Darparu cerbyd diogel a chyfreithlon i gludo teithwyr â thacsi/neu gerbyd hurio preifat
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â darparu cerbyd diogel a chyfreithlon ar gyfer eich teithwyr. Rhaid i chi allu edrych ar ôl eich cerbyd a’i gadw’n lân. Rydych yn gwybod ac yn deall llawer am y gofynion cyfreithiol sylfaenol ar gyfer eich cerbyd sydd i gael ei ddefnyddio fel tacsi neu gerbyd hurio preifat.
Mae’r Safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Glanhau’r cerbyd yn barod i gludo teithwyr a fydd yn talu
2. Cynnal archwiliad cyffredinol o gerbyd trwyddedig cyn cludo teithwyr
3. Cynnal gwiriadau gwasanaethu a gweithredol sylfaenol i sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd y cerbyd
Mae’r Safon hon ar gyfer**
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Glanhau’r cerbyd yn barod i gludo teithwyr a fydd yn talu
P1 dewis cyfarpar a deunyddiau glanhau priodol ar gyfer golchi’r tu allan i’r cerbyd
P2 defnyddio cyfleusterau golchi a glanhawyr i gael gwared ar faw'r ffordd a halogyddion eraill oddi ar gorff y cerbyd
P3 dewis cyfarpar a deunyddiau glanhau priodol ar gyfer golchi tu mewn i’r cerbyd
P4 defnyddio’r cyfarpar priodol i lanhau tu mewn i’r cerbyd
P5 paratoi a chadw tu allan a thu mewn y car mewn cyflwr sy’n cydymffurfio â gofynion y drwydded
Cynnal archwiliad cyffredinol o gerbyd trwyddedig cyn cludo teithwyr
P6 archwilio tu allan i’r cerbyd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau trwyddedu ac unrhyw rai eraill sy’n berthnasol i’r defnyddiwr
P7 archwilio tu mewn i’r cerbyd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau trwyddedu ac unrhyw rai eraill sy’n berthnasol i’r defnyddiwr
P8 archwilio a gwirio unrhyw gyfarpar arbenigol yn y cerbyd
P9 archwilio a gwirio’r gwregysau diogelwch a’r pwyntiau angori i sicrhau eu bod yn gweithio a’u bod yn ddiogel
P10 archwilio a gwirio bod y goleuadau a’r cyfarpar arwyddo’n gweithio
P11 archwilio a gwirio cyflwr a gweithrediad y glanhawyr a’r golchwyr ffenestri
P12 archwilio’r drychau gorfodol a’r sgrin wynt am graciau, difrod a staeniau
P13 chwilio am arwyddion bod dŵr, tanwydd neu olew yn gollwng
P14 archwilio’r olwynion a’r teiars i sicrhau eu bod yn ddiogel, nad yw’r pwysedd yn rhy isel, eu bod wedi rhwygo, torri neu wisgo
Cynnal gwiriadau gwasanaethu a gweithredol sylfaenol i sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd y cerbyd
P15 gwirio lefelau hylifau ac ychwanegu rhagor os oes angen, gan gynnwys:
P15.1 olew’r injan
P15.2 hylif y golchwr ffenestri
P15.3 hylif y breciau
P15.4 oerydd
P16 archwilio a phrofi systemau’r cerbyd cyn cludo teithwyr fel sy’n briodol yn achos y cerbyd sy’n cael ei yrru
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Glanhau’r cerbyd yn barod i gludo teithwyr a fydd yn talu
K1 pa ddeunyddiau glanhau sydd fwyaf addas i lanhau tu mewn a thu allan y cerbyd
K2 yr halogyddion mwyaf cyffredin
K3 perthnasedd Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
(COSHH) wrth ddewis deunyddiau glanhau
K4 sut i waredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel a chywir
Cynnal archwiliad cyffredinol o gerbyd trwyddedig cyn cludo teithwyr
K5 pam mae angen gwasanaeth a gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar y cerbyd
K6 gofynion y rheoliadau ar gyfer archwilio a phrofi’r cerbyd trwyddedig
K7 sut i gynnal archwiliad diogelwch cyffredinol i sicrhau bod y cerbyd trwyddedig yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol ar gyfer cludo teithwyr
K8 gofynion y rheoliadau o ran pŵer unigolion awdurdodedig i archwilio a phrofi cerbyd ar unrhyw adeg resymol i sicrhau ei fod mewn cyflwr i weithredu
K9 rôl yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) i sicrhau bod Safonau Archwilio Cenedlaethol yn cael eu cynnal
K10 effaith y termau canlynol:
K10.1 cydymffurfiaeth
K10.2 hysbysiad gwahardd ar unwaith
K10.3 hysbysiad gwahardd wedi’i ohirio
K10.4 hysbysiad nam
K10.5 nodyn cynghori K10.6 cosbau penodedig
K10.7 gwaharddiadau
K11 cyfrifoldeb y gyrrwr o ran y safonau amgylcheddol cyfredol
K12 pam mae angen hysbysu’r awdurdod trwyddedu o ddifrod damweiniol
Cynnal gwiriadau gwasanaethu a gweithredu sylfaenol i sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd y cerbyd
K13 pwysigrwydd systemau monitro’r cerbyd i hysbysu’r gyrrwr o broblemau posibl
K14 sut y gall Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladwaith a Defnydd) 1986 ddylanwadu ar yrrwr wrth gynnal a dewis teiars
K15 y gofynion cyfreithiol ynghylch teiars o ran dyfnder yr wyneb, traul unffurf, rhwygiadau, toriadau, difrod a phwysedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig