel bod cyfleoedd addas yn cael eu hadnabod a'u defnyddio i gasglu data a gwybodaeth defnyddiol ynghylch cyrchfannau a chynhyrchion teithio

  2. fel bod ffynonellau gwybodaeth dibynadwy sy'n cyflawni'ch amcanion penodol o ran ymchwil yn cael eu hadnabod a'u defnyddio

  3. fel bod unrhyw fylchau mewn setiau data yn cael eu canfod ac fel bod eu heffaith ar gasgliadau'n cael ei hasesu

  4. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu casglu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addas i fodloni gofynion eich sefydliad

  5. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu casglu ar yr adegau iawn ac yn ddigon aml i gyflawni'ch amcanion o ran ymchwil

  6. fel bod yr holl ddata a gwybodaeth a gesglir yn gywir ac yn gyfredol, gan gymryd i ystyriaeth y gallai ffynonellau fod yn unochrog

  7. fel bod data a gwybodaeth yn cael eu cofnodi'n gywir a'u cyflwyno yn y fformat gofynnol

  8. fel bod data'n cael eu storio'n ddiogel gan ddefnyddio system(au) gwybodaeth y sefydliad yn gywir ac fel eu bod ar gael i gydweithwyr priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant

1. ble i ddod o hyd i ddata a gwybodaeth dibynadwy, sut i gael gafael arnynt a phryd i’w defnyddio
2. sut i gasglu data sy’n berthnasol i anghenion y busnes a’r cwsmeriaid e.e. rhesymau pam mae’r cwsmeriaid yn ymweld â chyrchfannau
3. sut i ddefnyddio systemau mewnbynnu a chofnodi electronig
4. pryd mae angen chwilio am ffynonellau ychwanegol er mwyn gwirio gwybodaeth a sut y gellir cael cymorth i ddelio â phroblemau gwirio
5. yr amrywiaeth o bynciau mae’r cwsmeriaid eisiau gwybodaeth amdanynt fel arfer
6. pam mae angen nodi bylchau mewn setiau data a sut y gall bylchau o’r fath effeithio ar gasgliadau

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

7. pam mae angen eitemau o ddata a gwybodaeth a sut y cânt eu defnyddio
8. sut mae data a gwybodaeth perthnasol yn cyfrannu at lwyddiant busnes
9. sut i ddefnyddio systemau data a gwybodaeth eich sefydliad
10. gofynion a gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer:
10.1 cofnodi a storio data a gwybodaeth
10.2 prosesu data a gwybodaeth
10.3 cyflwyno canlyniadau gwaith ymchwil
10.4 gwaredu neu archifo data sy’n anghywir, wedi dyddio neu’n amherthnasol 


Cwmpas/ystod

Cyrchfannau teithio: mewnwladol, tramor

Cynhyrchion: atyniadau, trafnidiaeth leol, cyfleusterau i dwristiaid

Ffynonellau: printiedig, electronig

​Cofnodi: â llaw, yn electronig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Defnyddio ffyrdd sy'n gost effeithiol ac yn effeithlon o ran amser i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth berthnasol

  2. Cydymffurfio, a sicrhau bod eraill yn cydymffurfio, â'r gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau'r sefydliad a chodau proffesiynol

  3. Gofyn am gymorth cydweithwyr os oes angen i helpu i ganfod ffynonellau, cael gwybodaeth a gwirio canfyddiadau

  4. Monitro dilysrwydd a dibynadwyedd y wybodaeth a gesglir

  5. Gwirio bod y wybodaeth a geir yn addas i'r diben ac addasu prosesau casglu a dadansoddi yn ôl yr angen

  6. Myfyrio'n rheolaidd ar eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill a'u defnyddio i lywio gweithredoedd yn y dyfodol


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT08

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ymchwil, teithio, cyrchfan, gwybodaeth