Trosglwyddo a gadael trenau
URN: PPLRS10
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Rheilffyrdd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2014
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â throsglwyddo trenau sydd mewn gwasanaeth a thynnu trenau allan o wasanaeth. Mae’r uned hon yn nodi pwysigrwydd cyfleu gwybodaeth yn effeithiol ac yn gywir, gan gynnwys manylion trenau a gwybodaeth arall ynghylch diogelwch a pherfformiad, i gydweithwyr. Mae’r uned hefyd yn trafod y gwaith o sicrhau y caiff trenau eu diogelu pan gânt eu gadael heb neb i ofalu amdanynt neu pan fydd y criwiau’n newid, cyfathrebu rhwng criwiau a rhoi gwybod am namau.
Mae’r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Trosglwyddo trenau mewn gwasanaeth
Mae’r elfen hon yn ymwneud â sicrhau y caiff trên mewn gwasanaeth ei drosglwyddo’n ddiogel. Mae’n gofyn am ddealltwriaeth o’r gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo gan gynnwys y wybodaeth, y cyfathrebu a’r dogfennau gofynnol.
2. Gadael trenau
Mae’r elfen hon yn ymwneud â sicrhau eich bod yn cymryd y camau gofynnol i adael trên yn ddiogel ac yn effeithlon pan fo gofyn gwneud hynny. Mae’n gofyn eich bod yn deall eich cyfrifoldebau’ch hun a rheolau, rheoliadau, cyfarwyddiadau a gweithdrefnau’ch sefydliad ar gyfer gadael trenau.
Mae’r uned hon ar gyfer y rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyda theithwyr a’r gwaith o redeg trenau. Mae’n arbennig o briodol ar gyfer y rhai sy’n cyflawni gwaith gyrru
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Trosglwyddo trenau mewn gwasanaeth
1 diogelu trên cyn ei drosglwyddo yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
2 adnabod a dod o hyd i’r person(au) perthnasol sy’n ymwneud â’r gwaith trosglwyddo
3 cyfleu gwybodaeth ynghylch y trên, y gwasanaeth a diogelwch y llinell i’r person(au) perthnasol
4 rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol yn syth pan na ellir cwblhau’r gwaith trosglwyddo
5 cwblhau a phrosesu’r dogfennau gofynnol yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
**
Gadael trenau
**
Gadael trenau
**6 danfon trên i’r lleoliad penodedig
7 cydymffurfio â chyfarwyddiadau ynghylch lleoli trenau bob amser
8 lleoli trên fel nad yw’n achosi perygl i ddiogelwch neu’n rhwystro teithiau traffig neu gyfarpar arall
9 llonyddu trên rhag symud yn ôl ei fanyleb a’i fath
10 diffodd trên yn ôl ei fanyleb a’i fath
11 diogelu’r caban gyrru yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
12 rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol am leoliad a chyflwr trên a adawyd
13 dilyn a chadw at weithdrefnau diogelwch bob amser
14 cwblhau’r dogfennau gofynnol yn gywir a’u prosesu yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Trosglwyddo trenau mewn gwasanaeth
1 gweithdrefn eich sefydliad ynghylch diogelu trên cyn ei drosglwyddo
2 sut i ddehongli rhaglenni neu amserlenni gwaith
3 gweithdrefnau lleol ar gyfer trosglwyddo trenau
4 terfynau’ch cyfrifoldeb chi
5 y rhesymau pam na ellir cwblhau gwaith trosglwyddo
*
Gadael trenau
*
6 y mathau o leoliadau lle caiff trenau eu gadael a’r risgiau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r lleoliadau hyn
Gadael trenau
*
6 y mathau o leoliadau lle caiff trenau eu gadael a’r risgiau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r lleoliadau hyn
7 gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch y dyletswyddau o ran gadael trên
8 patrwm a gweithdrefnau’r lleoliad gadael penodedig
9 trefn a manylion gweithgareddau llonyddu’r trên a’i ddiffodd
10 pam ei fod yn bwysig diogelu’r caban gyrru
11 y llinellau a’r dulliau cyfathrebu effeithiol yn eich sefydliad
12 y gofynion perthnasol o ran cwblhau dogfennau yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
*Eich sefydliad
*
Dyma’r cwmni rydych chi’n gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod i chi’ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol
*
Dyma’r cwmni rydych chi’n gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod i chi’ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol
Perygl
Rhywbeth sydd â’r potensial i achosi niwed (gall hyn gynnwys eitemau, sylweddau, cyfarpar neu beiriannau, dulliau gweithio, yr amgylchedd gwaith ac agweddau eraill ar drefniadaeth y gwaith)
*
Gweithdrefnau’ch sefydliad*
Dyma’r gweithdrefnau sydd gan sefydliad i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau, deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddiadau, polisïau, systemau, trwyddedu a chyfreithiau perthnasol i’r gweithgarwch a’i amgylchedd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2017
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
GSKRS10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a Gwaith Cynnal a Chadw Cludiant, Gyrwyr a Gweithwyr Cludiant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Trenau, gweithredu, rheoli, gwasanaeth, gyrru’n effeithlon