Gwneud yn siŵr bod eich gweithredoedd chi’n lleihau risgiau i iechyd a diogelwch

URN: PPLTT07
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch i bawb yn eich gweithle. Mae'n disgrifio'r cymwyseddau sy'n ofynnol i wneud yn siŵr: 

  • nad yw'ch gweithredoedd chi'n creu unrhyw beryglon o ran iechyd a diogelwch

  • nad ydych yn anwybyddu risgiau sylweddol yn eich gweithle, ac

  • eich bod yn cymryd camau synhwyrol i unioni pethau, gan gynnwys: rhoi gwybod am sefyllfaoedd sy'n creu perygl i bobl yn y gweithle a cheisio cyngor

Yn sylfaenol i'r safon hon mae dealltwriaeth o'r termau "perygl", "risg" a "rheolaeth".

Mae'r safon hon i bawb yn y gwaith (boed â thâl neu'n ddi-dâl, amser llawn neu ran amser). Mae'n ymwneud â sylweddoli beth yw'r risgiau arwyddocaol yn eich gweithle, gwybod sut i'w hadnabod a delio â nhw​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod y peryglon a gwerthuso’r risgiau yn eich gweithle, fel eich bod:

1. yn adnabod pa gyfarwyddiadau yn y gweithle sy’n berthnasol i’ch swydd
2. yn adnabod yr arferion gweithio yn eich swydd a allai achosi niwed i chi neu i bobl eraill
3. yn adnabod yr agweddau hynny ar y gweithle a allai achosi niwed i chi neu i bobl eraill
4. yn gwirio pa rai o’r arferion gweithio a’r agweddau ar y gweithle a allai achosi niwed, sy’n creu’r risgiau mwyaf i chi neu i bobl eraill
5. yn delio â pheryglon yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithle a’r gofynion cyfreithiol
6. yn enwi’n gywir y bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle chi, ac yn gallu dod o hyd iddynt
7. yn rhoi gwybod i’r bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle am y peryglon hynny sy’n creu’r risgiau mwyaf

Lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch yn eich gweithle, fel eich bod:
8. yn cyflawni’ch gwaith yn unol â’ch lefel cymhwysedd, cyfarwyddiadau’r gweithle, a’r gofynion cyfreithiol
9. yn rheoli’r risgiau hynny i iechyd a diogelwch o fewn eich gallu a chyfrifoldebau’ch swydd
10. yn trosglwyddo awgrymiadau ar gyfer lleihau risgiau i iechyd a diogelwch i’r bobl gyfrifol
11. yn gwneud yn siŵr nad yw’ch ymddygiad yn peryglu’ch iechyd a diogelwch chi neu bobl eraill yn y gweithle
12. yn dilyn y cyfarwyddiadau yn y gweithle ar gyfer defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
13. yn sicrhau bod eich ymgyflwyniad ac ymddygiad personol yn y gwaith:
13.1 yn diogelu iechyd a diogelwch i chi ac i bobl eraill,
13.2 yn bodloni unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol, ac
13.3 yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithle
14. yn gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn arferion gweithio ecogyfeillgar


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
1. beth yw peryglon a risgiau
2. y cyfrifoldebau a’r dyletswyddau cyfreithiol sydd arnoch chi am iechyd a diogelwch yn y gweithle
3. pwysigrwydd aros yn effro i bresenoldeb peryglon yn y gweithle i gyd
4. pwysigrwydd delio â risgiau neu roi gwybod amdanynt yn brydlon

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
5. eich gallu i reoli risgiau a’ch cyfrifoldeb am wneud hynny
6. pwysigrwydd ymgyflwyniad personol wrth gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
7. pwysigrwydd ymddygiad personol wrth gynnal iechyd a diogelwch i chi ac i bobl eraill

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
8. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel sy’n ofynnol gan y gyfraith sy’n berthnasol i’ch rôl yn y gwaith
9. y peryglon sy’n bodoli yn eich gweithle a’r arferion gweithio diogel mae’n rhaid ichi eu dilyn
10. y peryglon penodol o ran iechyd a diogelwch sy’n bresennol yn eich swydd chi a’r rhagofalon mae’n rhaid ichi eu cymryd
11. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn eich disgrifiad swydd
12. y bobl gyfrifol y dylech roi gwybod iddynt am faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
13. ble a phryd i gael cymorth ychwanegol gydag iechyd a diogelwch
14. cyfarwyddiadau’r gweithle ar reoli risgiau na allwch ddelio â nhw
15. cyfarwyddiadau’r gweithle – y mae’n rhaid ichi eu dilyn - ar ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion yn ddiogel 
16. y risgiau i’r amgylchedd a all fod yn bresennol yn eich gweithle a/neu yn eich swydd chi


Cwmpas/ystod

Risgiau: defnyddio a chynnal a chadw peiriannau neu gyfarpar, defnyddio deunyddiau neu sylweddau, arferion gweithio nad ydynt yn cydymffurfio â pholisïau sydd wedi'u gosod, ymddygiad anniogel, toriadau a gollyngiadau damweiniol, ffactorau amgylcheddol

Cyfarwyddiadau yn y gweithle: defnyddio dulliau gweithio a chyfarpar diogel, defnyddio sylweddau peryglus yn ddiogel, smygu, bwyta, yfed a chyffuriau, beth i'w wneud os oes argyfwng, ymgyflwyniad personol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Ymddwyn yn gyfrifol bob amser
  2. Cymryd sylw o weithgareddau sy'n mynd ymlaen o'ch cwmpas

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ENTO

URN gwreiddiol

HSS1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweithredoedd, lleihau, risgiau, iechyd a diogelwch