Gyrru tacsi neu gerbyd hurio preifat mewn modd proffesiynol
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gyrru tacsi neu gerbyd hurio preifat mewn modd proffesiynol.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Paratoi i yrru’r cerbyd i gludo teithwyr yn ddiogel
2. Gyrru’r cerbyd a chludo teithwyr mewn modd diogel a chyfforddus
Mae’r Safon hon ar gyfer**
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi i yrru’r cerbyd i gludo teithwyr yn ddiogel**
P1 dangos eich bod yn meddu ar drwydded yrru gyfredol a gyhoeddwyd gan yr awdurdod trwyddedu perthnasol
P2 dangos bod gan y cerbyd drwydded yrru gyfredol a gyhoeddwyd gan yr awdurdod trwyddedu a’i bod wedi’i harddangos yn gywir
P3 dangos bod gennych bolisïau yswiriant cyfredol i ddiogelu rhag risgiau trydydd parti
P4 dangos bod gan weithredwr neu berchennog y cerbyd MOT neu dystysgrif cydymffurfiaeth gyfredol a gyhoeddwyd gan yr Adran Trafnidiaeth
P5 cynnal gwiriad cyn gyrru i sicrhau bod y cerbyd trwyddedig yn cydymffurfio â’r amodau trwyddedu o ran cludo teithwyr yn ddiogel
P6 arddangos bathodyn y gyrrwr yn y ffordd a ragnodir yn y ddeddfwriaeth
P7 dangos bod y cerbyd wedi’i baratoi i gludo teithwyr yn ddiogel a’i fod yn gynnwys cyfarpar argyfwng yn unol â’r amodau trwyddedu
Gyrru’r cerbyd a chludo teithwyr mewn modd diogel a chyfforddus**
P8 sicrhau bod teithwyr yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Gwregysau Diogelwch cyfredol
P9 dehongli manylion y siwrnai yn unol â chais y teithiwr neu’r swyddfa archebu
P10 sicrhau bod teithwyr yn eistedd yn gyfforddus a bod unrhyw fagiau wedi’u storio’n ddiogel
P11 gyrru’r cerbyd mewn ffordd sy’n ddiogel i gwsmeriaid a defnyddwyr eraill y ffordd; addasu arddull gyrru’n unol ag anghenion penodol y cwsmer
P12 gyrru mewn ffordd sy’n ystyried y defnydd o danwydd a thraul ar y teiars a’r brêc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi i yrru’r cerbyd i gludo teithwyr yn ddiogel
K1 pwysigrwydd bod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol
K2 y meini prawf meddygol ar gyfer cyflwyno tystiolaeth o ‘addasrwydd i yrru’
K3 sut y gall anhwylderau cyffredin a rhai meddyginiaethau dros y cownter effeithio ar grebwyll a gallu gyrwyr i ganolbwyntio
K4 achosion straen a all effeithio ar grebwyll a gallu gyrwyr i ganolbwyntio
K5 yr unigolion awdurdodedig sydd â’r awdurdod i ofyn am weld trwydded gyrrwr
Gyrru’r cerbyd a chludo teithwyr mewn modd diogel a chyfforddus
K6 y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â defnyddio gwregysau diogelwch
K7 sut y dylai gyrwyr addasu eu ffordd o yrru’n ôl amodau’r ffordd ar y pryd ac i yrru’n ddiogel
K8 elfennau a buddiannau gyrru amddiffynnol
K9 y cyfyngiadau cyflymder yn yr ardal lle’r ydych yn gweithredu a’r mecanweithiau i orfodi’r cyfyngiadau
K10 sut mae arddull gyrru personol yn effeithio ar ba mor effeithlon mae’r cerbyd yn rhedeg a sut mae hynny’n cyfrannu at warchod yr amgylchedd
K11 sut mae nifer y teithwyr sy’n cael eu cludo’n effeithio ar y cerbyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
*Tacsi * Mae'n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig