Cludo plant a phobl ifanc â thacsi, hurio preifat neu sioffro
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chludo plant a phobl ifanc. Rhaid i chi allu sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn eistedd yn ddiogel. Rhaid i chi wybod a deall bod dyletswydd gofal arnoch pan fyddwch yn cludo plant a phobl ifanc. Rhaid i chi wybod beth i’w wneud os bydd plentyn yn cael ei daro’n sâl, neu os bydd yn rhannu problemau neu faterion eraill â chi.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen
1. Paratoi cerbyd i gludo plant a phobl ifanc
2. Codi a chludo plant a phobl ifanc yn ddiogel i gyrchfan ddynodedig lle gellir eu trosglwyddo’n ddiogel i ofal unigolyn awdurdodedig
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi cerbyd i gludo plant a phobl ifanc
P1 paratoi’r cerbyd yn unol â’r amodau trwyddedu a/neu fanylebau contract yr AALl a’r datganiadau cludiant teithwyr unigol a ddarparwyd
P2 cynnal archwiliad o’r cerbyd a all gynnwys cyfarpar atodol sydd â’r nod o helpu plant a phobl ifanc sydd angen mesurau cymorth arbennig i ddod i mewn ac allan o’r cerbyd
Codi a chludo plant a phobl ifanc yn ddiogel i gyrchfan ddynodedig lle gellir eu trosglwyddo’n ddiogel i ofal unigolyn awdurdodedig
P3 dangos bod ganddynt gontract i gludo plant a phobl ifanc
P4 rhoi cymorth pan fydd angen i gau gwregys diogelwch neu seddi diogel i blant
P5 sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd angen help yn cael eu helpu
P6 cyrraedd y man casglu neu’r gyrchfan ar yr amser y cytunwyd
P7 cludo plant a phobl ifanc yn ddiogel yn unol â pholisiau’r gweithredwr a gofynion ac amodau gofynion contract yr AALl/awdurdod trwyddedu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi cerbyd i gludo plant a phobl ifanc
K1 pwysigrwydd gwiriadau diogelwch cerbydau yn achos contractau ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol
K2 pwysigrwydd systemau adrodd yn rheolaidd ar archwiliadau cerbydau
K3 y termau ‘dyletswydd gofal’ ac ‘esgeulustod’ a sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu wrth gludo plant a phobl ifanc
K4 y gyfraith gyfredol ar wregysau diogelwch sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc
K5 y cyfrifoldeb cyfreithiol sydd ar y gyrrwr tuag at blant sydd o oedran neu daldra penodol
Codi a chludo plant a phobl ifanc yn ddiogel i gyrchfan ddynodedig lle gellir eu trosglwyddo’n ddiogel i ofal unigolyn awdurdodedig
K6 rôl yr Awdurdod Diogelu Annibynnol i amddiffyn plant a phobl ifanc
K7 rôl a chyfrifoldebau’r gyrrwr a’r cynorthwyydd teithwyr wrth gludo plant a phobl ifanc fel rhan o gontract awdurdod lleol neu AALl
K8 yr angen am wiriadau rheolaidd y CRB wrth gludo plant a phobl ifanc
K9 pwysigrwydd hysbysu plant a phobl ifanc o’r canlynol:
K9.1 mannau peryglus o gwmpas y cerbyd a all achosi niwed neu anaf
K9.2 pryd a sut i fynd i mewn ac allan o’r cerbyd
K10 pwysigrwydd parchu urddas y plentyn wrth ei helpu i mewn ac allan o’r cerbyd
K11 sut i sicrhau bod gan yr ysgol, coleg, athrawon a/neu rieni’n hyder yng ngallu’r gyrrwr
K12 egluro’r term ‘in loco parentis’ a sut mae’n gymwys i’r gyrrwr â gofal
K13 disgrifio sut i ddelio â’r canlynol:
K13.1 an unwell child
K13.2 travel sickness
K13.3 bullying
K13.4 misbehaviour
K13.5 a distressed child
K14 Sut mae cyfathrebu a phlant a phobl ifanc mewn ffordd sensitif gan sicrhau eu bod yn cadw rheolaeth dros ymddygiad drwg a rhialtwch
K15 Pam fod angen cadw mewn cysylltiad agos â’r gweithredwr, ysgol, coleg neu awdurdod contractio os bydd problem bosibl yn codi gyda’r trefniadau cludo
K16 pwysigrwydd ‘trosglwyddo cyfrifoldebau’ i riant, gwarcheidwad neu ysgol sy’n aros
K17 pwysigrwydd bod â chynllun wrth gefn y gellir ei fabwysiadu os bydd digwyddiad neu ddamwain wrth gludo plant a phobl ifanc
K18 pwysigrwydd log neu ddyddiadur gyrrwr i gofnodi digwyddiadau a honiadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol
Digwyddiad
Digwyddiad heb ei gynllunio, na ellir ei reoli a allai arwain at anaf i bobl neu ddifrod i gerbydau a chyfarpar, neu ryw golled arall
Argyfwng
Digwyddiad sydyn nad oedd wedi’i ragweld lle mae angen gweithredu ar unwaith