Prosesu pris siwrneiau a chostau ar gyfer teithwyr hurio preifat
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â phrosesu pris siwrneiau a chostau ar gyfer teithwyr hurio preifat. Rhaid i chi allu cyfrifo’r pris cywir i deithwyr ar sail eich cytundeb â’r gweithredwr hurio preifat. Rhaid i chi wybod a deall y dulliau talu y gall teithwyr eu defnyddio, a’r cyfyngiadau ar sut y gallwch godi teithwyr.
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 derbyn taliad hurio preifat sydd wedi’i archebu ymlaen llaw drwy weithredwr hurio preifat
P2 cwblhau taliad hurio preifat sydd wedi’i archebu ymlaen llaw drwy weithredwr hurio preifat
P3 deall a derbyn pan fydd cerdyn neu docyn teithio rhatach wedi cael ei gynnig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 sut y gwneir cytundeb hurio preifat drwy weithredwr hurio preifat trwyddedig a sut mae’r manylion yn cael eu rhannu â’r gyrrwr hurio preifat
K2 sut mae system archebu ac anfon fodern yn gweithio
K3 y systemau talu sydd ar gael i yrrwr
K4 buddiannau ‘archebu awtomatig’ a ‘galw’n ôl’
K5 sut mae newid yn cael ei gyfrifo
K6 sut mae rhoi derbynneb i gwsmer
K7 sut mae arian parod a derbyniadau eraill yn cael eu cysoni ar ddiwedd pob cyfnod gwaith
K8 dulliau cyffredin o dalu gyrwyr pan fyddant wedi’u contractio a chylched radio