Darparu gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol yn y diwydiannau tacsi a hurio preifat
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth cwsmeriaid i gwsmeriaid sy’n defnyddio eich tacsi neu gerbyd hurio preifat.
Mae’r Safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Dangos proffesiynoldeb ac effeithlonrwydd
2. Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i gwsmeriaid
3. Gweithio gydag a chyfathrebu’n effeithiol â phobl a all gefnogi a chynorthwyo gwasanaethau
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dangos proffesiynoldeb ac effeithlonrwydd
P1 cyfleu delwedd broffesiynol i gwsmeriaid gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol
P2 delio ag anghenion cwsmeriaid yn effeithlon ac effeithiol
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i gwsmeriaid
P3 cyflawni disgwyliadau cwsmeriaid o ran amseroedd cyrraedd pen y daith
P4 helpu cwsmeriaid â’u bagiau ac unrhyw geisiadau eraill ar ddechrau, yn ystod ac ar ddiwedd y siwrnai o fewn eich cyfrifoldebau a’ch galluoedd personol
Gweithio a chyfathrebu’n effeithiol â phobl a all gefnogi a chynorthwyo gwasanaethau
P5 gweithio gydag ac ochr yn ochr â phobl a all helpu a rhannu gwybodaeth i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dangos proffesiynoldeb ac effeithlonrwydd
K1 deall sut y gall ymddangosiad personol ddylanwadu ar argraff gyntaf cwsmeriaid a’u hannog i ddefnyddio eich gwasanaeth eto
K2 y dewis o ddarparwyr cludiant sydd ar gael i gwsmeriaid
K3 pam y byddai cwsmer yn dewis teithio â thacsi neu gerbyd hurio preifat
K4 pwysigrwydd cyfleu delwedd broffesiynol i’r cwsmer gan gynnwys:
K4.1 bod â cherbyd glân, y tu mewn a’r tu allan
K4.2 bod yn hawddgar, cyfeillgar a chroesawgar
K4.3 meddu ar wybodaeth broffesiynol
K4.4 parchu angen cwsmeriaid am breifatrwydd
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i gwsmeriaid
K5 effeithiau lefelau gwahanol o ansawdd gwasanaeth a sut y gallant ddylanwadu
ar:
K5.1 disgwyliadau cwsmeriaid
K5.2 proffidoldeb
K5.3 cyfran y busnes o’r farchnad
K6 y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ar gael a sut maent yn cael eu darparu
K7 gwasanaethau cwsmeriaid a ddarperir i gwsmeriaid tacsis a cherbydau hurio preifat
K8 yr arweiniad a’r croeso arbennig y gall gyrrwr ei gynnig i deithwyr sy’n cyrraedd ac yn ymadael mewn canolfannau cludiant a phwyntiau cyfnewid
K9 pam mae’n bwysig bod pob cwsmer yn cael eu trin yn gyfartal pan fyddant yn defnyddio trafnidiaeth teithwyr
K10 y prif ddeddfau sy’n gwarchod teithwyr tacsis/cerbydau hurio preifat rhag arferion gwahaniaethol
K11 gwybod beth mae’r termau ‘stereoteipio’ ac ‘aflonyddu’ yn ei olygu
K12 y gwahanol fathau o wahaniaethu y dylai gyrwyr fod yn ymwybodol ohonynt
K13 yr amgylchiadau lle gallai gyrrwr gael ei gyhuddo o wahaniaethu
K14 sut y gall gweithredwyr tacsis neu gerbydau hurio preifat newid eu gwasanaeth i gydymffurfio â chodau ymarfer, amodau trwydded a deddfwriaeth cydraddoldeb perthnasol
Gweithio gydag a chyfathrebu’n effeithiol â phobl a all gefnogi a chynorthwyo gwasanaethau
K15 pwysigrwydd gweithio ochr yn ochr â phobl a all helpu a rhannu gwybodaeth i wella’r busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedi