Prosesu bwciadau gwasanaethau teithio
Trosolwg
Mae angen prosesu bwciadau gwasanaethau teithio'n gywir ac yn gyflym, gan sicrhau bod manylion y cwsmeriaid yn cael eu nodi a bod yr holl ddogfennaeth ar ôl bwcio yn gyfredol ac ar gael i'r cwsmeriaid.
Yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dyfodiad bwciadau electronig a'r cynnydd yn eu nifer, a'r gostyngiad yn nifer y problemau'n ymwneud â thocynnau teithio, mae'n arbennig o bwysig bod dogfennaeth ar ôl bwcio'n cael ei chwblhau'n gywir ac yn gyflym fel ei bod ar gael yn hwylus i'r cwsmeriaid.
Argymhellir y safon i'r holl staff sydd mewn cysylltiad â chwsmeriaid ac sy'n gyfrifol am sicrhau bod trefniadau teithio'n cael eu cadarnhau a'u prosesu'n gyflym ac yn gywir ar ôl gwerthu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cwblhau gwaith gweinyddu a phrosesu bwciadau a chyflenwi dogfennaeth a gwasanaethau ychwanegol:
- fel bod manylion y cwsmeriaid a'r trefniadau bwcio'n gywir
- fel bod systemau bwcio priodol yn cael eu defnyddio'n gywir ac yn ddiogel
- fel bod gwybodaeth cwsmeriaid yn cael ei chofnodi'n gywir ac y cynhelir cyfrinachedd
- fel bod dogfennaeth yn cael ei phrosesu'n brydlon ar ôl cwblhau'r bwciad, gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad a'r cyflenwyr
- fel bod y cwsmeriaid a'r cyflenwyr yn cael cadarnhad o'r gwasanaethau sydd wedi'u bwcio
- fel bod copïau cywir o'r ddogfennaeth teithio a dogfennaeth arall yn cael eu cyflenwi i'r holl bartïon perthnasol o fewn yr amserlen angenrheidiol ac yn unol â gweithdrefnau'ch sefydliad
- fel bod y ddogfennaeth teithio a dogfennaeth gwasanaethau ychwanegol yn cael ei diweddaru'n brydlon ac yn gywir lle bo angen
- fel bod unrhyw anghysondebau yn cael sylw'n brydlon
- fel bod gwybodaeth a dogfennaeth bwcio yn cael eu trin a'u storio'n ddiogel gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad a bodloni'r gofynion cyfreithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- codau ymarfer cyfredol y diwydiant a'r ddeddfwriaeth gyfredol o ran cyfrifoldebau cyflenwi tocynnau teithio at ddibenion hamdden neu fusnes
- egwyddorion rheolau'r awdurdodau trwyddedu a rheoli
- pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a diogel
- sut mae deddfwriaeth yn effeithio ar y ffyrdd yr ydych yn cofnodi ac yn storio gwybodaeth bersonol
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant
5. y mathau o ddogfennaeth teithio y gellir eu cyflenwi a'u cwblhau
6. sut i brosesu dogfennaeth bwcio, monitro a chofnodi bwciadau
7. telerau ac amodau bwcio
8. y byrfoddau a'r termau a ddefnyddir ar ddogfennaeth teithio
9. dulliau aml-sianel o sicrhau bod dogfennau ar gael i gwsmeriaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
10. gweithdrefn eich sefydliad a'ch cyflenwyr ar gyfer cwblhau bwciadau â llaw neu electronig
11. y mathau o ddogfennaeth teithio ar gyfer eich sefydliad
12. y mathau o wybodaeth cwsmeriaid y mae'n rhaid eu cofnodi a'r dulliau o gynnal y cyfrinachedd angenrheidiol
13. sut i ddefnyddio systemau bwcio cyfredol y gwasanaethau teithio
14. canlyniadau camgymeriadau yn y gwaith bwcio neu gyflenwi neu brosesu dogfennau'n anghywir
15. pwysigrwydd dogfennaeth gywir
Cwmpas/ystod
Bwcio: gwyliau pecyn, hediadau, llety, teithio, coetsis, rheilffyrdd, mordeithiau
Gwasanaethau ychwanegol: llogi ceir, lolfeydd VIP, parcio ceir, cludiant i ac o'r man ymadael, llety, yswiriant, gwibdeithiau a thocynnau mae modd eu bwcio ymlaen llaw, ychwanegiadau gweithredwyr teithiau, pecynnau sgïo, uwchraddiadau, cludiant arall.
Enghreifftiau o ddogfennaeth: cyflenwyd ymlaen llaw, wrth ymadael, tocynnau electronig, neu ddi-docyn
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Gweithio'n drefnus gan roi sylw i fanylion
Cyfeirio pob mater y tu hwnt i'ch cyfrifoldebau neu brofiad gwaith at y person perthnasol
Gweithio'n gyflym ac yn gywir