Prosesu taliadau gwasanaethau teithio a thwristiaeth

URN: PPLTT03
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio cymhwysedd trin amrywiaeth fawr o ddulliau o dalu am wasanaethau teithio a thwristiaeth. Mae'r safon yn ymdrin â derbyn a storio taliadau, cyflenwi dogfennaeth gysylltiedig a sicrhau diogelwch y taliadau a ddaw i law.

Argymhellir y safon i staff sy'n ymwneud â derbyn gwahanol fathau o daliadau mewn amrywiaeth o ddulliau trwy gysylltiad uniongyrchol â chwsmeriaid


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyflenwi anfonebau a derbyn taliadau:

1. fel bod y cwsmeriaid yn gwybod beth yw dadansoddiad costau y gwasanaethau a ddewiswyd a beth yw’r cyfanswm terfynol i’w dalu
2. fel bod y cwsmeriaid yn gwybod beth yw’r dulliau talu sy’n dderbyniol, ac am unrhyw ffioedd neu gyfyngiadau sy’n gysylltiedig
3. fel bod polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad yn cael eu dilyn o ran anghysondebau mewn taliadau, taliadau heblaw arian parod, gwerthoedd trafodion, a therfynau
4. fel bod y newid a roddir am daliadau mewn arian parod yn gywir
5. fel bod diogelwch arian parod a thaliadau eraill yn cael ei sicrhau
6. fel bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu defnyddio i gynnal cyfrinachedd pryniannau cwsmeriaid a gwybodaeth am eu taliadau

Cyflenwi derbynebau a storio taliadau:

7. fel bod yr holl gofnodion taliadau mewnol yn cael eu cwblhau’n gywir ac yn dilyn gweithdrefnau’r sefydliad
8. fel bod y cwsmeriaid yn cael derbynebau darllenadwy a chywir
9. fel bod yr holl daliadau’n cael eu storio’n ddiogel a’u gwarchod


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1. y gofynion deddfwriaethol ynghylch prosesu taliadau a chofnodi gwybodaeth cwsmeriaid
2. y gwahaniaeth rhwng cardiau cyfrif (charge), credyd, debyd ac arian cyfred
3. mathau o drafodion twyllodrus gyda chardiau
4. y broses codi arian yn ôl 
5. y nodweddion diogelwch a ddefnyddir gan y prif gwmnïau cardiau
6. ffactorau mewn trafodion gwerthu a allai ddangos twyll posibl
7. gweithdrefnau sglodyn a rhif adnabod
8. sut i drin cwsmeriaid wrth ymdrin ag anghysondebau mewn taliadau
9. sut i gyfrifo’r symiau sy’n ddyledus yn gywir
10. sut i gadarnhau derbyn taliadau a rhoi newid i’ch cwsmer
11. rheoliadau rheoli arian cyfred sy’n berthnasol i daliadau ar gyfer cyfnewid tramor gan gynnwys darpariaethau gwyngalchu arian
12. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau wrth dderbyn taliadau gan gwsmeriaid a rhoi derbynebau amdanynt
13. canlyniadau posibl cyfrifiadau a thaliadau anghywir
14. y risgiau sy’n gysylltiedig â thrafodion pan nad yw deiliad y cerdyn yn bresennol a sut i leihau’r risgiau

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
15. cost y gwasanaethau a ddarperir
16. y ffioedd sy’n berthnasol i wahanol ddulliau talu a’r goblygiadau i’ch sefydliad ac i’r cwsmer
17. â phwy i gysylltu os ydych angen gwybodaeth, cyngor neu awdurdodiad talu 
18. dyletswyddau a chyfrifoldebau yn y ddeddfwriaeth gyfredol a chodau ymarfer cyfredol y diwydiant
19. eich lefelau awdurdod chi ar gyfer trin taliadau heblaw arian parod ac ymdrin ag anghysondebau mewn taliadau
20. gweithdrefnau awdurdodi cod deg a chonfensiynol

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
21. gweithdrefnau’ch sefydliad chi ar gyfer
21.1 derbyn a thrin taliadau a rhoi derbynebau amdanynt
21.2 storio taliadau 
21.3 ymdrin ag anghysondebau mewn taliadau
22. sut i gwblhau dogfennaeth sy’n gysylltiedig â thaliadau sy’n ofynnol gan eich sefydliad
23. gweithdrefnau i’w dilyn mewn argyfyngau ynghylch taliadau
24. dulliau talu sy’n dderbyniol i’ch sefydliad


Cwmpas/ystod

Dulliau talu: cerdyn credyd, cerdyn debyd, siec bersonol, cardiau arian cyfred, talebau, arian parod

Anghysondebau mewn taliadau: cerdyn â dyddiad wedi mynd heibio, cerdyn heb ei awdurdodi, cerdyn heb ei lofnodi, rhif adnabod personol anghywir, defnyddio cerdyn yn dwyllodrus, sieciau wedi'u llenwi'n anghywir, symiau arian parod anghywir, papurau arian sy'n ymddangos yn ffug, papurau arian allan o gylchrediad

Gwarchod: rhag colled, rhag lladrad, rhag difrod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. ​​Bod yn gwrtais wrth gwsmeriaid bob amser

  2. Cymryd camau'n brydlon i unioni camgymeriadau os oes angen

  3. Rhoi ac esbonio unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan gwsmeriaid yn glir ac yn gywir

  4. Gweithredu gydag uniondeb ar faterion sy'n effeithio ar arian y busnes


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT03

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

prosesu, teithio, twristiaeth, gwasanaethau, taliadau