Gosod i fyny a chynnal a chadw arddangosiadau hyrwyddo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod i fyny amrywiaeth o arddangosiadau hyrwyddo a chynnal a chadw stociau o ddeunyddiau hyrwyddo. Mae hefyd yn cynnwys cynhyrchu cardiau a phosteri.
Argymhellir y safon i staff sy'n cyflawni gweithgareddau blaen tŷ mewn sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau teithio a thwristiaeth, ac sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid yn rheolaidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi ar gyfer hyrwyddiadau:
- fel eich bod yn gwybod beth yw'r gofynion ar gyfer yr hyrwyddiad ac wedi cael cadarnhad ac eglurhad os nad yw'r wybodaeth yn gyflawn neu'n glir
- fel bod y man arddangos o'r maint iawn ac nad yw'n effeithio ar fynediad
- fel bod gennych y deunyddiau, cyfarpar a stoc cywir y mae eu hangen ar gyfer yr arddangosiad a'u bod yn lân, yn gyfredol, yn ddiogel ac mewn cyflwr da
- fel bod y man arddangos yn cael ei glirio, ei lanhau a'i baratoi'n briodol cyn cael ei ddefnyddio
- fel bod y cardiau a'r posteri a gynhyrchir yn ddarllenadwy ac yn cyfateb i'r cyfarwyddiadau a roddwyd ichi ac i arddull eich sefydliad a'r safon ofynnol
Gosod i fyny a chynnal a chadw deunyddiau hyrwyddo a'u symud i ffwrdd:
6. fel bod deunyddiau hyrwyddo'n cael eu gosod i fyny a'u symud i ffwrdd yn gywir o fewn yr amser a ganiateir
7. fel bod arddangosiadau'n cael eu cadw mewn cyflwr glân, taclus a diogel trwy gydol cyfnod yr hyrwyddiad
8. fel bod y lefelau gofynnol a'r math o stoc sy'n cael ei arddangos yn cael eu cynnal trwy gydol cyfnod yr hyrwyddiad
9. fel bod gwybodaeth yn gyfredol ac mewn cyflwr da bob amser
10. fel bod cyfarpar a deunyddiau dros ben yn cael eu rhoi'n ôl mewn storfa
11. fel bod unrhyw ddeunyddiau sydd wedi dyddio neu wedi'u difrodi neu nad oes eu hangen mwyach yn cael eu gwaredu'n ddiogel, gan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad ar gyfer gwaredu gwastraff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Y gofynion ar gyfer yr hyrwyddiad: stoc a gofod, safle a dyddiadau'r arddangosiad, diogelwch, safonau'r sefydliad ar gyfer deunyddiau hyrwyddo
Cyfarwyddiadau: cynnwys, terfynau amser, safle, cyfryngau, technoleg
Deunyddiau hyrwyddo: llyfrynnau hysbysebu, posteri, cardiau, labeli, taflenni, amlgyfrwng / ar y we
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Gweithio'n drefnus a chan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad
Sicrhau cadarnhad i'ch gweithgareddau gyda'r person(au) perthnasol bob amser