Darparu gwasanaeth cludo yn y diwydiannau tacsis a cherbydau hurio preifat i gwsmeriaid sydd angen cymorth

URN: PPLRPVD26
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth cludo i gwsmeriaid sydd angen cymorth. Dylech wybod a deall y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo teithwyr sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

Mae’r Safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Deall pan fydd cwsmeriaid angen cymorth a darparu cymorth priodol iddynt
2. Cynnig cymorth priodol i gwsmeriaid a all brofi anawsterau wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
3. Deall deddfwriaeth gwrth wahaniaethu

Mae’r Safon hon ar gyfer**
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Deall pan fydd cwsmeriaid angen cymorth a darparu cymorth priodol iddynt

P1 dangos ymwybyddiaeth o angen cwsmer am help
P2 cynnig y cymorth a’r help priodol sydd ei angen ar y cwsmer
P3 cynnig cymorth ar unwaith ac mewn ffordd sy’n gwrtais ac ystyriol ac sy’n parchu urddas y cwsmeriaid
P4 penderfynu, gyda chymeradwyaeth y cwsmer, pa fesurau cymorth sydd eu hangen
P5 asesu a fydd y cymorth sydd ei angen yn achosi unrhyw risg iddynt eu hunain neu i’r cwsmer(iaid)
P6 cyfeirio at gynlluniau wrth gefn os na ellir darparu’r cymorth angenrheidiol
P7 gweithio o fewn y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth benderfynu ar y cymorth a roddir
P8 cydnabod pan na fydd angen cymorth ar y cwsmer

Cynnig cymorth priodol i gwsmeriaid a all brofi anawsterau wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

P9 darparu gwasanaeth priodol i gwsmeriaid sydd angen cymorth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Deall pan fydd cwsmeriaid angen cymorth a darparu cymorth priodol iddynt

K1 sut i adnabod cwsmeriaid a all fod angen help
K2 rôl cŵn cymorth a’u siacedi lliw
K3 canlyniadau gwrthod ci cymorth heb gyfiawnhad

Cynnig cymorth priodol i gwsmeriaid a all brofi anawsterau wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

K4 pam ei bod yn bwysig cael caniatâd y cwsmer cyn darparu cymorth
K5 y mesurau cymorth penodol y gall gyrrwr eu cymryd wrth gynnig cymorth i gwsmeriaid, gan gynnwys rhai:
  K5.1 sy’n fyddar neu â nam ar eu clyw
  K5.2 sy’n ddall neu rannol ddall
  K5.3 nad ydynt yn gallu cerdded neu sydd â symudedd cyfyngedig
  K5.4 sydd ag anawsterau dysgu
  K5.5 sydd ag anawsterau lleferydd neu gyfathrebu penodol
K6 y termau ‘parchu urddas’ a ‘dyletswydd gofal’ yng nghyd-destun helpu cwsmeriaid sydd â gofynion cymorth arbennig
K7 pam na ellir codi tâl ychwanegol ar gludo cŵn cymorth
K8 pam na ddylai gwasanaeth o ddrws i ddrws gael ei adlewyrchu mewn taliadau aros
K9 pam mae’n bwysig bod help a chymorth ar gael yn ystod pob cam o’r siwrnai gan gynnwys ar ddiwedd y siwrnai
K10 sut y gall gyrrwr apelio yn erbyn Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) ar ôl cael
PCN am ymestyn cyfnod aros neu dorri cyfyngiad parcio

Deall deddfwriaeth gwrth wahaniaethu

K11 y ddarpariaeth hygyrchedd cerbydau a geir yn y Ddeddfwriaeth Gydraddoldeb gyfredol
K12 y term ‘gwahaniaethu’ a sut mae’n gymwys i deithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
K13 y termau ‘cyfiawnhad’ ac ‘addasiadau rhesymol’ yng nghyd-destun eithriadau diogelwch a meddygol wrth benderfynu cludo teithwyr sydd ag anabledd
K14 y Codau Ymarfer a’r Canllawiau perthnasol sydd wedi’u hysgrifennu ar gyfer gyrwyr sy’n cludo cwsmeriaid sydd angen cymort


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth Ychwanegol

Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD26

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Tacsi; hurio preifat; teithwyr; cymorth; deddfwriaeth