Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n defnyddio cadeiriau olwyn mewn tacsi neu gerbyd hurio preifat hygyrch
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â darparu gwasanaeth cludo i deithwyr sy’n defnyddio cadair olwyn. Rhaid i chi allu cludo’r teithiwr yn ddiogel a chyfforddus. Rhaid i chi wybod a deall y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â mynediad i dacsis a cherbydau hurio preifat i deithwyr sy’n defnyddio cadair olwyn.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Darparu cymorth diogel i gwsmeriaid mewn cadair olwyn sydd angen eu trosglwyddo i’r cerbyd hygyrch
2. Darparu cymorth diogel i gwsmeriaid sydd am gael eu trosglwyddo o gadair olwyn i’r cerbyd
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Darparu cymorth diogel i gwsmeriaid mewn cadair olwyn sydd angen eu trosglwyddo i’r cerbyd hygyrch
P1 trefnu, defnyddio a chadw cymhorthion mynediad fel ramp neu lifft teithwyr, yn gywir
P2 gwirio goledd y ramp i sicrhau bod y gadair olwyn, y cwsmer a’r gyrrwr yn gallu mynd i mewn ac allan yn ddiogel
P3 llywio cadair olwyn a’r cwsmer sydd ynddi i mewn ac allan o’r cerbyd yn ddiogel a’u rhoi i wynebu i’r cyfeiriad cywir
P4 dangos bod y brêc ymlaen a bod y gadair olwyn wedi’i diogelu gan gyfarpar y gwneuthurwyr
P5 ffitio gwregys diogelwch y cwsmer a’r cyfarpar diogelu’n gywir, ynghyd â’r
rhannu sy’n cynnal y pen/cefn os oes rhai wedi’u gosod
P6 sicrhau bod y cwsmer yn ddiogel a saff cyn cychwyn
P7 bagio’r gadair olwyn a’r sawl sydd ynddi i lawr y ramp yn ddiogel
Darparu cymorth diogel i gwsmeriaid sydd am gael eu trosglwyddo o gadair olwyn i’r cerbyd
P8 agor a phlygu cadair olwyn pedair olwyn
P9 trafod â’r cwsmer beth yw eu gallu i drosglwyddo’u hunain yn ddiogel o’r gadair olwyn i mewn ac allan o’r cerbyd
P10 cytuno ar faint o gymorth sydd ei angen wrth eu trosglwyddo
P11 gwirio bod y gadair olwyn yn ateb y gofynion a’i bod yn gwbl sefydlog cyn i’r cwsmer godi’u hunain i mewn ac allan o’r gadair
P12 dethol a defnyddio’r cymhorthydd anabledd cywir i drosglwyddo’r cwsmer i mewn ac allan o’r cerbyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Darparu cymorth diogel i gwsmeriaid mewn cadair olwyn sydd angen eu trosglwyddo i’r cerbyd hygyrch**
K1 y cyfarpar arbenigol a all fod wedi’i osod mewn cerbyd hygyrch
K2 pwysigrwydd cynnal archwiliadau ac asesiadau risg rheolaidd ar gyfarpar arbenigol
K3 sut a ble mae cael copïau o gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio cymhorthion
K4 pwysigrwydd gwybod beth yw llwythau gweithio diogel a chyfyngiadau cyfarpar arbenigol ac unrhyw gyfundrefnau archwilio a phrofi sy’n rhaid eu dilyn
K5 sut i ddiogelu cadair olwyn a sicrhau teithiwr sy’n eistedd mewn cadair olwyn wrth eu cludo
K6 gweithdrefnau priodol ar gyfer delio â chyfarpar diogelwch teithwyr sy’n ddiffygiol
K7 y camau y gellir eu cymryd i ddelio â sefyllfaoedd pan nad oes modd cadw at amserlenni
K8 y camau y gellir eu cymryd i ddelio â sefyllfaoedd pan na fydd cwsmeriaid yn y mannau casglu y cytunwyd arnynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
*
*
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig