Cludo teithwyr sy’n talu o fewn fframwaith rheoleiddiol y diwydiant tacsis
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â chludo teithwyr sy’n talu yn y diwydiant tacsis. Rhaid i chi wybod a deall y rheoliadau cymwys sy’n ymwneud â chodi teithwyr yn y diwydiant tacsis.
Mae’r Safon hon yn cynnwys pedair elfen, ac mae tair o’r elfennau’n ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth yn unig gan ei bod yn hanfodol bod gennych ddealltwriaeth o’r broses a’r rheolau trwyddedu ar gyfer gyrwyr tacsis.
1. Rhesymau pam mae’n rhaid i yrwyr a cherbydau gael trwydded
2. Cydymffurfio â’r gofynion i ddal a chadw trwydded gyrwyr
3. Darparu cerbyd hacni sy’n cydymffurfio â gofynion yr awdurdod trwyddedu
4. Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cludo teithwyr er mwyn hurio ac enillion
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon yn addas ar gyfer gyrwyr tacsis.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cludo teithwyr er mwyn hurio ac enillion
P1 ymateb i gais am dacsi ar fin y ffordd
P2 ymateb i gais mewn safle tacsis awdurdodedig
P3 ymateb i gais am amcangyfrif ar gyfer siwrnai y tu allan i ffin drwyddedu
P4 ymateb i archeb gan weithredwr
P5 ymateb i archeb drwy gais radio neu drwy anfon data
P6 prosesu tâl cerbyd hacni o’r mesurydd tacsi i roi derbynneb i’r cwsmer
P7 prosesu tâl lle codir tâl ychwanegol o’r tabl taliadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rhesymau pam mae’n rhaid i yrwyr a cherbydau gael trwydded
K1 y rhesymau pam mae gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr yn cael eu trwyddedu ar wahân yn y diwydiant hurio preifat a thacsis
Cydymffurfio â’r gofynion i ddal a chadw trwydded gyrwyr
K2 sut mae cael trwydded gyrrwr hurio preifat
K3 pam y gellir caniatáu tystysgrif eithrio meddygol i:
K3.1 safonau meddygol Grŵp 2
K3.2 cludo cŵn cymorth
K3.3 darparu cymorth i bobl anabl o dan ddeddfwriaeth
K4 y term ‘cymwys a phriodol’ yng nghyd-destun cais am drwydded gyrrwr
K5 y term ‘datgeliad llawn’ yng nghyd-destun cais am drwydded gyrrwr
K6 hyd dilysrwydd trwydded gyrrwr fel a bennir gan y rheoliadau neu’r awdurdod trwyddedu
K7 rhannau perthnasol y Rheoliadau Statudol sy’n gymwys i drwyddedu gyrwyr hurio preifat
K8 y weithdrefn apelio o fewn y rheoliadau perthnasol i ymgeiswyr y mae eu cais am drwydded wedi’i wrthod, ei atal dros dro neu ei ddirymu
K9 yr amgylchiadau lle gall trwydded gyrrwr gael ei hatal dros dro neu ei dirymu ar unwaith
K10 y bobl a ganiateir i yrru cerbyd trwyddedig
K11 y bobl awdurdodedig sydd â’r awdurdod i ofyn am weld trwydded gyrrwr neu weithredwr
Darparu tacsi sy’n cydymffurfio â gofynion yr awdurdod trwyddedu
K12 y mathau o gymeradwyaeth a’r categorïau sy’n ymwneud â thrwyddedu tacsis
K13 amodau trwyddedu cerbydau
K14 y termau dadreoleiddio a chyfyngiad wrth gyhoeddi trwyddedau cerbyd
K15 canlyniadau peidio ag arddangos plât trwydded fel sydd wedi’i ragnodi gan yr awdurdod trwyddedu
K16 y prif fanylion sydd i’w gweld ar blât trwydded
K17 yr amserlen ar gyfer dychwelyd platiau a disgiau trwydded i’r awdurdod trwyddedu os cânt eu gwahardd, dirymu neu os ydynt yn dod i ben
K18 yr amgylchiadau lle gellir gwahardd dros dro neu ddirymu trwydded cerbyd ar unwaith
K19 y weithdrefn apelio os yw trwydded cerbyd wedi’i gwrthod, ei hatal dros dro neu ei dirymu
Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cludo teithwyr er mwyn hurio ac enillion
K20 yr amodau sydd ynghlwm wrth y term ‘ceisio cael ei hurio’
K21 y defnydd o’r mesurydd tacsi neu lyfryn taliadau cymdeithas ar gyfer siwrneiau y tu allan i’r ffin drwyddedu
K22 y term ‘archebu ymlaen llaw’
K23 canlyniadau chwilio am gwsmeriaid heb drwydded cerbyd hacni gan gynnwys y goblygiadau yswiriant
K24 y gofyniad i gerbyd â mesurydd arddangos prisiau a chostau drwy dabl neu fwrdd costau rhagnodedig yn y cerbyd
K25 sut mae taliadau tacsis/cerbydau hacni a hurio preifat yn cael eu cyfrifo
K26 yr is-ddeddfau statudol lle maent yn ymwneud â’r canlynol:
K26.1 ymddygiad mewn safleoedd tacsis
K26.2 pellter rhagnodedig y dref, dinas neu fwrdeistref
K26.3 oedi, esgeuluso neu hepgor cymryd cais i hurio
K26.4 defnyddio’r llwybr mwyaf uniongyrchol oni bai y ceir cyfarwyddiadau gwahanol
K26.5 codi tâl sy’n fwy na’r hyn y cytunwyd arno neu sydd wedi’i awdurdodi gan yr is-ddeddf
K27 yr amgylchiadau lle gall gyrrwr gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr Is-ddeddfau lleol
K28 y gwahaniaeth rhwng arwyddion sydd wedi’u gwahardd/cyfyngu ar gerbydau hurio preifat a’r arwyddion a’r hysbysebion a ganiateir ar dacsis/cerbydau hacni
K29 y gofyniad cyfreithiol ynglŷn â dim ysmygu gan gynnwys arwyddion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Tacsi
Mae'n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig