Cludo parseli, bagiau ac eitemau eraill yn y diwydiannau tacsis a hurio preifat
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chludo parseli, bagiau ac eitemau eraill mewn tacsis a cherbydau hurio preifat. Rhaid i chi allu codi a sicrhau eitemau’n gywir. Rhaid i chi wybod a deall y rhagofalon sydd angen eu cymryd wrth godi eitemau.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Derbyn a llwytho parseli, bagiau ac eitemau eraill i’w cludo
2. Ymchwilio i eiddo coll a chymryd camau priodol i ganfod y perchennog
Mae’r Safon hon ar gyfer**
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Derbyn a llwytho parseli, bagiau ac eitemau eraill i’w cludo
P1 dilyn cyfarwyddiadau cwsmeriaid o ran cludiad a chyrchfan bagiau ac eitemau eraill
P2 gwirio bagiau ac eitemau eraill am ddifrod cyn eu derbyn i’w cludo
P3 cynnal asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith codi a chario
P4 defnyddio’r technegau codi cywir i godi a chario bagiau ac eitemau eraill sydd i’w cludo
P5 dosbarthu a diogelu bagiau ac eitemau eraill rhag straen, trosglwyddo pwysau, trawiadau, gwasgu, trywanu a thywydd garw
P6 dangos bod rhagofalon wedi’u cymryd i sicrhau bagiau ac i’w gwarchod rhag lladrad
P7 cymryd camau pan fydd bagiau neu eitemau’n rhy drwm i’w codi neu eu cario
Ymchwilio i eiddo coll a chymryd camau priodol i ganfod y perchennog**
P8 cynnal archwiliad cyffredinol o’r cerbyd rhag ofn bod eiddo coll ynddo
K9 trosglwyddo eiddo coll i’r unigolyn perthnasol
P10 cael derbynneb am yr eiddo coll gan yr unigolyn perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Derbyn a llwytho parseli, bagiau ac eitemau eraill i’w cludo
K1 y rheoliadau perthnasol a’r gofynion yswiriant sy’n gysylltiedig â chludo bagiau neu eitemau
K2 y termau ‘dyletswydd gofal’ ac ‘atebolrwydd dirprwyol’ yn achos cludo parseli, bagiau ac eitemau eraill
K3 sut i ddelio â sylweddau sydd â gofynion arbennig
K4 y rhagofalon mae’n rhaid eu cymryd wrth lwytho a chludo cyfarpar personol
K5 gofynion Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992
K6 sut i gynnal asesiad risg cyn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch codi a chario
K7 yr anafiadau a all ddigwydd wrth godi a chario
K8 sut i osgoi anafiadau wrth godi a chario
K9 pwysigrwydd rhoi gwybod am ddamweiniau
K10 yr egwyddor codi cinetig
K11 canlyniadau derbyn nwyddau anghyfreithlon i’w cludo hyd yn oed os nad oedd y gyrrwr yn gwybod beth oedd cynnwys y pecyn
K12 y rhagofalon y dylid eu cymryd os bydd cais i gludo nwyddau heb fanylion am y pecyn na gwaith papur olrhain
K13 yr awdurdod i gysylltu ag ef os oes amheuaeth bod pecyn yn anghyfreithlon neu’n cynnwys dyfais ffrwydrol
K14 pam mae’n bwysig bod gan yrwyr sy’n gwneud gwaith cludwyr nodyn cludo a gafwyd gan y cwsmer
Ymchwilio i eiddo coll a chymryd camau priodol i ganfod y perchennog
K15 y rhagofalon angenrheidiol wrth gynnal archwiliad cyffredinol o’r cerbyd
K16 y cymorth y gellir ei roi i’r gweithredwr neu’r heddlu i ddod o hyd i berchennog eiddo coll
K17 Amodau’r drwydded o ran trosglwyddo eiddo coll yn ôl i’w perchennog
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig *
*
Eitemau
Parseli a bagiau
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol