Ymateb i sefyllfaoedd gweithio annormal yn y diwydiant rheilffyrdd

URN: PPLRS09
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Rheilffyrdd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae’r uned hon yn ymdrin ag ymateb i sefyllfaoedd gweithio annormal a delio’n brydlon ac mewn ffordd ddiogel ac effeithlon â namau sy’n effeithio ar gerbydau rheilffordd pan ydych chi’n gyrru trên. Mae hefyd yn ymdrin ag anawsterau gweithredol a all effeithio ar drên, y gallant gael eu hachosi gan ffactorau fel methiant cyfarpar sefydlog neu seilwaith, tanau, digwyddiadau, damweiniau neu’r tywydd.

Mae’r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

1. Ymateb i namau a methiannau

Mae’r elfen hon yn ymdrin â gwneud penderfyniadau diogel ac effeithiol am drên pan fo nam neu fethiant yn digwydd arno.

2. Ymateb i sefyllfaoedd allan o’r drefn arferol

Mae’r elfen hon yn ymdrin ag ymateb yn brydlon ac mewn ffordd ddiogel ac effeithiol i ddigwyddiadau, damweiniau ac argyfyngau sy’n effeithio ar eich trên.

Mae’r uned hon i’r rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyda theithwyr a’r gwaith o redeg trenau. Mae’n arbennig o briodol i’r rheiny sy’n cyflawni gwaith gyrrwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Ymateb i namau a methiannau​

​​​1   canfod natur namau a methiannau mewn systemau a chyfarpar trenau

2   stopio trên, pan fo angen, mewn man diogel ar ôl dod o hyd i namau a gwarchod y trên er mwyn lleihau risg damwain cymaint ag sy’n bosibl

3   datrys namau o fewn terfynau’ch awdurdod chi ac yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
4   gofyn am gymorth yn brydlon oddi wrth berson(au) perthnasol pan na ellir datrys namau a methiannau
5   rhoi gwybod am namau a methiannau, eu cofnodi ac adrodd amdanynt yn brydlon i’r person(au) perthnasol
6   rheoli trên mewn modd sy’n gyson ag unrhyw newid mewn amgylchiadau
7   rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol am leoliad trên/trenau sydd wedi methu, a chofnodi’r lleoliad

**Ymateb i sefyllfaoedd allan o’r drefn arferol

**

8   cymryd camau pan ddewch o hyd i achosion o afreoleidd-dra, yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
9   rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol am beryglon gwirioneddol a phosibl
10   cymryd camau mewn argyfyngau sydd o fewn eich awdurdod chi a rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch pobl
11   gweithredu rhagofalon ychwanegol cymeradwy pan mae digwyddiadau gwirioneddol neu bosibl yn ymwneud â sylweddau peryglus
12   gwirio newidiadau i weithrediad trenau a gweithredu/rheoli trên yn unol â’r newidiadau y rhoddir gwybod amdanynt
13   stopio trên mewn man diogel, pan fo angen, ar ôl dod o hyd i berygl, a gwarchod y trên er mwyn lleihau risg damwain cymaint ag sy’n bosibl
14   rhoi gwybod ar unwaith i’r person(au) perthnasol pan fo trên yn cael ei adael yn anochel ar ffordd trenau eraill
15   cwblhau a phrosesu’r dogfennau gofynnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​**Ymateb i namau a methiannau

*

1   gweithdrefnau’ch sefydliad chi ar gyfer delio â namau a methiannau
2   y mathau o namau a methiannau a allai ddigwydd mewn systemau a chyfarpar trenau
3   yr arwyddion rhybuddio a’r achosion o ddyfeisiau’n cychwyn a allai ddigwydd a sut i ymateb iddynt
4   y camau i’w cymryd i ddelio â namau a methiannau mewn systemau a chyfarpar trenau
5   y mannau diogel ac anniogel i stopio
6   y mathau o systemau gwarchod a’r defnydd ohonynt
7   terfynau’ch awdurdod chi
8   y newidiadau a allai fod yn ofynnol i weithrediad trenau o ganlyniad i namau a methiannau
9   y gweithdrefnau adrodd yn eich sefydliad chi
*
Ymateb i sefyllfaoedd allan o’r drefn arfero**l

10   gweithdrefnau’ch sefydliad chi mewn perthynas â sefyllfaoedd allan o’r drefn arferol
11   perygl gwirioneddol neu bosibl
12   sut i adnabod digwyddiadau gwirioneddol a phosibl
13   y mathau o ddulliau a dyfeisiau rhybuddio sydd ar gael a sut mae’n rhaid eu defnyddio
14   sut i adnabod achosion o afreoleidd-dra o ran signalau a’r camau mae’n rhaid ichi eu cymryd wrth ymateb iddynt
15   beth yw argyfwng
16   y camau i’w cymryd wrth ymateb i ddigwyddiad, damwain neu argyfwng
17   y rhagofalon ychwanegol cymeradwy mae’n rhaid eu gweithredu pan mae argyfwng yn ymwneud â sylweddau peryglus
18   y mannau diogel ac anniogel i stopio
19   y systemau gwarchod perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
20   y sefyllfaoedd posibl lle gallai trên gael ei adael yn anochel ar ffordd trenau eraill
21   ystyr lawn yr holl arwyddion signalau sy’n berthnasol i’r rheolau a weithredir a’r ymatebion cywir iddynt
22   terfynau’ch awdurdod chi
23   y gofynion perthnasol o ran cwblhau dogfennau yn eich sefydliad chi
24   sut i ymateb i newidiadau i weithrediad trenau
25   sut y gallai sefyllfaoedd allan o’r drefn arferol effeithio ar weithrediad y trenau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Eich sefydliad *
Dyma’r cwmni rydych chi’n gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod i chi’ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol

Gweithdrefnau’ch sefydliad 
Dyma’r gweithdrefnau sydd gan sefydliad i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau, deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddiadau, polisïau, systemau, trwyddedu a chyfreithiau perthnasol i’r gweithgarwch a’i amgylchedd. 

Sefyllfaoedd allan o’r drefn arferol
Digwyddiadau anarferol/heb eu cynllunio sy’n ymwneud â pheryglon sy’n ychwanegol i’r amgylchedd gwaith. Fe’u gelwir hefyd sefyllfaoedd diraddiedig neu annormal

Digwyddiad 
Digwyddiad heb ei gynllunio, heb reolaeth, a allai fod wedi arwain at anaf i bobl neu ddifrod i gerbydau a chyfarpar, neu ryw golled arall

Damwain
Digwyddiad heb ei gynllunio, heb reolaeth, sydd wedi arwain at anaf i bobl neu ddifrod i gerbydau a chyfarpar, neu ryw golled arall

Risg
Tebygrwydd niwed posibl o berygl. Bydd maint y risg yn dibynnu ar y canlynol; y tebygrwydd y bydd y niwed hwnnw’n digwydd, difrifoldeb posibl y niwed hwnnw, a’r boblogaeth y gallai’r perygl effeithio arnynt

Perygl
Rhywbeth sydd â’r potensial i achosi niwed (gall hyn gynnwys eitemau, sylweddau, cyfarpar neu beiriannau, dulliau gweithio, yr amgylchedd gwaith ac agweddau eraill ar drefniadaeth y gwaith)

Argyfwng
Digwyddiad sydyn nas rhagwelwyd sy’n galw am weithredu ar unwaith


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

GSKRS09

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a Gwaith Cynnal a Chadw Cludiant, Gyrwyr a Gweithwyr Cludiant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Namau, annormal, rheilffyrdd, trên, cerbydau, gyrru, digwyddiad, damwain